Diweddariad Terfynol Prosiect Ein Ffermydd

Canlyniadau allweddol:

  • Dim ond rhwng mis Mai a mis Hydref 2025 y cynyddodd y gorchudd meillion yn sylweddol. Roedd 70% o gynnwys meillion yn rhai rhannau.
  • Cofnodwyd y dwysedd stolonau mwyaf (m/m2) ar gyfer AberLasting yn y ddau gae arbrofol, sy'n awgrymu twf llorweddol uwch a mwy o ddyfalbarhad o bosibl o’i gymharu â'r cymysgedd safonol.

Cefndir: 

Mae'r prosiect hwn yn ymchwilio i feillion gwyn. Codlysiau yw’r rhain sy'n fodd o arbed costau sylweddol gwrtaith nitrogen ar fferm glaswelltir. Mae gwreiddgnepynnau’n cynnwys bacteria sy'n sefydlogi nitrogen, ac mae hyn yn golygu bod nitrogen atmosfferig yn cael ei ddal a'i drawsnewid yn ffurf y gall planhigion ei defnyddio. Gall hyn gymryd lle hyd at 150 kg/ha o wrtaith synthetig o bosibl. Hefyd, mae gan feillion gwyn y treuliadwyedd uchaf o’r holl blanhigion glaswelltir cyffredin. Mae ganddo gynnwys protein crai uchel, hefyd, sy’n arwain at borfeydd o ansawdd uwch ar gyfer anifeiliaid sy’n pori. 

Diben y gwaith: 

  1. Gwella effeithlonrwydd defnyddio nitrogen trwy gynyddu cynnwys meillion gwyn mewn gwndwn glaswellt
  2. Cymharu modd sefydlu a pherfformiad gwahanol fathau o feillion gwyn
  3. Gwerthuso ymarferoldeb tros-hau fel dull sefydlu

Yr hyn a wnaed: 

Cynhaliwyd yr arbrawf mewn dau gae glaswelltir (Cae Ysgol a Chae Bargoed), wedi'u drilio'n uniongyrchol ar ddechrau mis Mehefin 2024. Defnyddiwyd dyluniad lleiniau a oedd wedi’u rhannu i gymharu dwy driniaeth meillion yn erbyn ardal reoli:

  • Triniaeth 1: Cymysgedd meillion gwyn safonol.
  • Triniaeth 2: Meillion hybrid newydd sy'n cynhyrchu stolonau a rhisomau tanddaearol.
  • Rheoli: Stribed cyfagos ym mhob cae a oedd heb ei drin (dim meillion wedi'u drilio).

Cafodd y ddau fath o feillion eu tros-hau ar gyfradd o 2kg/erw gan ddefnyddio dril Erth Agriseeder (Ffigur 1). 

Er mwyn sicrhau bod y meillion yn sefydlu cystal â phosibl a lleihau cystadleuaeth gan laswellt, cymerwyd y camau canlynol:

  • Rheoli cyn drilio: Torrwyd y ddau gae ar gyfer silwair yn union cyn drilio i leihau uchder a biomas presennol y gwndwn.
  • Drilio: Cafodd y meillion eu drilio mewn un pas ar y cyd â gwasgaru pelenni gwlithod i liniaru pwysau gan blâu.
  • Rheoli ar ôl drilio: Cafodd caeau eu pori yn fuan ar ôl drilio. Cafodd y rownd bori ei byrhau dros dro i oddeutu 20 diwrnod i atal twf glaswellt a lleihau cystadleuaeth ymhellach yn erbyn yr eginblanhigion meillion a oedd yn dod i'r amlwg.


Ffigur  1: Dril Erth Agriseeder

Asesiad o orchudd y tir: Meintiolwyd llwyddiant sefydlu’r meillion trwy asesu canran arwynebedd gorchudd tir y meillion gwyn o fewn cwadratau cynrychioliadol. Tynnwyd lluniau o'r ardaloedd hyn ar gyfer dadansoddiad digidol.

Asesiad morffolegol: Tynnwyd tyweirch cyfan o Gae Ysgol a Chae Bargoed. Cafodd y samplau hyn eu prosesu i fesur hyd stolonau ac i gadarnhau'n weledol bresenoldeb rhisomau yn benodol yn y math hybrid o feillion (Ffigur 2).
 

 

Ffigur 2. Enghraifft o stolonau a gasglwyd o dywarchen 30 x 30cm


Canlyniadau:

  1. Sefydliad y meillion a gorchudd
    Dangosodd y planhigion meillion gynnydd sylweddol o ran gorchudd tir yn ystod tymor tyfu 2025, ond roedd y sefydliad yn parhau i fod yn amrywiol iawn ar draws y lleiniau.

    ●    Cyfnod sefydlu: Roedd angen cyfnod o 12 mis ar y planhigion meillion i gyrraedd eu datblygiad llawn, a oedd yn eu gwneud yn agored iawn i ddifrod a chystadleuaeth yn ystod y cyfnod hwn.
    ●    Cyfradd y cynnydd: Cynyddodd gorchudd y meillion yn sylweddol rhwng asesiad mis Mai 2025 (Ffigur 3, pan mai dim ond 8-12% oedd y lefelau) ac asesiad mis Hydref 2025 (Ffigur 4), sy'n dangos twf llwyddiannus ar ddiwedd y tymor.
    ●    Cymharu triniaethau: Dangosodd meillion hybrid AberLasting gynnwys meillion cyfartalog a oedd ychydig yn uwch yn y ddau gae o gymharu â'r cymysgedd safonol, er nad oedd y gwahaniaeth hwn yn ystadegol arwyddocaol.
    ●    Amrywioldeb: Roedd y gwndwn yn parhau i fod yn amrywiol iawn.
    ○    Roedd ardaloedd o’r gwndwn gyda gorchuddion glaswellt uchel (yn aml ger darnau o dir yn llawn wrin/tail) yn aml yn dangos ychydig iawn o blanhigion meillion.
    ○    Er bod gan sawl cwadrat dros 70% o orchudd meillion gweledol, roedd gan dros chwarter y cwadratau yn yr ardaloedd a oedd wedi'u hau lai na 5% o orchudd, yn ôl y cofnodion.
     

Ffigur 3. Mai 2025 Cyfrif planhigion meillion gweledol

Ffigur 4. Hydref 2025 Cyfrif planhigion meillion gweledol  

  1. Asesu stolonau a rhisomau
    Roedd gwaith asesu morffolegol yn canolbwyntio ar ddatblygiad stolonau a gwirio presenoldeb rhisomau yn y math hybrid.

    ●    Strwythur rhisomau: Ni welwyd tystiolaeth o unrhyw strwythurau rhisomau gwahanol yn nhyweirch meillion hybrid AberLasting, er bod hyn yn un o nodweddion allweddol ei ddisgrifiad.
    ●    Dwysedd stolonau (Tabl 1): Yn ôl y cofnodion, roedd gan AberLasting y dwysedd stolonau mwyaf (m/m2) yng Nghae Ysgol a Chae Bargoed, a oedd yn awgrymu twf llorweddol uwch a mwy o ddyfalbarhad o bosibl o gymharu â'r cymysgedd safonol.
    Tabl 1. Dwysedd stolonau
     

 

Dwysedd stolonau (m / m2)

 

AberDairy

AberLasting

Cae Ysgol

18

23.5

Cae Bargoed

29

38

Sut i’w roi ar waith ar eich fferm: 

  1. Gwnewch yn siŵr bod y gwndwn presennol yn cael ei bori'n drwm neu ei dorri yn union cyn tros-hau. Ar gyfer y 12 mis cyntaf critigol, mabwysiadwch amserlen pori cylchdro fyrrach (e.e., tua 20 diwrnod o gylchdro) i atal glaswellt a chaniatáu i olau gyrraedd y planhigion meillion sy'n datblygu.
  2. Peidiwch â disgwyl canlyniadau unffurf ar draws y cae. Canolbwyntiwch ymdrechion rheoli ar gyflawni sefydliad cyffredinol da, yn hytrach na pherffeithrwydd
  3. Peidiwch â cheisio torri costau wrth reoli hadau neu blâu. Dylid ystyried cyfradd 2kg/erw fel y safon ofynnol wrth dros-hau mewn gwndwn cystadleuol, a rhaid defnyddio pelenni gwlithod yn ystod drilio, yn enwedig mewn amodau llaith a chyfnodau risg uchel
  4. Peidiwch ag asesu llwyddiant neu fethiant y planhigion yn ystod y misoedd cyntaf. Dim ond yn yr ail dymor tyfu llawn y bydd y newidiadau mwyaf effeithiol o ran sefydlogi N, cynnwys protein, a buddion pori yn cael eu gwireddu. Mae rheoli amynedd ar gyfer y flwyddyn gyntaf yn hanfodol.