Dr. Richard Kemp
Enw
Dr. Richard Kemp
Lleoliad
Babell, Sir y Fflint
Prif Arbenigedd
Iechyd y fuches
Sector
- Llaeth
- Bîff
- Defaid
Pam eich bod chi’n Ymgynghorydd effeithiol?
- Magwyd Richard ar fferm laeth a chymhwysodd fel milfeddyg ym 1995. Yn ogystal â gweithio fel milfeddyg yn ystod y rhan fwyaf o’r cyfnod ers cymhwyso, mae hefyd wedi bod yn gwneud gwaith ymchwil epidemioleg ar ran y VLA, gan wneud archwiliadau post mortem a gwaith cysylltiedig yn y maes a’r labordy. Mae wedi derbyn hyfforddiant i fod yn fentor symudedd.
- Mae Richard yn gallu cynnig ei brofiad o epidemioleg a phatholeg ynghyd â blynyddoedd o brofiad clinigol i ymdrin ag amrywiaeth o faterion iechyd y fuches.
Mae wedi cynnal nifer o weithdai a gweminarau fferm ac mae’n rhan o roi’r cynllun Cow Compass ar waith ar gyfer ffermydd sy’n cyflenwi Ben and Jerrys.
Qualifications/Achievements/Experience
- BVSc
- MSc. (Epidemioleg Filfeddygol)
- PhD (Epidemioleg Filfeddygol)
- Mentor symudedd a sgoriwr symudedd cofrestredig
Top Tip/Quote
Mae’n bwysig i ffermydd modern gynnal safonau uchel o ran iechyd a lles anifeiliaid ac i ffermio’n foesegol – yn ffodus iawn, mae gwartheg hapus yn wartheg cynhyrchiol.