Diweddariad ar Brosiect Pencwm Tachwedd 2024
Beth sydd wedi cael ei wneud hyd yn hyn?
Cynhaliwyd archwiliad gweledol o strwythur y pridd gyda’r sgorau canlynol: -
- 0-10cm. Sgôr o 4 = gwael. Ychydig iawn o strwythur ac yn fandyllog iawn, bydd hyn yn rhwystro datblygiad gwreiddiau, yn debygol o fod o ganlyniad i symudiad gwartheg.
- 10-15cm. Sgôr o 2. Da = pridd wedi’i strwythuro’n dda gyda nifer o fandyllau a cherrig mawr crwn.
- 15-30cm. Sgôr o 1. Da iawn = Strwythur ardderchog, mandyllog iawn, amodau da ar gyfer gwreiddio.
Cafodd cynnyrch (Tabl1) ar gyfer y gwahanol gymysgeddau ei gyfrifo gan ddefnyddio’r fethodoleg torri a phwyso. Roedd hyn yn golygu mesur ardal 1m x 1m, torri/tynnu ac yna pwyso.
Tabl 1. Canlyniadau cynnyrch.
Cynnyrch (t/ha) | Cynnyrch (t/erw) | |
Cêl | 14.5 | 5.87 |
Cymysgedd 1 | 9.5 | 3.85 |
Cymysgedd 2 | 20.5 | 8.3 |
Fel y gwelir yn nhabl 1, cymysgedd 2 (80% Rhygwellt Porthiant, 14% Ffacbys y Gaeaf, 2% Maip Sofl, 2% Llyriad a 2% Rhuddygl y Gerddi) oedd fwyaf cynhyrchiol o’r tair llain. Cymysgedd 1 (60% Rhygwellt Eidalaidd Tetraploid, 16% Bresych Hybrid Spitfire, 16% Meillion Gwaetgoch ac 8% Llyriad) oedd y cnwd lleiaf cynhyrchiol, gan gynhyrchu ychydig yn llai na hanner y tunelledd o’i gymharu â chymysgedd 2.
Camau nesaf:
- Cafodd gwartheg eu troi i bori’r cnydau ym mis Hydref, a bydd eu cymeriant yn parhau i gael ei fonitro.
- Mae ffensys trydan yn cael eu symud yn ddyddiol i helpu i ddefnyddio’r cnydau a lleihau gwastraff.
- Bydd glendid y gwartheg a faint o’r cnwd sy’n cael ei glirio yn cael eu monitro drwy gydol y cyfnod pori.
Ffigur 1- Gwartheg yn pori’r cae gyda thair llain wahanol (Tachwedd 2024).