Diweddariad Prosiect Halghton Hall

Canlyniadau sganio:

Ar 3 Ionawr, cafodd ŵyn benyw eu sganio ynghyd â’r hesbinod. Roedd yr hwrdd wedi bod gyda’r ŵyn benyw am dair wythnos, a hyrddod cymell wedi cael eu defnyddio dros y pythefnos blaenorol. Fel arfer, byddai’r hyrddod wedi aros am gyfnod hirach fel bod yr anifeiliaid yn cael dau gylchred, ond eleni, am resymau personol, roedd y teulu Lewis eisiau gorffen y tymor ŵyna yn gynt. Felly, penderfynwyd rhoi un cylchred i’r ŵyn benyw feichiogi, gan arwain at gyfradd beichiogi cyffredinol siomedig o 57% ymysg yr ŵyn benyw.

288 o ŵyn benyw (2 farwolaeth, 1heb ei sganio )

Melyn < 41kg (89 o anifeiliaid)

Gwyrdd 41-45kg (85 o anifeiliaid)

Heb eu marcio 45kg < (114 o anifeiliaid)

Sengl

Gefeilliaid

Gwag

Sengl

Gefeilliaid

Gwag

Sengl

Gefeilliaid

Gwag

Tripledi

Nifer

31

4

54

31

11

43

64

21

27

2

Canran Sganio

43.80%

   

62%

   

98%

   

 

Canran Beichiogi

39%

   

49%

   

76%

   

 

 

                 

 

Cyfanswm nifer yr ŵyn benyw

288 o anifeiliaid

               

 

Canran sganio cyffredinol

71%

               

 

Canran beichiogi cyffredinol

57%

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Cafwyd canran uwch o ŵyn benyw gwag eleni o ganlyniad i dynnu’r hyrddod oddi yno’n gynt.

Er gwaetha’r gyfradd feichiogi isel, mae patrwm pendant yn dangos bod yr anifeiliaid trymaf wedi sganio’n well. Cafodd yr ŵyn benyw eu pwyso ar 26 Medi a’u rhannu’n dri grŵp yn ôl pwysau, dan 41kg, 41 - 45kg a dros 45kg. Wrth sganio, cafodd canran gynrychioladol o anifeiliaid o bob grŵp eu pwyso i weld faint oedd y pwysau wedi newid. Roedd pwysau cyfartalog pob grŵp bellach yn 40.8kg, 44.4kg a 47.8kg yn y drefn honno. Nododd Kate Phillips yn y cyfarfod ym mis Tachwedd mai’r pwysau delfrydol ar gyfer yr ŵyn benyw fyddai 50kg wrth gyflwyno’r hyrddod. Gallai’r ffaith nad oedd y targedau hyn wedi’u cyrraedd fod wedi cyfrannu at y cyfraddau beichiogi is. Fodd bynnag, mae hyn yn rhoi syniad i ni ynghyd â ffigurau meincnodi ar gyfer y rhaglen fridio nesaf ym mis Hydref.