Diweddariad ar Safle Arddangos Pendre – Gorffennaf 2020
Yn ystod y cyfnod sych ym mis Mai 2020 gwnaed niwed mawr yn fferm Pendre, gyda 15 erw o lethrau’n llosgi ac yn amhosib eu defnyddio fel rhan o’r system pori cylchdro. Yn ffodus i Tom, roedd y gallu i werthu stoc yn golygu bod modd iddo leihau’r pwysau ar y borfa. Yng nghanol mis Mai penderfynodd werthu ŵyn yn ysgafnach, gyda 48 o ŵyn yn cael eu gwerthu ar gyfartaledd pwysau byw adeg eu lladd o 33kg am £90.50 yr un. Hefyd gwerthwyd mamogiaid i’w difa gyda 45 yn cael eu dewis o'r grŵp wyna cynharach a gwerthwyd y rhain am bris da o £95 yr un. Mewn blwyddyn arferol, byddai rhai o'r mamogiaid hyn wedi cael eu cadw am flwyddyn arall ond er mwyn lleihau'r galw am borthiant fe’u gorfodwyd i wneud y penderfyniad. Gwerthwyd 60 o ŵyn eraill ddechrau mis Mehefin, gan leihau'r niferoedd er mwyn ymestyn cyflenwadau porthiant. Mae dwysfwyd wedi bod ar gael fel bo’r angen i’r ŵyn er mwyn cynnal lefel y deunydd sych (DM) a fwyteir.
Mae'r system pori cylchdro a gyflwynwyd eleni wedi talu ar ei ganfed gyda Tom yn gallu cadw porfa o safon ar gyfer y mamogiaid a’r ŵyn. Ar ddechrau mis Mai roedd y glaswellt wedi tyfu digon i gau’r caeau ar gyfer silwair, ond erbyn dechrau mis Mehefin, roedd y system pori cylchdro’n cael ei heffeithio a heb unrhyw law, byddai mwy o ŵyn yn cael eu gwerthu'n ysgafnach nag arfer. Gwnaed toriad ysgafn o silwair i ailgyflwyno'r caeau i’r system bori. Mae'r cyfnod gorffwys wedi bod yn allweddol i’r lleiniau ac er bod twf wedi bod yn araf, mae wedi bod yn tyfu er bod y tir wedi bod yn brin o leithder.
Mae'r buddsoddiad mewn cafnau dŵr ar gyfer y rhan fwyaf o gaeau wedi bod yn un doeth ac yn un peth yn llai i Tom boeni amdano. Roedd y cyflenwad dŵr yn ddigonol drwy gydol y cyfnod sych ym mis Mai.
Cafodd gwrtaith nitrogen yn cael ei roi ar y caeau cyn gynted ag y cafodd glaw ei ddarogan. Rhoddwyd ychydig o wrtaith - 25-5-5 - 1cwt/erw, i hybu twf. Mae'r amodau tyfu da wedi golygu bod y llethrau'n aildyfu ac mae caeau ychwanegol wedi'u cau ar gyfer silwair. Diddyfnwyd ŵyn ar dir fferm arall ddechrau mis Gorffennaf ac wrth i fwy o ŵyn gael eu gwerthu oddi ar y fferm, caiff yr ŵyn hyn eu cario'n ôl i Bendre i'w gorffen. Mae ansawdd y glaswellt gan y system pori cylchdro’n golygu y rhoddwyd y gorau i ddefnyddio dwysfwyd ganol Mehefin.
Effaith y sychder ar dir yn fferm Pendre, 6 Mehefin 2020
Llethr yn ail-dyfu, dechrau Gorffennaf 2020