Diweddariad prosiect Cornwal Uchaf - Gorffennaf 2024

Methodd y cnydau porthiant cymysg a oedd yn cynnwys rhygwellt Eidalaidd, maip sofl a rêp hybrid i sefydlu o ganlyniad i’r tywydd yn y flwyddyn gyntaf, felly cyflwynwyd mwy o gaeau i’r prosiect i sefydlu opsiynau amgen ar gyfer pesgi ŵyn. Cafodd dwy erw o’r cae arbrawf 1 gwreiddiol ei chwistrellu gyda Roundup a’i droi gan gontractwr lleol. Heuwyd cnwd bresych hybrid Redstart ar 6 Mehefin 2024, cnwd rhyngrywogaethol rhwng cêl a rêp a ddefnyddir fel porfa sy’n cynnwys llawer o egni i wartheg a defaid.


Bydd y ddau gae arall yn:

  1. wndwn meillion coch a meillion gwyn ochr yn ochr â rhygwellt
  2. gwndwn llysieuol cymysg, a fydd hefyd yn rhan o’r prosiect Cymru gyfan.

Heuwyd y rhain ar 21 Mai a gwnaed y canlynol ar y ddau gae -

  • Aredig
  • Gwasgaru calch a defnyddio oged â phŵer
  • Defnyddio oged gadwyn
  • Gwasgaru Calch Calcifert a gwrtaith 16-16-16
  • Rholio
  • Drilio
  • Rholio eto


Mae’r plotiau (Ffigur 1) wedi cael eu hau fel a ganlyn:


Plot 1 – Gwndwn llysieuol sy’n cynnwys cyfanswm o 14 rhywogaeth, gan gynnwys Rhygwellt Parhaol, rhonwellt, peiswellt, meillion coch a gwyn, Ecotain, y godog, ysgellog a maglys rhuddlas wedi’u hau ar gyfradd o 14.7 kg/erw (36.4kg/ha).

Plot 2 - Gwndwn glaswellt confensiynol sy’n cynnwys rhygwellt parhaol canolradd a hwyr, cyfuniad o feillion a rhonwellt wedi’u hau ar gyfradd o 14.7 kg/erw (36.4kg/ha).

Plot 3 – Cymysgedd hadau Grassmaster HS Pro nitro ar gyfradd hau o 12.5kg/erw (30.9kg/ha).

Plot 4 – Hadau Redstart ar gyfradd o of 2.5kg/erw (6.2kg /ha).
 

Ffigur 1. Map o’r plotiau ar fferm Cornwal Uchaf