Diweddariad Prosiect Pridd Cymru Gorffennaf 2024

Mae Prosiect Pridd Cymru yn ei drydedd flwyddyn erbyn hyn, gyda phridd 15 fferm ychwanegol yn cael ei samplu yn nhymor yr hydref 2023 a 24 fferm arall yn nhymor y gwanwyn 2024. Newidiwyd y fethodoleg ychydig ar gyfer Blynyddoedd 2 a 3, gyda chyfanswm o dri chae wedi’u samplu ar bob fferm, a bennir gan eu dwyster rheoli (Tabl 1). Roedd yn ddymunol bod gan bob cae o leiaf un gwrych aeddfed yn ffinio â’r cae. Cafodd caeau âr a gwndwn llysieuol eu heithrio o'r prosiect.
 

Tabl 1. Categorïau’r caeau a ddewiswyd ar gyfer samplu pridd. 

 

Rhif y cae

Math o gae/rheolaeth

1

Dwysedd uchel - cae dwys gyda llawer o ofynion maetholion, cynhyrchiant porfa uchel, cyfradd stocio uchel, lleiafswm o 2 doriad silwair yn cael ei gymryd oddi ar y cae bob blwyddyn, ychydig o amrywiaeth o blanhigion yn gyffredinol (rhygwellt a meillion yn bennaf). Enghraifft o gae = cae silwair gorau, cae a ddefnyddir i besgi ŵyn

2

Dwysedd canolig - cae canolradd gyda gofynion maetholion canolig, cynhyrchiant porfa gymedrol - yn bennaf yn gaeau pori’n unig, un toriad silwair yn cael ei gymryd oddi ar y cae yn flynyddol, amrywiaeth planhigion canolradd. Enghraifft o gae = caeau ar gyfer ŵyna/y mamogiaid a'r ŵyn yn cael eu troi allan i’r math hwn o gae

3

Dwysedd isel - cae helaeth gydag ychydig o ofynion maetholion, ychydig o borfa sy’n cael ei chynhyrchu ar y cyfan, cae pori yn unig (ni ddefnyddir y cae i wneud silwair), amrywiaeth fawr o blanhigion (e.e rhonwellt, byswellt, peiswellt, maeswellt (bentgrass)). Enghraifft o gae = tir anghysbell a ddefnyddir i sychu mamogiaid neu gae heb unrhyw fewnbwn.

Fel o'r blaen, cymerwyd samplau pridd o dri pharth ym mhob cae i gyfrif am amrywioldeb gofodol yng nghynnwys carbon pridd yn y cae. Yn ogystal â’r tri pharth o fewn pob cae, cymerwyd samplau pridd gan ddefnyddio’r un dull ar hyd un gwrych sy’n ffinio â’r cae (o fewn medr o wreiddiau’r gwrych) i asesu sut y gall stoc garbon pridd amrywio rhwng gwahanol ardaloedd o fewn cae (h.y. canol y cae ac o dan wrychoedd).

Roedd gweddill y fethodoleg yn gyson â methodoleg y flwyddyn gyntaf, gydag ychwanegiad y samplau pridd a gymerwyd o ddyfnder 0-10cm hefyd wedi'u dadansoddi ar gyfer pH.

Mae’r gwaith o ddadansoddi’r data yn mynd rhagddo a bydd y canlyniadau'n cael eu cyhoeddi maes o law.