Diweddariad Terfynol Prosiect Ein Ffermydd

Prif ganlyniadau:

  • Mae sefydlu planhigfa de yng Nghymru yn bosibl dan yr amodau tyfu cywir
  • Roedd mapio geo-ofodol yn ddefnyddiol er mwyn canfod lleoliadau addas ar y fferm ar gyfer tyfu
  • Mae’r prosiect wedi llwyddo i sicrhau cyllid pellach ar gyfer arbrofion ar raddfa fwy a chynnyrch arloesol

Cefndir: 

Mae fferm Cleobury, fferm fynydd Gymreig yng Ngogledd Powys, wedi defnyddio dadansoddiad geo-ofodol o’r tir a dadansoddiad o’r pridd i ganfod ardaloedd addas o’r fferm i gynhyrchu te, fel cyfle arallgyfeirio ar gyfer y busnes. Roedd y ffermwr, Mandy Lloyd, yn dymuno cynyddu proffidioldeb y busnes trwy dyfu cnwd newydd i’w werthu fel cynnyrch uchel ei werth. Roedd arallgyfeirio cynaliadwy, gweithio gyda’r amgylchedd, a chynhyrchu cnwd sy’n gysylltiedig ag iechyd a lles pobl yn bwysig i’r ffermwr.

Diben y gwaith: 

  1. Cynnal adolygiad mapio geo-ofodol i ganfod ardaloedd ar y fferm sy’n addas i dreialu’r broses o dyfu te
  2. Deall y gofynion ar gyfer sefydlu planhigion iach a monitro’r planhigion te yn ystod y tymor cyntaf
  3. Edrych ar lwybrau posibl i’r farchnad ar gyfer y cnwd

Ffigur.1 Camellia sinensis

Yr hyn a wnaed: 

Yn seiliedig ar arbrawf cyn y prosiect, prynodd y ffermwr blanhigion te gan gyflenwr o’r Alban, gan ddewis yr amrywiaeth Camellia sinensis (Ffigur 1). Mae’r planhigyn coediog, bytholwyrdd, lluosflwydd hwn yn hanu o Ogledd i Ddwyrain Asia, ac fe’i gwelir yn tyfu yn yr Himalayas ac o dan amodau eraill ar uchder sylweddol. Er bod y planhigyn yn ffynnu yng ngolau’r haul, mae’n gallu goroesi tymheredd cyn ised â -10 gradd, ac yn ffafrio priddoedd asidig sy’n draenio’n dda.

Bu’r prosiect hwn yn defnyddio technoleg mapio arloesol i nodi ardaloedd cynhyrchu gyda’r amodau gorau ar gyfer cynhyrchu’r cnwd. Trwy integreiddio data geo-ofodol megis hinsawdd, nodweddion y pridd, topograffeg, ac argaeledd dŵr, rodd y dadansoddiad hwn yn ddefnyddiol er mwyn nodi ardaloedd lle byddai’r cnwd yn fwyaf tebygol o ffynnu a chynhyrchu’r cynnyrch gorau posib.

Yn dilyn cyfnod o gynefino, cynhaliwyd y gwaith plannu yn ystod mis Mai a Mehefin 2024. Plannwyd 450 o blanhigion ar draws 2 erw. Yn seiliedig ar y dadansoddiad geo-ofodol, dewiswyd dau safle mewn gwahanol ardaloedd o’r fferm (Ffigur 2).
 

Ffigur 2 Llain 1

Canlyniadau: 

  • Llwyddodd y planhigion i sefydlu’n dda yn ystod y tymor cyntaf. Cafwyd ychydig iawn o golledion, a phlannwyd planhigion newydd i gymryd lle unrhyw blanhigion a gollwyd.
  • Mae dyfrhau’n allweddol er mwyn sicrhau bod planhigion yn sefydlu’n iach. Ar ôl dyfrhau â llaw yn y lle cyntaf, a ddaeth yn anymarferol ar raddfa mor fawr, gosododd y ffermwr bibellau dyfrhau parhaol i sicrhau bod y planhigion yn cael eu dyfrhau’n gyson yn ystod cyfnodau sych.
  • Roedd cwningod yn broblem gyda’r planhigion ifanc, yn ogystal â difrod gwynt. Gosododd y ffermwr ffens rwyll o amgylch y lleiniau i wella siawns y planhigion o oroesi (Ffigur 3)
  • Ar ôl arsylwi’r ddwy lain trwy gydol y tymor cyntaf, daeth yn amlwg bod yr ail lain yn rhy agored, ac roedd cyflwr y pridd yn rhy wael. Cafodd y llain ei thynnu o’r prosiect ym mis Chwefror 2025.
  • Mae’r planhigion yn cysgu dros gyfnod y gaeaf, gan ailddechrau tyfu unwaith bydd y pridd wedi cynhesu. Roedd y ffermwr yn falch o weld bod y planhigion wedi goroesi tymor gaeaf 2024 gyda thwf newydd a ffres yn dechrau yn y gwanwyn.
  • Er na fydd y cnwd yn cael ei gynaeafu tan y drydedd flwyddyn, anfonwyd ychydig o ddail te i’w dadansoddi eleni fel rhan o raglen gofal iechyd arloesol. Yn seiliedig ar lwyddiant y Cyllid Arbrofi, mae’r ffermwr wedi llwyddo i sicrhau cyllid ychwanegol i ehangu’r prosiect ac i weithio gyda phartneriaid ychwanegol ar ddatblygiad yn seiliedig ar de yn y dyfodol.
     

Ffigur 3 Gosodwyd ffens i warchod rhag cwningod ac i gysgodi rhag y gwynt

Sut i’w roi ar waith ar eich fferm: 

  1. Edrychwch ar wahanol fathau o blanhigion a chyflenwyr ar raddfa fach iawn cyn buddsoddi mewn llawer o blanhigion.
  2. Cynhaliwch ddadansoddiad manwl o’r pridd i ganfod yr amodau twf priodol ar gyfer y planhigion.
  3. Mae dyfrhau’n allweddol er mwyn sefydlu’r planhigion. Cofiwch gynnwys costau dyfrhau priodol o’r cychwyn cyntaf.
  4. Efallai y bydd angen ffensys i ddiogelu rhag cwningod, ceirw ac ati.
  5. Mae marchnad de Cymru a’r DU yn sector sy’n tyfu. Edrychwch ar wahanol gyfleoedd o ran y farchnad yn gynnar er mwyn sicrhau eich bod yn buddsoddi yn y planhigion cywir ar gyfer y diben a fwriadwyd.