Diweddariad Prosiect Cefnllan

Mae Hefin Richards o Rumenation wedi bod yn gweithio ar waith prosiect gyda Neil yn ystod y tair blynedd diwethaf i lunio dognau ar gyfer y gwartheg yn fferm Cefnllan. Mae deiet gwartheg sy'n tyfu a gedwir mewn siediau yn seiliedig ar ddogn porthiant uchel ac yna rhoddir dogn startsh uwch i gyflymu'r cyfnod pesgi er mwyn lleihau'r amser ar y fferm. Mae ansawdd silwair yn ffactor pwysig ar gyfer y fenter bîff yn fferm Cefnllan gyda meillion coch yn y borfa i dargedu gwerth D (treuliadwyedd) uchel a phrotein. Yn ogystal â'r silwair, mae porfa wedi’i hau o dan gnydau grawn, sy'n darparu startsh yn seiliedig ar borthiant i'r gwartheg. Tyfir cymaint â phosibl ar y fferm, gan lenwi unrhyw fylchau yn y dogn drwy brynu cynnyrch i mewn. Yn ystod yr haf, gwnaed nifer o doriadau o silwair (cladd a byrnau), gyda dadansoddiad silwair yn cael ei wneud gan Hefin ar dri thoriad.

 

Gwerth D (% DS)

Protein Crai (% DS)

Deunydd Sych (%)

ME (MJ/kg DS)

Toriad 1- Cladd

71.19

11.87

28.39

11.39

Toriad 2- Byrnau

73.50

16.56

38.02

11.76

Toriad 3- Byrnau

71.49

19.10

46.85

11.44

Tabl 1. Dadansoddiad silwair 2022

 

Fel y gwelir yn Nhabl 1, roedd y toriad cyntaf yn siomedig mewn protein crai o'i gymharu â'r ddau doriad arall ac roedd gan y tri thoriad werth D uwch na 70. Roedd y dogn a luniwyd ar gyfer gwartheg sy’n tyfu yn cynnwys y silwair cladd a byrnau, mwynau a chymysgedd, gyda’r cymysgedd wedi'i gynhyrchu i archeb ac yn cael ei fwydo ar tua 1.75kg y pen, ynghyd â'r silwair. Bydd y gwartheg yn cael eu pwyso'n rheolaidd er mwyn gallu monitro perfformiad yn ofalus.