Diweddariad Prosiect Safle Arddangos Wern

Mae Osian Williams a'i deulu o Foel ger Y Trallwng yn ffermio safle arddangos Cyswllt Ffermio, ac yn treialu defnyddio technoleg arloesol er mwyn sicrhau’r amgylchedd gorau posib i’w haid o 32,000 o ieir dodwy. Nod y prosiect yw gwella iechyd a pherfformiad yr adar trwy ddefnyddio technoleg synwyryddion er mwyn rheoli ansawdd yr aer, y gwasarn a'r dŵr.

Caiff yr amgylchedd yn y sied ei fonitro gan ddefnyddio technoleg LoRaWAN, sy'n casglu data o synwyryddion wedi'u gosod ar draws y sied. Dangosir y canlyniadau ar ddangosfwrdd er mwyn galluogi Osian i wneud penderfyniadau rheoli. Yn ogystal, mae'r dechnoleg yn gysylltiedig gyda'r dechnoleg sy'n caniatáu addasiadau awtomataidd sy'n gallu gwella amgylchedd yr haid.

Ffigwr 1. Synwyryddion LoRaWAN sydd wedi cael eu gosod yn y sied dofednod.

 

Mae'r data a gaiff ei gasglu a'i fonitro yn yr adeilad yn cynnwys lefelau amonia, carbon deuocsid, tymheredd a lleithder. Yn ogystal, mesurir a chofnodir cyfeiriad y gwynt, tymheredd, lleithder ac amrediad o newidion tywydd o synwyryddion wedi'u lleoli y tu allan i'r adeilad. Caiff yr amodau y tu allan i'r sied eu monitro, oherwydd y gall y rhain i gyd gael effaith ar lefelau cynhyrchu amonia yn y sied.

Ffigwr 2. Data o'r synwyryddion sy'n dangos darlleniadau amonia, lleithder, carbon deuocsid a thymheredd ar ôl eu gosod, Mehefin 2020.

 

O'r dangosfwrdd, gallwn weld y newidiadau i amgylchedd yr adar. Gallwn wneud penderfyniadau gwybodus i newid yr amodau yn y siediau ac yna, monitro eu heffeithiau. Er enghraifft, symudwyd y chwistrellwyr awtomatig sy'n chwistrellu cynnyrch Pruex Stabiliser yn y siediau yn ddiweddar, gan obeithio y byddai'r cynnyrch yn cael ei wasgaru'n well ar y beltiau tail er mwyn sychu'r tail mewn ffordd fwy effeithiol. Arweiniodd hyn at dail sychach ar y beltiau, a oedd yn rhyddhau llai o amonia.

Ffigwr 3. Data am y glawiad, cymylau, lleithder, gwasgedd, tymheredd a chyfeiriad y gwynt y tu allan i'r siediau.

 

Un o'r prif bethau y mae'r prosiect yn canolbwyntio arnynt yw lleihau lefelau amonia, ac yna eu cynnal ar lefel isel, a fydd yn cynnig budd i iechyd yr anifeiliaid ac i'r amgylchedd ehangach. Dros y misoedd diwethaf, rydym wedi bod yn dysgu am yr amrywiadau mewn lleithder a thymheredd yn ystod y gaeaf, gan ddarganfod y trefniant awyru gorau sydd fwyaf addas i'r newidion hyn. Rydym wedi dysgu bod system awyru y siediau yn gallu effeithio'n fawr ar y lefelau amonia.

Trwy fonitro a rheoli'r safle gan ddefnyddio'r dechnoleg hon, gwelsom ostyngiad o 75% yn y lefelau amonia yn ystod y misoedd cynhesach, gyda'r lefelau'n gostwng o 20ppm i 5ppm. Gan fod y lefelau lleithder yn uwch y tu allan yn ystod misoedd gwlypach y gaeaf, mae'r prosiect wedi cydnabod bod gostyngiad o 75% mewn lefelau amonia yn anoddach i'w gyflawni. Er enghraifft, ers canol mis Ionawr, mae'r mesuriadau amonia yn sied 2 wedi bod yn 8-12ppm ac mae'n amrywio rhwng 10 a 25ppm yn sied 1.

Ffigwr 4. Lefelau amonia yn sied 1 (glas) a sied 2 (gwyrdd).

 

Fel arfer, caiff tail mewn unedau dodwy maes ei waredu bob 3-4 diwrnod. Ar hyn o bryd, mae Osian yn gwaredu'r tail yn ei uned bob 10-13 diwrnod; mae hyn o ganlyniad i lwyddiant gosod y system awtomataidd, sy'n chwistrellu cynnyrch ar y beltiau tail er mwyn newid y bacteria yn y tail/ei sychu. Gan fod llai o leithder yn y tail, mae'n ysgafnach, sy'n galluogi Osian i'w adael am gyfnod hwy heb iddo niweidio berynnau'r beltiau. Mae'r tail ar y ddau felt ochr isaf yn sychach na'r tail ar y belt uchaf yn y canol. Gallai hyn fod oherwydd bod llai o gynnyrch Pruex Stabiliser yn cyrraedd y beltiau uchaf, felly mae'n cynnwys llawer o facteria ysgarthol.

Ffigwr 5. Tail ar felt ar ôl cael ei drin (sych)