Diweddariad am Brosiect Fferm Pentre: Gwerthuso effeithiolrwydd ysgellog mewn systemau defaid yng Nghymru - Paratoi ar gyfer blwyddyn 2

Yn ystod y misoedd diwethaf, mae’r ffermwr arddangos Hugh Jones wedi bod yn rheoli’r caeau prawf yn ofalus i sicrhau bod gorchudd glaswellt digonol, ond ddim yn ormodol, ar gael i’r ŵyn ar ôl eu diddyfnu. Yn ystod y cyfnod hwn mae wedi bod yn gweithio gyda Rhys Williams, Precision Grazing Ltd i gyfrifo’r galw ymhlith y grwpiau stoc gwahanol sy’n pori ar y padogau yn y system gylchdro, yn ogystal â chyfrifo’r cyflenwad sydd ar gael. Os yw’r gorchudd glaswellt yn fwy na’r hyn sydd ei angen ar adeg diddyfnu, bydd yn cael effaith ar berfformiad yr ŵyn.

Defnyddiwyd meddalwedd AgriNet i gyfrifo hyd y cylchdro yn ogystal â rheoli nifer y padogau yn y cylchdro. Ychwanegwyd cae arall i’r cylchdro yn ystod y gwanwyn oherwydd bod y galw gan y stoc yn fwy na’r cyflenwad o laswellt yn ystod y cyfnod hwnnw. Mae Hugh wedi bod yn mewnbynnu uchder y gwyndonnydd o ddarlleniadau mesurydd plât i’r feddalwedd, ac mae’r wybodaeth hon yn cael ei defnyddio ar y cyd â’r ffigyrau yn ymwneud â’r galw gan yr anifeiliaid i greu lletem laswellt ar gyfer y cylchdro, fel mae graff 1 yn ei ddangos.

Graff 1. Ffigyrau gwir orchudd y padogau a’r galw yn Fferm Pentre

Yn ogystal â hyn, mae Hugh wedi bod yn defnyddio’r synhwyrydd ‘Dual Temp’ LoRaWAN yn un o’r caeau prawf ynghyd â mesuriadau’r glaswellt (gweler Ffigur 1). Mae’r synhwyrydd hwn yn mesur tymheredd y pridd a’r aer yn rheolaidd ac anfonir yr wybodaeth drwy borth y fferm i ddangosfwrdd gweledol sydd ar gael ar-lein. Mae’r data wedi cael eu mewnbynnu i AgriNet ac roedd yn ddefnyddiol iawn ar ddechrau’r tymor tyfu. Yn y dyfodol, bydd mesuriadau tyfiant y glaswellt a thymheredd y pridd yn parhau i gael eu gwerthuso ochr yn ochr i bennu a oes cydberthynas neu beidio rhwng yr amrywiadau hyn.

Ffigur 1. Synhwyrydd ‘Dual Temp’ LoRaWAN yn un o’r caeau prawf

Mae’r camau nesaf yn cynnwys rhannu caeau’r prawf yn is-adrannau llai cyn diddyfnu’r ŵyn i sicrhau bod yr ysgellog yn benodol yn cael ei bori’n gywir (h.y. nad yw’n gordyfu). Bydd hyn yn golygu bod wyth padog i bob cynllun trin. Bydd yr ŵyn yn cael eu diddyfnu ar ddiwedd mis Gorffennaf a bydd data ar y gwyndonnydd a pherfformiad yr ŵyn yn cael eu casglu a’u dadansoddi.