Diweddariad Terfynol ar Brosiect Glyn Arthur
Prif ganlyniadau:
- Mae’r cynllun rheoli coetir ar fferm Glyn Arthur wedi arwain at dynnu 228 tunnell o goed yn yr ymarfer teneuo cyntaf, gan dderbyn £75/tunnell ar gyfartaledd ar gyfer gwerthiannau pren yn erbyn cost o £55/tunnell argyfer cwympo a echdynnu a £13/tunnell ar gyfer cludo o’r coetir i ochr y ffordd. Mae hyn yn gyfystyr ag incwm ychwanegol o £2,791 ar gyfer y fferm ar ôl ystyried costau’r contractwyr.
- Bydd ôl-gwympo yn cynhyrchu ansawdd a chynnyrch pren gwell drwy weithgareddau teneuo dethol, gan ganolbwyntio ar goetiroedd hŷn yn Lodge Wood er mwyn cynyddu ansawdd yn gyflym. Amcangyfrifir bod y gynyddran o ran cyfanswm pren fesul blwyddyn yn 20.1m3/ha.
- Mae Glyn Arthur wedi datblygu gwybodaeth a hyder i barhau gyda’r trefniadau rheoli coetir ar y fferm.
Cefndir:
Mae’r coetir ar fferm Glyn Arthur yn ymestyn dros ardal o oddeutu 20 hectar (ha), gan gynnwys planhigfeydd conwydd cymysg, coetir lled-naturiol a pharcdir hanesyddol gyda choed aeddfed ar wasgar. Dros y 50 mlynedd diwethaf mae hunan-deneuo wedi digwydd mewn planhigfeydd cymysg o ganlyniad i gystadleuaeth, plâu a chlefydau.
Mae’r prosiect hwn yn canolbwyntio ar greu cynllun rheoli coetir cynhwysfawr i greu incwm ychwanegol ar gyfer y fferm.
Mae’r cynllun wedi ystyried sawl opsiwn rheoli:
- Adfer coetiroedd brodorol a theneuo ardaloedd sydd wedi gordyfu er budd coed aeddfed.
Cyflwyno arferion teneuo rheolaidd i symud tuag at goedwigoedd gorchudd parhaus. - Adfer Planhigfeydd ar Safle Coetir Hynafol (PAWS) trwy ailstocio gyda rhywogaethau amrywiol, gan sicrhau adnoddau pren ar gyfer y fferm at y dyfodol.
Diben y gwaith:
- Datblygu cynllun rheoli a fydd yn cyd-fynd ag opsiynau rheoli tir yn gynaliadwy er mwyn gwella isadeiledd gwyrdd ar y fferm i wella a chynyddu faint o garbon sy’n cael ei storio, bioamrywiaeth, ansawdd aer a dŵr a chreu incwm drwy ddefnyddio’r buddion aml swyddogaeth y mae coed yn eu darparu. Bydd gwella cyflwr y coetir a dod â’r coetir yn ôl i weithredu fel ased gweithredol i’r busnes fferm yn allweddol.
- Archwilio marchnadoedd ar gyfer ystod o’r rhywogaethau sydd ar gael ac ymchwilio i ychwanegu at werth y pren fel adnodd wedi’i felino ar gyfer y fferm.
- Y dull CCF yw'r penderfyniad strategol a ddewiswyd a wnaed er budd ecolegol ac economaidd hirdymor. Bydd hyn yn creu cymysgedd amrywiol o rywogaethau ar draws y coetir cyfan, gan bylu ffiniau traddodiadol yr ardaloedd.
Yr hyn a wnaed:
- Cynhaliwyd trafodaeth ford gron i ganfod amcanion Glyn Arthur a’r weledigaeth ar gyfer y dyfodol
- Creu amserlen cynllun gweithredu i olrhain cynnydd ac i bennu amserlen ar gyfer cyfarfodydd trafod allweddol fel y bo’r angen
- Adolygu a dehongli’r arolwg asesu coetir
- Cyflwyno cais ar gyfer archwilio llarwydd i CNC
- Cyflwyno trwydded cwympo coed gan gynnwys manylion ailstocio ardaloedd sydd wedi’u cwympo
- Creu cynllun rheoli coetir a’i gyflwyno i CNC ar gyfer cymeradwyaeth
- Cynhyrchu adroddiad rhwydwaith Coedwriaeth Anarferol yn seiliedig ar fesuriadau’r ardal yn y coetiroedd i asesu statws iechyd ac ansawdd rhywogaethau coed unigol
- Gan fod Glyn Arthur wedi comisiynu contractwr cyn dechrau’r prosiect, cynhaliwyd cyfarfod i drafod y rhaglen waith a’r llwybr echdynnu.
- Marcio’r llain sampl ar gyfer pren yn Lodge Wood a darparu hyfforddiant i Sarah
- Parhau i gysylltu gyda CNC ac awdur y cynllun i sicrhau’r dyddiad targed ar gyfer derbyn cymeradwyaeth.
Canlyniadau:
Mae’r prosiect wedi arwain at y canlyniadau canlynol:
- Sefydlu data gwaelodlin i olrhain esblygiad cymysgeddau rhywogaethau a meintiau coed wrth i goedwigoedd newid i fod yn orchudd parhaus.
- Newid o goetir heb ei reoli sy’n cynnwys rhywogaeth unigol a choed o’r un oedran i goetir gyda chymysgedd o oedrannau a rhywogaethau ar fferm Glyn Arthur, gan gynyddu gwytnwch i effeithiau newid yn yr hinsawdd.
- Mae teneuo wedi lleihau cystadleuaeth ac yn gwarchod systemau gwreiddio coed hynafol ar y parcdir gan hefyd deneuo’r elfennau conwydd.
- Roedd y cynllun rheoli’n cynnwys ymyrraeth gyflym i leihau twf y stoc llarwydd, gwella ansawdd y coesynnau, ac arallgyfeirio rhywogaethau drwy blannu i gyfoethogi o ganlyniad i fygythiad clefydau. Yn ogystal, teneuo dethol i dynnu coed gyda chlefyd coed ynn a chadw’r unigolion sy’n gallu gwrthsefyll, gan hybu datblygiad y goron a magu ymwrthedd i glefydau
- Mae’r cynllun rheoli coetir ar fferm Glyn Arthur wedi arwain at dynnu 228 tunnell o goed yn yr ymarfer teneuo cyntaf, gan dderbyn £75/tunnell ar gyfartaledd ar gyfer gwerthiannau pren i chwe phrynwr gwahanol yn y gadwyn gyflenwi leol.
- Mae hyn yn gyfystyr ag incwm ychwanegol o £2,791 ar gyfer y fferm ar ôl ystyried costau’r contractwyr.
- Bydd y broses ôl-gwympo coed yn cynhyrchu gwell ansawdd a chynnyrch pren drwy weithgareddau teneuo dethol, gan ganolbwyntio ar goetiroedd hŷn yn Lodge Wood er mwyn cynyddu ansawdd yn gyflym. Amcangyfrifir bod y gynyddran o ran cyfanswm pren fuel blwyddyn yn 20.1m3/ha, Tabl 1.
Tabl 1. Cynyddran gwerth blynyddol
Sut i roi’r cynllun rheoli coetir ar waith ar eich fferm:
- Siaradwch gyda’ch Swyddog Datblygu Cyswllt Ffermio lleol i drafod sut y gallech ddatblygu eich cynllun rheoli coetir eich hun gyda chymorth arbenigwyr coetir
- Cadarnhewch ffynonellau ariannol (grantiau, incwm y fferm) a dyrannwch gyllid ar gyfer pob gweithgaredd a gynllunir.
- Pennu a yw’r sgiliau a’r capasiti ar gael gennych yn fewnol i gyflawni’r gwaith. Os nad yw’r rhain ar gael, dewch o hyd i gontractwyr allanol (coedwigwyr, tyfwyr coed, gweithredwyr peiriannau).
- Archwiliwch wahanol ffyrdd o werthu ar gyfer a) pren sy’n sefyll neu b) pren ar ochr y ffordd. Gallai hyn gyd-fynd â’r broses o ganfod contractwyr i wneud y gwaith.
- Trwyddedau a Rheoliadau:
- Trwyddedau Cwympo: Sicrhau bod yr holl drwyddedau cwympo yn eu lle cyn dechrau ar unrhyw waith cwympo coed.
- Rheoliadau Amgylcheddol: Deall a chydymffurfio gyda rheoliadau’n ymwneud â rhywogaethau gwarchodedig, ansawdd dŵr, coetir hynafol a nodweddion archaeolegol.
- Iechyd a Diogelwch: Datblygu cynllun iechyd a diogelwch cadarn ar gyfer yr holl weithrediadau coedwig, gan gynnwys asesiadau risg ar gyfer pob tasg.
Cysylltwch â timtechnegolcff@mentera.cymru os hoffech dderbyn copi o'r adroddiad terfynol llawn ar gyfer y prosiect hwn.