Diweddariad prosiect a chanlyniadau (Mai 2021): Opsiynau gwellt ar gyfer y sied ŵyna

Cefndir

Roedd Eilir Jones a’r teulu’n awyddus i ymchwilio a oedd unrhyw wahaniaethau o ran iechyd defaid rhwng defnyddio gwellt rêp a gwellt cnydau grawn ar gyfer mamogiaid ar ddiwedd beichiogrwydd, yn enwedig o ran nifer yr achosion o gloffni yn y ddiadell. Bu’r prosiect hefyd yn ystyried costau a’r defnydd a wnaed o’r gwahanol fathau o wellt, ynghyd â’r gwerth maethol (ffosfforws (P) a photasiwm (K)) yn y tail buarth dilynol. 

Cafodd oddeutu 350 o famogiaid o wahanol fridiau (Texel croes, Suffolk croes, Miwl croes a Byrch croes) a oedd yn cario gefeilliaid eu cadw dan do o ganol mis Ionawr hyd at ŵyna, tua diwedd mis Mawrth. Cafodd y mamogiaid eu rhannu i wyth corlan, gyda rhwng 43 a 45 o famogiaid ym mhob corlan. Defnyddiwyd gwellt haidd yn nhair o’r corlannau, gwellt rêp mewn tair arall a rhoddwyd haen o wellt rêp gyda gwellt haidd (gwellt cymysg) ar ei ben mewn dwy gorlan arall. Rhoddwyd gwellt glân bob pum niwrnod ar gyfartaledd.

 

Arsylwadau yn y sied

Bu Eilir yn monitro tymheredd y tu allan, tymheredd y sied (amgylchol) a thymheredd y gwellt yn ddyddiol. Ni welwyd gwahaniaeth rhwng y gwahanol fathau o wellt, gyda phob un yn dangos tymereddau tebyg.

Yn gyffredinol, y gwellt haidd oedd yn ymddangos lanaf, ynghyd â’r gwellt haidd/rêp cymysg. Y gwellt rêp oedd yn ymddangos fwyaf budr trwy gydol y prosiect. Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi bod y gwellt rêp yn dywyllach na’r gwellt haidd, felly mae’n bosibl ei fod yn edrych yn fwy budr. Defnyddiwyd cyfanswm tebyg o wellt ym mhob corlan, gyda 12 bwrn o wellt haidd (yn pwyso oddeutu 450kg fesul bwrn) a 13 bwrn o wellt rêp (yn pwyso oddeutu 400kg fesul bwrn) yn cael eu defnyddio trwy gydol y prosiect. Ni welwyd unrhyw wahaniaeth o ran glendid y mamogiaid yn y corlannau. 

 

Ffigwr 1. Gwellt haidd

 

Ffigwr 2. Gwellt cymysg

 

Ffigwr 3. Gwellt rêp

 

Gwelwyd bod y mamogiaid yn fforio ym mhob un o’r gwahanol fathau o wellt ar ôl rhoi gwellt glân, ond am fwy o amser yn y gwellt haidd. Fodd bynnag, rhoddwyd yr un faint o ychwanegion a silwair ym mhob corlan. Cwblhawyd dadansoddiad porthiant ar gyfer pob math o wellt, gyda’r gwellt haidd yn cynnwys mwy o werth maethol yn unol â’r disgwyl. 

 

Rêp

Haidd

Amcangyfrif o’r egni metaboladwy (ME) (MJ/kgDM)

4.6

6.7

Protein crai (CP)  (%)

3.4

4

Deunydd sych (DM) (%)

86.1

84.4

Iechyd defaid

Yn gyffredinol, roedd y mamogiaid mewn cyflwr da ac yn llwyddo i gynnal yr un cyflwr trwy gydol eu cyfnod yn y sied. Roedd mwy o achosion o gloffni ymysg mamogiaid ar wellt haidd o’i gymharu â gwellt rêp. Nododd Eilir fod y tail/gwellt yn cywasgu ar draed mamogiaid yn llawer mwy yn y corlannau gwellt haidd a gwellt cymysg o’i gymharu â’r corlannau gwellt rêp. (Roedd 4% o famogiaid yn gloff ar wellt rêp, 3% ar wellt rêp/haidd a 14% ar wellt haidd yn unig). 

 

 

Mae cloffni yn bendant yn broblem mewn nifer o ddiadelloedd sy’n cael eu cadw dan do ac mae’n ddrud o ran llafur a thriniaethau. Mae astudiaeth a gwblhawyd gan Brifysgol Warwick wedi dangos bod clwy’r traed yn unig yn gyfwerth â £6.35 y famog fesul blwyddyn mewn diadelloedd gyda 10% neu fwy o famogiaid cloff, ac yn gyfwerth â £3.90 y famog fesul blwyddyn mewn diadelloedd gyda 5% neu lai o famogiaid cloff. Mae’r costau hyn yn cynnwys dirywiad mewn perfformiad, cynnydd mewn costau atal a thrin a chostau difa.

Fe wnaeth naw mamog erthylu eu hŵyn o fewn y pedair wythnos olaf cyn ŵyna, gyda chanlyniadau’r post mortem yn cadarnhau tocsoplasmosis a salmonela. Nid yw ffynhonnell yr heintiau hyn yn hysbys, ond roedd wyth o’r rhain wedi cael eu cadw mewn corlannau gyda gwellt haidd ac un ohonynt mewn corlan gyda gwellt cymysg. Prynwyd y gwellt rêp yn uniongyrchol oddi ar y cae, ac roedd y gwellt haidd wedi cael ei storio cyn cyrraedd Fferm Talerddig. Nid oes cathod ar Fferm Talerddig.

 

Costau’r gwellt

Prynwyd y gwellt am £85 y dunnell ar gyfer y gwellt rêp a £130 y dunnell am y gwellt haidd. Defnyddiwyd symiau tebyg o wellt (rhwng 5 a 5.5t o bob math o wellt), gan olygu mai’r gwellt rêp oedd y dewis rhataf.

 

Tail buarth

Cymerwyd sampl cyfunol o dail buarth o’r corlannau a’i anfon i’w ddadansoddi. Roedd tail buarth yr haidd ychydig yn uwch o ran bob un o’r maetholion, fel y gwelir isod.

 

Gwellt rêp

Gwellt cymysg

Gwellt haidd

Deunydd sych (%)

28.6

30.3

28.2

Cyfanswm nitrogen (N) %

2.41

2.39

2.59

Cyfanswm ffosfforws (P) %

0.382

0.358

0.466

Cyfanswm potasiwm (K) %

2.77

2.93

3.13

Cyfanswm magnesiwm (Mg) %

0.418

0.425

0.559

Dim ond yn rhannol y mae’r maetholion sy’n bresennol mewn tail ar gael ar gyfer twf planhigion, felly gallant fod yn ddefnyddiol, ond gallant hefyd beidio â bod yn ddefnyddiol. Mae hyn yn dibynnu ar amser gwasgaru, yn ogystal ar y math o dail a’i ffurf.

 

Ôl troed carbon y gwellt

Mae cyfanswm cynhyrchiant hadau rêp yn Lloegr wedi bod yn amrywiol iawn dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys cynnydd blynyddol o 127% yn 2017 a lleihad blynyddol o 62% yn 2019 (DEFRA, 2018, 2019).

O ganlyniad i gynnyrch is a’r gymhareb gwellt:grawn, mae rêp hadau olew yn allyrru mwy o nwyon tŷ gwydr fesul cynnyrch (gwellt neu hadau) o’i gymharu â haidd a gwenith. Fodd bynnag, mae gwerth maethol hadau rêp cyflawn yn llawer uwch (ME o 19.1 MJ/kgDM a 22% protein crai mewn deunydd sych) na haidd cyflawn (ME o 13.2 MJ/kgDM a 12.3% protein crai mewn deunydd sych), ac mae gwellt rêp yn cynnwys llawer mwy o N a P na gwellt haidd. Byddai’n ddiddorol cymharu hadau rêp gyda haidd, gan ystyried y ffactorau ychwanegol hyn, yn hytrach na chymharu’r cynnyrch yn unig.

Nid yw gwellt rêp yn debygol o ddod yn ffynhonnell gwasarn sylweddol yn y DU, gan fod y broses o’i gynhyrchu’n gysylltiedig yn uniongyrchol â’r galw am hadau rêp, a sut mae hynny’n cymharu o safbwynt economaidd gyda hadau olew eraill ar draws y byd. Fodd bynnag, pe byddai buddion eraill yn cael eu hystyried, megis gwerth maethol yr hadau a’r gwellt, costau is a llai o achosion o gloffni, dylai gwellt rêp fod yn hyfyw yn amgylcheddol ac yn economaidd ar y cyfan. 

 

Casgliadau’r prosiect

  • Gwellt haidd oedd yn cynnig y gwasarn glanaf o safbwynt gweledol
  • Defnyddiwyd symiau tebyg o wellt haidd a gwellt rêp.
  • Roedd llai o ddefaid yn gloff ar y gwellt rêp o’i gymharu ag opsiynau gwellt eraill.
  • Ychydig iawn o wahaniaeth a welwyd o ran gwerth maethol y tail buarth rhwng y ddau fath o wellt.
  • Roedd gwellt rêp yn cynnig arbedion sylweddol o’i gymharu â gwellt haidd ar gyfer mamogiaid a gadwyd dan do yn 2021.