Diweddariad Prosiect Fferm Pentre - Rheoli anghenion maeth mamogiaid i leihau problemau iechyd wrth ŵyna

Mae problemau iechyd wrth ŵyna, megis problemau llawes goch a mastitis wedi bod yn sylweddol ar y safle arddangos, Fferm Pentre, yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Roedd nifer yr achosion o broblemau llawes goch yn uchel yn 2020, ac fe arweiniodd hynny at golled o dair mamog a chyfradd ddifa wirfoddol o 10% o’r ddiadell. Nod y prosiect yw targedu a chywiro’r problemau hyn gan ystyried ffactorau amrywiol sy’n dylanwadu ar gynhyrchiant a pherfformiad y ddiadell.  

Eleni, gyda’r data, canolbwyntiwyd ar ganfod lefel sylfaenol yr achosion o’r clefydau hyn yn ogystal â gwneud archwiliad llawn o gyflwr corff y mamogiaid a’r mewnbynnau maeth. Ble’n bosib, cafodd newidiadau rheoli eu rhoi ar waith er mwyn lleihau nifer yr achosion o broblemau llawes goch a mastitis yn 2021. Roedd y newidiadau rheoli yn cynnwys newidiadau dietegol er mwyn sicrhau fod y cymarebau mwynau macro (calsiwm, ffosfforws, magnesiwm) yn addas yn ystod beichiogrwydd ac wrth ŵyna. 

Roedd nifer yr achosion o achosion llawes goch yn llawer is yn 2021 o’i gymharu â ffigyrau 2020, gyda dim ond 5% o’r ddiadell yn ddioddef o achos  llawes goch. Cofnodwyd cyfanswm o bum mamog gyda mastitis. Ble’n bosib, cymrwyd samplau llaeth a bydd y rhain yn cael eu dadansoddi am feithriniad bacteria yn ogystal â phrofion sensitifrwydd er mwyn adnabod yr organebau sy’n gyfrifol am fastitis. 

Credir y gall cyfuniad o ffactorau fod yn gyfrifol am achosi problemau llawes goch ar y fferm, gan gynnwys: 

  • Diffyg mwynau, e.e. cyflenwad annigonol o galsiwm a magnesiwm ar ddiwedd  beichiogrwydd
  • Sgôr cyflwr corff y famog cyn ŵyna - mamogiaid yn cario gefeilliaid mewn cyflwr rhy dda ar ddiwedd beichiogrwydd
  • Elfennau geneteg
  • Hyd torri’r gynffon

Bydd data hanesyddol mewn perthynas ag iechyd mamog a math o frîd yn cael ei ddadansoddi ar gyfer y flwyddyn nesaf er mwyn adnabod unrhyw dueddiadau o un flwyddyn i’r llall. Byddwn yn ail ymweld â’r cyfrifiadau mwynol yn seiliedig ar ddiet y ddiadell cyn monitro ymhellach yn 2022.