Diweddariad Terfynol - Ionawr 2025
Cefndir
Mae pori defaid a gwartheg ar gnydau bresych dros y gaeaf yn cynnig cyfle i leihau costau gaeafu ar ffermydd. Fodd bynnag, ceir risg posibl o erydu’r pridd a cholli maetholion o ganlyniad i ddŵr ffo. Gallai sefydlu cnwd gorchudd tir effeithiol o dan y cnwd bresych leihau’r risg hwn a gallai ddarparu porthiant defnyddiol yn y gwanwyn.
Diben y gwaith
- Lleihau effaith amgylcheddol cnydau bresych, a monitro gorchudd cnydau ar y pridd. Mesur sgorau gorchudd tir ar gyfer gwahanol gymysgeddau hadau
- Gwerthuso’r cymysgedd hadau mwyaf addas i’w hau o dan y cnwd
- Gwerthuso porthiant, mesur cyfanswm ac ansawdd a monitro sgôr cyflwr cyn ac ar ôl y cyfnod bwydo
Yr hyn a wnaed:
- Cafodd pum cae eu trin gan ddefnyddio Roundup Flex ar 5 Awst 2024. Nid oedd y tywydd yn addas ar gyfer chwistrellu yn ystod y 14 diwrnod blaenorol sef y dyddiad targed.
- Llwyddwyd i losgi i ffwrdd yn dda a chafodd y 5 cymysgedd eu drilio (Ffigur 1) yn y 5 cae gan ddefnyddio dril Aitchson ar 12 Awst 2024. Sicrhawyd cyswllt da rhwng yr hadau a’r pridd gan ein bod wedi defnyddio oged ar y cae ar ôl drilio i gau’r holltau.
- Gwasgarwyd gwrtaith ar yr un diwrnod ar 30 Awst 2024 ar gyfradd o 150kg/erw o gynnyrch 23.0.12 s.
Cnwd 1 Rheoli | Cnwd 2 | Cnwd 3 | Cnwd 4 | Cnwd 5 |
1.5 kg Rêp porthiant 0.5 kg Maip sofl
| 1.5kg Rêp porthiant 0.5kg Maip sofl 5kg Tetraploid Eidalaidd
| 1.5kg Rêp porthiant 0.5Kg Maip sofl 5 kg Cymysgedd gorchudd tir (Cymysgedd 1 – Rhonwellt, rhygwellt parhaol, Meillion a ffacbys, a Meillion) | 1.5kg Rêp porthiant 0.5 kg Maip sofl 5 kg Cymysgedd gorchudd tir (Cymysgedd 2 – Byswellt, diploid canolraddol, festulolium, peiswellt) | 1.5kg Rêp porthiant 0.5kg Maip sofl 10kg cymysgedd o 1 a 2 |
Ffigur 1. Pum cymysgedd hadau a dreialwyd
Canlyniadau:
- Llwyddodd yr hadau i egino’n dda yn y lle cyntaf, ac roedd llinellau drilio i’w gweld yn amlwg o fewn pythefnos. Ond yn hwyrach, roedd y cnydau’n araf iawn yn tyfu, felly gwasgarwyd Nitrogen (N) ar y dail ar gyfradd o 10 litr fesul hectar ar 20 Medi 2024 i annog twf, ac roedd cnydau bresych yn cyrraedd y cam dwy ddeilen yn fuan iawn.
- Mae twf wrth i’r tymor fynd rhagddo wedi bod yn araf wrth i’r tymheredd ostwng. Mae twf glaswellt hefyd wedi bod yn dda. Ar ganol mis Chwefror 2025, roedd gorchudd gwyrdd ar bob un o’r 5 cae ac mae planhigion bresych bychain yn dal i’w gweld (Ffigur 3). Yn anffodus, nid yw’r cnydau bresych wedi tyfu’n unol â’u potensial i leihau costau gaeafu. Mae’n bosibl bod ambell i ffactor wedi atal hyn rhag digwydd
- :Dyddiad drilio yn rhy hwyr ar gyfer yr uchder, yr ardal a’r amodau
- Cystadleuaeth bosibl gan laswellt newydd ei hau a hen laswellt ar y caeau
- Pori gan golomennod ac ysgyfarnogod ar brydiau.
- Wrth edrych yn ôl, dylai’r caeau fod wedi cael eu chwistrellu bythefnos yn gynt, fodd bynnag, nid oedd y tywydd yn ddelfrydol a byddai risg o ddŵr ffo gyda’r chwistrell a photsio gan y tractor.
- Bwriad Bryn a Sarah yw gwasgaru mwy o wrtaith ar yr ardal i annog twf ar gyfer mamogiaid sy’n ŵyna. Mae’r arbrawf wedi bod yn llwyddiannus iawn o ran atal dŵr ffo ac mae gorchudd tir yn dda gyda phorfa o ansawdd uwch.
Bryn and Sarah - ‘Mae’r cyllid arbrofi yn fenter ardderchog, a byddem wrth ein bodd yn cymryd rhan eto yn y dyfodol. Mae ein prosiect Arbrofi wedi rhoi mewnwelediad gwych i ni i’r amodau a’r potensial ar ein fferm.’
Ffigur 2. Enghraifft o dwf 15 wythnos ar ôl hau (27 Tachwedd).
Ffigur 3. Glaswellt a chnwd bresych yn bresennol ar 16 Chwefror 2025.