Diweddariad prosiect Cornwal Uchaf - Diweddariad Terfynol
Prif ganlyniadau:
- Y cnwd rêp/cêl oedd â’r cynhyrchiant uchaf, sef 10,233 kgDM/ha, 150% yn fwy na’r ail gnwd mwyaf cynhyrchiol, sef y gwndwn llysieuol a gynhyrchodd 6,713kg DM/ha.
- Roedd y gwndwn meillion coch yn darparu bron i deirgwaith y buddion o safbwynt elw ar fuddsoddiad o’i gymharu â’r gwndwn llysieuol, a dwywaith yr elw ar fuddsoddiad o’i gymharu â Redstart, yn seiliedig ar eu dyfalbarhad.
Cefndir:
Gyda chostau cynhyrchu cynyddol, mae Cornwal Uchaf wedi bod yn edrych ar leihau eu dibyniaeth ar ddwysfwyd wedi’i brynu i besgi ŵyn. Roeddent yn awyddus i archwilio opsiyinau amgen gan gynnwys codlysiau, cnydau porthiant a gwyndonnydd amlrywogaeth.
Diben y gwaith:
Gyda’r hinsawdd economaidd sydd ohoni, mae prynu dwysfwyd yn gost y mae llawer o ffermwyr yn ei adolygu. Nod y prosiect hwn yw gwerthuso a allai tyfu eich porthiant eich hun leihau gorbenion y fferm yn sylweddol a gwella effeithlonrwydd y busnes.
- Cymharu cynnyrch ar ffurf tunelli o ddeunydd sych fesul hectar a dyfir ar 4 gwahanol fath o gnydau glaswellt a phorthiant - gwndwn amlrywogaeth, rhygwellt a meillion gwyn, rêp/cêl hybrid (Redstart) a rhygwellt gyda chymysgedd o feillion coch a gwyn.
- Cyflwyno cylchdro pori byr i wella ansawdd y glaswelltir a phori gwndwn iau, mwy cynhyrchiol.
Yr hyn a wnaed:
Dewiswyd tri chae ar gyfer yr arbrawf, a chafodd un o’r caeau mwyaf ei rannu’n ddau i greu dwy lain. Roedd yr arbrawf yn cynnwys cyfanswm o bedair llain o gnydau glaswellt a phorthiant amgen ar gyfer pesgi ŵyn.
Cafodd llain 1, 3 a 4 eu haredig ar ddechrau mis Mai a chafodd llain 2 ei chwistrellu gyda glyffosad a’i balu â pheiriant ar ddechrau mis Mehefin.
Gwnaed y canlynol ar y caeau -
- Aredig / Chwistrellu a phalu â pheiriant
- Gwasgaru calch a defnyddio oged â phŵer
- Oged gadwyn
- Gwasgaru Calcifert a gwrtaith Triple 16
- Rholio
- Drilio
- Rholio unwaith eto
Heuwyd y cymysgeddau hadau canlynol -
Heuwyd llain 1 gyda rhygwellt, a meillion coch a gwyn – cymysgedd hadau grassmaster HS Pro nitro ar gyfradd o 12.5kg/erw (30.9kg/ha).
Heuwyd llain 2 gyda rêp/cêl hybrid – hadau Redstart ar gyfradd o 2.5kg/erw (6.2kg /ha).
Heuwyd llain 3 ar gyfradd o 14.7 kg/erw (36.4kg/ha) gyda gwndwn amlrywogaeth yn cynnwys cyfanswm o 14 rhywogaeth gan gynnwys rhygwellt parhaol, rhonwellt, peiswellt, meillion coch a gwyn, ecotain, codog, ysgall y meirch a maglys rhuddlas.
Heuwyd llain 4 ar gyfradd o 14.7 kg/erw (36.4kg/ha) gyda gwndwn glaswellt confensiynol sy’n cynnwys rhygwellt parhaol canolog a hwyr, cymysgedd meillion a rhonwellt. Mae lleiniau 3 a 4 hefyd yn rhan o brosiect gwndwn llysieuol Cymru.
Rhannwyd pob llain yn 3 neu 4 padog i’w pori a chafodd y gyfradd stocio ei chyfrifo’n seiliedig ar orchudd glaswellt/porthiant a chyfanswm arwynebedd y llain ar gyfer pori cylchdro ar ôl diddyfnu o ganol mis Awst hyd fis Hydref.
Canlyniadau:
Ar ôl eu sefydlu, cafodd lleiniau 1, 3 a 4 eu pori ddwywaith cyn dechrau ein harbrawf gan fod pob un ohonynt yn cynnwys cyfran uchel o laswellt yn y gymysgedd i annog cadeirio. Mae ffigur 1 yn dangos cyfanswm y tunelli o borthiant ar ffurf kg deunydd sych fesul hectar a dyfwyd ar y lleiniau arbrofol rhwng mis Gorffennaf a mis Hydref 2024. Y rêp/cêl porthiant (Redstart) a ddarparodd y cynnyrch uchaf, sy’n gyfwerth â 10,233kg DM/ha, o’i gymharu â’r gwndwn meillion coch ar 6,252 kg DM/ha a’r gwndwn llysieuol ar 6,713kg DM/ha. Y gwndwn rhygwellt a meillion coch a gynhyrchodd y cynnyrch lleiaf, sef 3,897kg DM/ha.
Ffigur 1. Tunelli a dyfwyd fesul hectar o wahanol gnydau porthiant rhwng mis Awst a mis Hydref
Ceir crynodeb o’r costau sefydlu yn nhabl 1 isod. Mae’r costau fesul hectar hefyd wedi cael eu cyfrif ar gyfer hirhoedledd disgwyliedig y gwyndonnydd i roi adlewyrchiad gwirioneddol o gostau tyfu a hadau.
Tabl 1. Costau sefydlu fesul hectar o gnydau porthiant amgen ar fferm Cornwal Uchaf¹
Mae’r elw ar fuddsoddiad a ddangosir yn nhabl 2 yn amlygu’r elw disgwyliedig yn seiliedig ar y gwyndonnydd yn cynnal lefel perfformiad 2024. Mae’r gwndwn meillion coch yn darparu bron i deirgwaith yr elw ar fuddsoddiad o’i gymharu â’r gwndwn llysieuol, a dwywaith yr elw ar gyfer Redstart, yn seiliedig ar eu hirhoedledd. Mae’n bwysig nodi nad yw’r ffigurau hyn yn adlewyrchu’r buddion amgen a ddarperir gan rai o’r dewisiadau cnydau hyn, megis gwelliannau o safbwynt iechyd y pridd, nodweddion anthelminitig, sefydlogi nitrogen a’r gallu i wrthsefyll sychder.
Tabl 2. Elw ar fuddsoddiad yr holl opsiynau pesgi ŵyn gan ystyried dyfalbarhad y cnwd/gwndwn
¹ Pennir gwerth y porthiant gan ddefnyddio cyfrifiannell gwerth porthiant perthynol AHDB
Sut i’w roi ar waith ar eich fferm:
- Profwch y pridd a chywirwch lefelau unrhyw faetholion sy’n angenrheidiol ar gyfer y porthiant penodol yr ydych yn bwriadu ei dyfu gydag ymgynghorydd FACTS cymwys
- Dewiswch gymysgeddau hadau sy’n cyd-fynd â’ch system – gan ystyried dyddiadau hau, hirhoedledd cnydau a defnydd hirdymor y cae.
- Porwch yn ysgafn ar ôl sefydlu i annog cadeirio ar wndwn sy’n cynnwys glaswellt
- Rhannwch gaeau’n badogau fel bo’r angen ar gyfer niferoedd yr ŵyn a ddymunir
- Mesurwch kgDM/Ha y porthiant a chyfrifwch y gyfradd stocio briodol - ac yna rheolwch y glaswellt sydd ar gael yn ôl cyflenwad a galw (cyfradd stocio vs. cyfradd twf)
Ffigur 1. Cnwd Redstart wedi’i sefydlu ar 17 Gorffennaf
Cysylltwch â timtechnegolcff@menterabusnes.co.uk os hoffech ragor o wybodaeth am y prosiect hwn.