Dichonolrwydd ynni adnewyddadwy ar fferm Pengelli Isaf

Prif ganlyniadau

  • Elw ariannol gorau: System solar ffotofoltaidd (PV) 6kWp ar gyflenwad trydan cam unigol presennol.
  • Cyfnod ad-dalu: 9 mlynedd ar gyfer y system ffotofoltaidd 6kWp; 10 mlynedd ar gyfer y system ffotofoltaidd 15kWp ac uwchraddio i gyflenwad trydan tri cham.
  • Elw net dros y 25 mlynedd nesaf: £25,574 (6kWp PV); £52,298 (15kWp PV).
    Opsiynau tyrbin gwynt: Llai hyfyw yn ariannol nag opsiynau solar ffotofoltaidd oherwydd costau cyfalaf, gweithredu a chynllunio uwch.
  • Storfeydd batri: Cynyddu hunan ddefnydd o drydan a gynhyrchir ar y safle, fodd bynnag yn gostwng elw ariannol ychydig ar gyfer prosiectau ffotofoltaidd o ganlyniad i gostau cyfalaf uchel y batri ei hun, ond mae’n cynyddu hyfywedd tyrbinau gwynt ychydig.
  • System hybrid ffotofoltaidd-gwynt: Yn fuddiol o safbwynt technegol o ran defnyddio cymaint o drydan a gynhyrchir ar y safle eich hunain â phosibl, ond yn llai deniadol yn ariannol na phrosiect ffotofoltaidd unigol o ganlyniad i gostau uchel ar gyfer y tyrbin gwynt.

Cefndir

Mae Pengelli Isaf yn fferm deuluol gymysg wedi’i lleoli ar gyrion tref Caernarfon. Maen nhw’n ffermio 330 erw gan gadw buches o 140 o wartheg llaeth Holstein Friesian sy’n lloia o fis Medi tan fis Mawrth, ond yn gwyro’n sylweddol tuag at yr hydref ar gyfer prif fenter y fferm.

Fel unrhyw fusnes fferm laeth arall, mae ynni a thrydan yn gost sylweddol. Roedd y teulu’n awyddus i gwblhau astudiaeth ddichonoldeb i weld pa systemau cynhyrchu trydan adnewyddadwy fyddai fwyaf addas i’w busnes fferm, a chyfrifo ffigwr elw ar fuddsoddiad ar amser ad-dalu. Mae’r fferm yn defnyddio oddeutu 74,000kWh o drydan bob blwyddyn ar hyn o bryd, sy’n costio oddeutu £24,000 y flwyddyn.

Diben y gwaith

Bu’r astudiaeth ddichonolrwydd yn archwilio hyfywedd ehangu’r fenter gynhyrchu ynni adnewyddadwy ar y fferm mewn perthynas â’r pwyntiau canlynol:

  • Gwerthusiad manwl o opsiynau solar ffotofoltaidd a thyrbinau gwynt.

  • Gwerthusiad o storfeydd batri a systemau hybrid.

  • Ystyried technolegau ynni adnewyddadwy eraill, yn enwedig trydan dŵr, biomas, treulio anaerobig a phympiau gwres.

  • Argymell gwelliannau o ran effeithlonrwydd ynni.

  • Darparu model ariannol er mwyn llywio penderfyniadau.

Yr hyn a wnaed

  • Asesiad o’r safle: Adolygu’r defnydd ynni presennol ar y safle, isadeiledd ac addasrwydd y tir ar gyfer ynni adnewyddadwy.
  • Dadansoddiad o’r grid: Trafod gyda Rhwydweithiau Ynni Scottish Power Energy Networks i ganfod cyfyngiadau capasiti a chostau uwchraddio’r cyflenwad.
  • Modelu technoleg:
    • Efelychu perfformiad system ffotofoltaidd gan ddefnyddio meddalwedd PVSol.
    • Asesu cyflymder gwynt ar y safle gan ddefnyddio modelau NOABL, JRC, a’r Atlas Gwynt Ewropeaidd.
    • Gwerthuso perfformiad y storfa fatri a gosodiadau systemau hybrid.
  • Modelu ariannol: Cyfrifo amseroedd ad-dalu prosiectau, elw ar fuddsoddiad mewnol, Costau Trydan wedi’u Lefelu (LCOE), ac elw net dros oes prosiect, sef 25 mlynedd.
  • Archwiliad effeithlonrwydd ynni: Nodi gwelliannau posibl i’r ffermdy a phrosesau ar y fferm.

Canlyniadau

  • Solar Ffotofoltaidd:
    • System 6kWp: Darparu’r elw gorau gyda chyfyngiad bach ar y trydan sy’n cael ei allforio yn ôl i’r grid.
    • System 15kWp: Darparu allbwn ynni uwch ond llai o elw na’r system 6kW lai o faint.
  • Tyrbinau gwynt:
    • Britwind H5 (5kW): Hyfywedd ymylol, cyfnod ad-dalu hir.
    • Britwind H11 (11kW): Gwell perfformiad ond gyda chost cyfalaf llawer uwch na thyrbin 5Kw. Byddai angen uwchraddio’r grid i gyflenwad tri cham.
  • Storfeydd batri:
    • Cynyddu faint o’r trydan a gynhyrchir ar y safle y gallwch ei ddefnyddio eich hun.
    • Gwell hyfywedd ariannol dim ond wrth ei baru gyda thyrbin gwynt.
  • System hybrid (solar a gwynt):
    • Yn cyd-fynd â’i gilydd yn dechnegol o ran gwella defnydd o drydan a gynhyrchir ar y safle.
    • Llawer llai deniadol na systemau solar ar eu pen eu hunain neu dyrbinau gwynt gyda batri.
  • Technegau eraill:
    • Ynni dŵr, treulio anaerobig, biomas a phympiau gwres: mae’r rhain yn bosibl o safbwynt technegol ond yn gallu bod yn heriol o safbwynt ariannol neu ymarferoldeb.
  • Effeithlonrwydd ynni:
    • Argymhellir defnyddio goleuadau LED, uwchraddio deunydd inswleiddio, ac adfer gwres ar y system odro.

Sut i’w roi ar waith ar eich fferm

  • Defnydd ynni: Mesurwch eich defnydd ynni blynyddol gan edrych ar filiau a darlleniadau mesurydd.
  • Effeithlonrwydd: Ystyriwch ffyrdd y gellir defnyddio ynni yn fwy effeithlon ar y fferm, e.e. goleuo, lefelau inswleiddio, ffenestri, gwres a dŵr poeth, adfer o wres, prosesau’r fferm a cherbydau.
  • Cyflenwad trydan: Sicrhewch eich bod yn deall y math o gyflenwad trydan ar y fferm; cam unigol, cam deuol neu dri cham.
  • Ynni adnewyddadwy: Chwiliwch am gyfleoedd posibl i gyflwyno ynni adnewyddadwy ar y fferm ar ardaloedd penodol o dir, toeau mawr ar adeiladau, nentydd neu afonydd gyda llif cyflym, bryniau agored, cyflenwad biodanwydd posibl megis slyri, cnydau gwastraff a phren gwastraff.
  • Ymgynghorwch ag arbenigwyr: Gofynnwch am gyngor arbenigol.