Diweddariad Prosiect Hendre Ifan Goch: Sicrhau perfformiad twf ŵyn gorau posib - archwiliad elfennau hybrin
Ar ôl cyfarfod gyda Liz Genever a Phillipa Page ym mis Ionawr, cytunwyd i Phillipa Page o Flock Health Ltd ei gwblhau archwiliad gan nad oedd Rhys yn fodlon â pherfformiad ŵyn tymor 2021.
Ar gyfer yr archwiliad elfennau hybrin, edrychwyd ar y cyflenwad o elfennau hybrin dros gyfnod o 12 mis. Roedd hyn yn cynnwys cyflenwad dŵr, samplau porthiant, porthiant atodol, blociau llyfu/ porthiant a oedd ar gael, drenshis a bolysau a oedd yn cael eu cyflenwi i’r ddiadell ac yna ystyriwyd y symiau hyn yn erbyn gofynion elfennau hybrin y gwahanol grwpiau o stoc. Yna ystyriwyd a oedd angen ychwanegu unrhyw gyflenwad ar gyfer unrhyw ddiffygion.
Dangosodd canlyniadau’r archwiliad nad oedd unrhyw bryder sylweddol gyda chyflenwad y mwyafrif o’r macro-fwynau, ond roedd y samplau glaswellt o 2020 a ddefnyddiwyd yn yr archwiliad yn dangos diffygion yn y cyflenwad o ïodin a diffygion ymylol yn seleniwm a chobalt pan aseswyd hwy yn erbyn gofynion dietegol y dosbarth o stoc.
Graffiau 1 a 2. Anghenion a chyflenwad ïodin ar gyfer mamogiaid ac wyn sy’n tyfu yn Hendre Ifan Goch
Mae’r graffiau uchod yn dangos bod y cyflenwad ïodin o’r borfa yn is na’r gofynion ar gyfer y mamogiaid a’r ŵyn sy’n tyfu.
Roedd y lefelau atodol presennol a roddir i’r mamogiaid trwy ddrensh neu folws yn ddigonol ar gyfer seleniwm a chobalt, ond nid oedd ïodin wedi’i gynnwys yn yr atchwanegiadau hyn, felly cynghorwyd defnyddio atchwanegiad cyn wyna a chyn hwrdda a oedd yn cynnwys ïodin, seleniwm a chobalt.
Dim ond ar gyfer yr ŵyn sy'n derbyn bolws oedd y lefelau presennol o atchwanegiadau ar gyfer yr ŵyn, gan nad oedd y drensh a ddefnyddiwyd yn cynnwys ïodin. Y cynllun ar gyfer yr ŵyn yn 2022 yw addasu’r cyflenwad o ïodin drwy ddefnyddio drensh sy’n cynnwys ïodin a monitro a mesur effaith ymyriadau i gyflawni rheolaeth effeithiol, effeithlon a phroffidiol.