Diweddariad prosiect Hafod y Foel - Gorffennaf 2024

Dyluniwyd y llwyfan pori i bori dau grŵp o 40 o loi bîff Wagyu o’r fuches laeth - un grŵp o loi wedi’u diddyfnu’n pwyso oddeutu 150kg ar ddechrau’r tymor pori a grŵp o loi blwydd oed yn pwyso oddeutu 350kg ar ddechrau’r tymor pori. Y nod oedd pori ar ddau gylchdro mewn dwy ardal wahanol: Weirglodd (4.6ha) a Ffridd (9.3ha).

Gan ystyried hinsawdd, iechyd a ffrwythlondeb y pridd, cyfansoddiad y borfa a’r dulliau rheoli glaswelltir arfaethedig, amcangyfrifir y byddai potensial i’r cae dyfu 7.5 tunnell o ddeunydd sych (DM)/ha/y flwyddyn ar gyfartaledd heb fewnbynnau. Felly, yn ystod tymor pori 250 diwrnod o hyd, amcangyfrifir bod potensial i’r ardal bori dyfu 30kgDM/ha/dydd ar gyfartaledd. Dangosir gofynion y grwpiau yn nhabl 1 ac mae hyd y cylchdro a nifer yr anifeiliaid ym mhob grŵp i’w weld yn nhabl 2.

Tabl 1. Gofynion pob system

 

Weirglodd

Ffridd

Ardal (ha)

4.6

9.3

Pwysau gwartheg (kg)

150

350

Gofynion y Gwartheg %

2.5%

2.5%

Galw unigol (kgDM/hd/dydd)

3.75

8.75

Nifer y gwartheg

40

40

Gofynion y grŵp (kgDM/dydd)

150

350

Gofynion ar gyfer twf  (kgDM/ha/dydd)

33

38

Tabl 2. Nifer y dyddiau ym mhob padog a bydd cylchdro’n rhoi cyfle i bob grŵp

 

Weirglodd

Ffridd

Nifer y padogau

16

14

Maint cyfartalog y padog (ha)

0.3

0.7

Gorchudd cychwynnol kg DM/ha

2500

2500

Gweddilliol kgDM/ha

1500

1500

Defnydd %

90

90

Porthiant ar gael kg DM/Padog

259

598

Nifer y gwartheg

40

40

Pwysau’r gwartheg (kg)

150

350

Gofynion y gwartheg %

2.5

2.5

Gofynion unigol kgDM/hd/dydd

4

8.8

Gofynion y grŵp kgDM/dydd

150

350

Dyddiau fesul padog

1.7

1.7

Hyd y cylchdro 

28

24

Cafodd gofynion dŵr hefyd ei gyfrifo ar gyfer y ddau grŵp o wartheg, a nodir yn nhabl 3.  

 

Tabl 3. Cyfradd llif dŵr targed ar gyfer grwpiau o wartheg

Gofynion Dŵr

   
    

Dosbarth stoc

Gwartheg R1

Gwartheg sydd bron yn 2 oed

 

Nifer

40

40

 

Dyddiad cyrraedd y fferm

1/4/2024

1/4/2024

 

Dyddiad gadael y fferm

1/10/2024

1/10/2024

 

Nifer y dyddiau ar y fferm

183

183

 

Pwysau cychwynnol (kg)

120

310

 

Pwysau pesgi targed (kg)

260

475

 

Cyfanswm cynnydd pwysau (kg)

140

165

 

Cynnydd pwysau byw targed (kg/dydd)

0.8

0.9

 

Pwysau cyfartalog (kg)

190

393

 

Gofynion Dŵr (BW%)

12%

12%

 

Uchafswm Gofynion Dŵr (L/pen/dydd)

31.2

57

 

Uchafswm Gofynion Dŵr y Grŵp (L/dydd)

1248

2280

 

CYFRADD LLIF targed (L/mun)

2.97

5.43

8.40

Sefydlwyd y llwyfannau pori ym mis Mai fel y gwelir yn ffigur 1. 

 

Defnyddir mesurydd plât Grasshopper i fonitro twf glaswellt yn rheolaidd. Mae’r mesurydd yn llwytho’r holl ddata yn awtomatig i system GrasslandTools, platfform i rannu data pori mewn amser real, sy’n cynnwys gorchudd fferm presennol a’r glaswellt sydd ar gael gyda sawl defnyddiwr. Mae Grasshopper hefyd yn cynnwys nodwedd sy’n mapio’r fferm yn gywir fel bod pob mesuriad yn cysylltu’n awtomatig gyda phob cell heb fod angen mewnbynnu data â llaw.

O ganlyniad i dywydd gwlyb ar ddechrau’r tymor, roedd twf y glaswellt yn fwy na’r galw, ac er mwyn sicrhau bod ansawdd y borfa yn cael ei gynnal, tynnwyd rhai o’r celloedd o’r cylchdro ar gyfer pori defaid. Roedd y tir yn rhy wlyb i ystyried tynnu celloedd allan ar gyfer silwair. Cafodd y lloi hŷn hefyd eu grwpio gyda’r lloi iau i ddwysau’r pwysau ar y borfa er mwyn  ailosod a chynnal ansawdd ar gyfer y lloi iau sy’n trosi porthiant yn fwy effeithlon.

Mae’r galw’n gymharol uchel yn y ddau gylchdro, yn enwedig yn y Ffridd. Yn ystod cyfnodau o’r flwyddyn pan nad yw twf yn bodloni’r galw, fel arfer ar gyrion y tymor neu yn ystod cyfnodau sych yn yr haf, bydd angen symud y stoc oddi ar y system gylchdro am gyfnod byr i ymestyn hyd y cylchdro neu dderbyn porthiant ategol. Bydd mesur y glaswellt yn rheolaidd a sicrhau bod digon o laswellt ar gael yn cefnogi’r penderfyniadau rheoli hyn.