Defnyddio technoleg i fonitro bywyd adar ar ffermydd ledled Cymru

Mae adar yn chwarae rhan hanfodol wrth gynnal ecosystemau iach a chynhyrchiant amaethyddol yn ogystal â darparu dangosydd defnyddiol o iechyd cynefinoedd ar y fferm. Yn aml, mae ffermwyr yn ymwybodol o'r ymwelwyr rheolaidd â'u ffermydd ond anaml y mae ganddynt yr amser i fonitro a chofnodi rhywogaethau. Mae arolygon adar traddodiadol yn cymryd llawer o amser ac yn llafurddwys felly mae'r prosiect hwn yn defnyddio rhywfaint o dechnoleg newydd sy'n cofnodi cân adar yn awtomatig, y gellir ei hadnabod wedyn gan ddefnyddio systemau cyfrifiadurol sydd wedi'u hyfforddi gan ddeallusrwydd artiffisial. Dyfeisiau bach, sy'n cael eu pweru gan fatri, yw'r monitorau acwstig Chirrup, y gellir eu gosod ar y fferm a'u rhaglennu i recordio ar amser penodol bob dydd. Ar gyfer y prosiect hwn, rydym wedi dewis recordio cân yr adar yn ystod côr y wawr bob bore am 2 – 3 wythnos. Mae pedair fferm ar ddeg ledled Cymru yn cymryd rhan yn y prosiect ac mae dau synhwyrydd wedi'u gosod ar bob fferm. Mae amrywiaeth o fathau o ffermydd yn cymryd rhan gan gynnwys fferm yr ucheldir, iseldir, fferm laeth, bîff, defaid a dofednod.

Bydd y data a gesglir yn rhoi cipolwg diddorol ar yr adar sydd yn bresennol ar bob un o'r ffermydd sy'n cymryd rhan a bydd yn cyfrannu at ein dealltwriaeth o ba rywogaethau a chynefinoedd sydd i'w cael ledled Cymru. Bydd hyn yn llywio pa gynefinoedd sydd angen eu creu neu eu cynnal mewn rhai ardaloedd ac a allai cynefinoedd dros dro gynnal rhai rhywogaethau.

Bydd y canlyniadau'n barod yn ddiweddarach yn haf 2025.