Diweddariad Prosiect Bronllwyd Fawr: Opsiynau cynaliadwy ar gyfer rheoli cloffni a lleihau'r defnydd o wrthfiotigau mewn diadell ddwys ar lawr gwlad – Tachwedd 2020

Yn ystod Tachwedd 2020, fe wnaeth Joe Angell (Milfeddygon y Wern), sef arbenigwr sy’n gweithredu ar y prosiect, ymweld â Bronllwyd Fawr er mwyn adolygu’r sefyllfa cloffni a chreu cynllun gweithredu. Bwriad yr ymweliad oedd gwneud diagnosis o’r achosion cloffni sy’n codi dro ar ôl tro ar y fferm a cheisio canfod yr hyn sy’n achosi’r lefel uchel o gloffni o fewn y ddiadell.

Roedd y grŵp o ddefaid a archwiliwyd yn cynnwys mamogiaid oedd yn dioddef o sgald, clwy’r traed a dermatitis carnol defeidiog heintus (CODD), gyda rhai defaid yn dangos tystiolaeth o fwy nag un math o haint. Amcangyfrifwyd fod 8-10% o’r ddiadell yn gloff. O ganlyniad i hyn, trafododd Joe gyda’r ffermwr ynglŷn â gweithredu ar gynllun penodol i drin cloffni er mwyn lleihau a rheoli’r broblem gan anelu i gael gwared â CODD o’r ddiadell. Roedd y cynllun yn cynnwys arwahanu’r mamogiaid cloff oddi wrth y mamogiaid iach cyn eu rhoi dan do, a hefyd yn ystod y cyfnod cadw dan do yn y gaeaf ac yn ystod y cyfnod ŵyna.   

 

Crynodeb o’r camau gweithredu yn dilyn yr ymweliad cyntaf

  • Adnabod a thrin defaid cloff pob 2-3 diwrnod gyda Betamox LA (CODD neu heintiau cymysg) neu Terramycin LA  r gyfer clwy’r traed, a’u harwahanu oddi wrth y defaid iach ble’n bosib. 
  • Rhoi Footvax i famogiaid, hyrddod ac ŵyn benyw yn ystod y cyfnod sganio. 
  • Adnabod a difa’r mamogiaid sy’n cael achosion newydd ailadroddus o glwy’r traed neu CODD.
  • Defnyddio calch mewn mannau lle mae llawer o gerdded neu mewn mannau lle mae defaid yn casglu.
  • Cadw cofnodion o’r holl achosion o gloffni a’r meddyginiaethau a ddefnyddir fel bo’r angen.
     

Ffigwr 1: Enghraifft o ddermatitis carnol defeidiog heintus (CODD)

Symptomau gweledol CODD:

  • Llaith a briw ar ben uchaf y carn (cefn bôn y carn).
  • Gall colli gwlân ddigwydd.
  • Mewn achosion difrifol, gall y carn ddod i ffwrdd. 

 

 

Ffigwr 2: Enghraifft o sgald

Symptomau gweledol sgald:

  • Briw coch rhwng y ddau garn. 

 

 

Ffigwr 3: Esiampl o glwy’r traed 

Symptomau gweledol clwy’r traed.

  • Difrod nodweddiadol i’r wadn.
  • Gall clwy’r traed hefyd achosi gwadn ddrwg sy’n arogli’n ddrwg.  

 

 

Ffigwr 1, 2 a 3 wedi’u darparu gan Joseph Angell, Milfeddygon y Wern