Diweddariad Prosiect – Prosiect Treuliad Anaerobig - Llyn Rhys

Mae'r gweddillion treuliad anaerobig bellach wedi'u gwasgaru yn Llyn Rhys, un o safleoedd ffocws defaid a bîff Cyswllt Ffermio yn Llandegla, Wrecsam. Prif nod y prosiect oedd archwilio potensial gweddillion treuliad anaerobig fel gwrtaith amaethyddol yn lle gwrteithiau artiffisial confensiynol. 

Byddwn yn archwilio pa mor gost effeithiol yw gwasgaru gweddillion treuliad anaerobig o safle cyfagos, ynghyd â pherfformiad (o ran twf y borfa) a manteision amgylcheddol defnyddio’r gweddillion yn hytrach na chyfansoddion synthetig.

Mae’r prosiect hefyd yn anelu at bennu’r gyfradd wasgaru ddelfrydol ar gyfer ffermwyr sy’n ystyried defnyddio gweddillion treuliad anaerobig, drwy fesur twf glaswellt bob wythnos. Bydd datblygu gwell dealltwriaeth o batrymau twf glaswellt ar gyfer pob cyfradd wasgaru yn caniatáu i ffermwyr wneud penderfyniadau rheolaeth cymwys wrth ddefnyddio gweddillion treuliad anaerobig fel dewis o wrtaith amgen ar eu tir eu hunain. Torrwyd pob un o’r plotiau cyn gwasgaru, felly mae pob un ohonynt yn dechrau gyda gorchudd cyson o 2200kgDM/Ha.

Cafodd 5 plot 20m x 20m eu neilltuo ar gyfer y prosiect mewn cae 4.8ha sydd wedi’i leoli’n agos at fuarth y fferm a’r adeiladau. Mae’r plotiau wedi cael eu rhannu fel a ganlyn:

 

Plot 1 – Bydd gweddillion treuliad anaerobig yn cael eu gwasgaru ar gyfradd o 20m3/ha.

Plot 2 – Bydd gweddillion treuliad anaerobig yn cael eu gwasgaru ar gyfradd o 15m3/ha.

Plot 3 – Bydd gweddillion treuliad anaerobig yn cael eu gwasgaru ar gyfradd o 10m3/ha

Plot 4 - Plot gwrtaith - cafodd y llain hon ei drin gyda gwrtaith synthetig gyda dadansoddiad NPK+2% o 25.5.5.7 ar gyfradd o 125kg/ha

Plot 5 - Plot rheoli - bydd y llain yma’n cael ei adael heb ei drin drwy gydol y prosiect, er y bydd twf y borfa’n cael ei fesur bob wythnos yn debyg i’r plotiau eraill.

 

 

Maetholion sydd ar gael ar gyfer y cnwd (kg/ha)

pH: - 6

Cyfradd wasgaru

N

P

K

S

Plot 1

20 m3/ha

96.0

36.0

60.0

23.0

Plot 2

15 m3/ha

72.0

27.0

45.0

17.3

Plot 3

10 m3/ha

48.0

18.0

30.0

11.5

Plot 4

125kg/ha

62.5

12.5

12.5

17.5

Plot 5:

Plot rheoli

 

Bydd y plotiau’n cael eu mesur gan ddefnyddio mesurydd plât bob wythnos am chwe wythnos i gyfrifo’r kgDM/ha. Bydd ansawdd y borfa hefyd yn cael ei fesur ar ddechrau a diwedd y prosiect i gofnodi faint o faetholion sy’n dal i fod yn bresennol yn y cnwd.