Diweddariad Ŵyna Prosiect Halghton Hall - Ebrill 2020

Canlyniadau sganio:

126 yn cario ŵyn unigol
36 yn cario gefeilliaid
2 yn cario tripledi 

Disgwyliwyd y byddai cyfanswm o 164 o ŵyn benyw yn ŵyna ym mis Ebrill 2020. Roedd perfformiad cyffredinol yr ŵyn benyw hyn drwy gydol y cyfnod ŵyna yn rhagorol, heb unrhyw broblemau arwyddocaol. 

 

Colledion 

  • Fe wnaeth 4 oen benyw ail-amsugno eu hŵyn (3 unigol ac 1 gefeilliaid) ac ni wnaeth y rhain ŵyna. 
  • Collwyd ŵyn dwy oen benyw a oedd yn cario ŵyn unigol ar enedigaeth, ond roedd gan y ddwy ddigonedd o laeth, felly fe wnaethon nhw fagu ŵyn cyfnewid. 
  • Collwyd oen un oen benyw a oedd yn cario oen unigol, ac nid oedd ganddi laeth. 
  • Ni chafwyd unrhyw golledion ŵyn o’r ŵyn benyw a oedd yn cario gefeilliaid nei dripledi dros y cyfnod ŵyna. 

Mae 13 yn magu gefeilliaid ar hyn o bryd, ond mae pob un o’r ŵyn yn fach (5-10kg). Mae'r ŵyn hyn yn derbyn dwysfwyd ychwanegol. Cafodd yr holl ŵyn eraill eu mabwysiadu gan hesbinod neu eu gwerthu fel ŵyn llywaeth yn 2-3 diwrnod oed. Yn dilyn adroddiad gan ADAS (2010), argymhellir mai un oen yn unig y dylai hesbinod eu magu. Y rheswm am hyn yw bod angen i hesbinod gyrraedd y cyflwr corff gorau posibl erbyn iddynt gael eu paru eto yn 18 mis oed. Er mwyn sicrhau cynnydd pwysau byw digonol yn ystod eu hail dymor, ystyrir bod magu oen sengl yn ffafriol lle bo hynny'n bosibl.

 

Iechyd

  • Cafwyd achosion o fwrw’r llawes mewn 3 oen benyw ar ôl ŵyna. Derbyniodd pob un ohonynt driniaeth yn unol â chyngor milfeddygol a bydd y rhain yn cael eu difa o’r ddiadell i osgoi problemau tebyg yn y dyfodol.
  • Roedd un oen yn dioddef clwy’r cymalau.
  • Mae'r holl ŵyn wedi cael eu trin rhag pryfed ac wedi cael trochi eu traed er mwyn osgoi problemau sgald.

Perfformiad (hyd at 14 Mai 2020)

  • 164 o ŵyn benyw wedi cael eu sganio’n feichiog
  • 160 o ŵyn benyw wedi dod ag ŵyn 
  • 159 o ŵyn benyw yn magu oen ar hyn o bryd (naill ai ei hoen hi neu oen cyfnewid)
  • Pwysau cyfartalog ŵyn benyw - 58kg (rhwng 56-61kg) 
  • Pwysau cyfartalog ŵyn yr ŵyn benyw - 21kg (rhwng 14-23kg)
  • Yr oedran cyfartalog mewn dyddiau ar 14 Mai 2020 - 43 diwrnod
  • Gan amcangyfrif pwysau geni o 3.5kg, amcangyfrifir DLWG ar >0.4kg y dydd