Diweddariad Prosiect - Gorffennaf 2019

Mae cyfle i gynyddu’r fenter fagu heffrod ar gontract wedi sbarduno adolygiad o’r perfformiad busnes presennol. Rhan allweddol o hyn fu cymharu faint o borfa mae’r fferm yn ei dyfu nawr, amcangyfrif sut gellir tyfu mwy, a chymharu â gofynion y mentrau defaid a heffrod. 

Ar hyn o bryd mae 80% o’r ynni ar y fferm yn dod o laswellt (sy’n cael ei bori neu silwair). Trwy fesur ei laswellt 2 i 4 gwaith yr wythnos mae Rhidian wedi cofnodi cromlin twf y borfa ar gyfer y fferm a chyfanswm y borfa a gynhyrchir – cyfrifir ei fod ar gyfartaledd yn 7200kgDM/ha.  Gan fod y busnes wedi’i gyfyngu gan arwynebedd y tir, mae Rhidian wedi canolbwyntio ar ddefnyddio system bori gylchol i gynhyrchu mwy o borfa. Mae hyn wedi’i hwyluso drwy rannau’r caeau mwyaf yn rhannau gyda ffens drydan i wneud lleiniau bach er mwyn i grwpiau stoc allu symud 2 i 3 gwaith yr wythnos i borfa newydd. Trwy gyfyngu ar yr amser mae anifeiliaid yn ei dreulio’n pori un llain mae cyfradd ail-dwf y borfa’n cynyddu.  

                       

Yr hyn sy’n allweddol i gynhyrchu porfa yw cynnal canopi dail cyson ar y fferm i fanteisio ar y golau a chynhyrchu ynni er mwyn i’r borfa dyfu. Gan eu bod yn fwy mae’r uchder a dargedir ar gyfer y borfa i heffrod sicrhau’r perfformiad gorau’n uwch na defaid h.y. y borfa ar y tir cyn pori yn 2500-3400kgDM/ha (7-11cm uchder wedi’i gywasgu) o’i gymharu â defaid 2000-2500kgDM/ha (5.5-7cm uchder wedi’i gywasgu).  Mae hyn yn golygu bod potensial twf gwell i’r borfa sy’n cynyddu cynhyrchiant fesul hectar. 

Mae’r borfa a borwyd gan heffrod wedi cynhyrchu 10,000kgDM/ha o’i gymharu â 6000kgDM/ha gyda defaid ac ŵyn yn pori. Mae hyn yn bennaf oherwydd bod heffrod yn mynd i borfa uwch (mwy o ardal o ddail felly potensial twf uwch) 

Bydd cyflwyno mwy o heffrod yn cynyddu’r potensial i gynhyrchu porfa ar y fferm ond a fydd angen lleihau nifer y defaid? I ateb hyn defnyddiwyd rhaglen ariannol FARMAX. Mae Rhidian eisoes yn defnyddio FARMAX i fonitro’r fferm a helpu i wneud penderfyniadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Gan ddefnyddio’r data fferm presennol crëwyd ffeil ‘tymor hir’ i brofi beth fyddai niferoedd cynaliadwy’r stoc. Mae’r cymariaethau isod: 

 

Busnes Presennol

Senario 1

Gwahaniaeth

Arwynebedd y Fferm (ha)

139

139

0

Porfa a Gynhyrchir ar Gyfartaledd  (kgDM/ha)

7200

8000

800

Nifer Mamogiaid

900

850

-50

Menter Ddefaid (kgLW/ha)

454

380

-75

Nifer yr heffrod a Fagwyd

105

200

95

Menter Heffrod (kgLW/ha)

234

468

234

Cyfanswm Cynhyrchiant (kgLW/ha)

688

847

159.0

Effeithlonrwydd Porthiant* (kgDM/kgLW)

22.5

20.5

-2.0

*yn cynnwys cnydau porthiant a phorthiant ategol.

 

Mae cyflwyno’r heffrod ychwanegol yn golygu y bydd angen cwtogi ar niferoedd mamogiaid o 50hd ond mae’r cynnydd yn y borfa a gynhyrchir yn cynyddu’r allbwn o 159kgLW/ha.  Mae lleihau nifer y stoc magu ar y fferm hefyd yn cynyddu effeithlonrwydd y defnydd o’r borfa, mae hyn yn golygu bod angen llai o kgDM i gynhyrchu 1kgLW.  Gellir defnyddio’r data o’r model ffermio mewn cyfrif elw a cholled i gymharu proffidioldeb bob menter.