Dylasau uchaf Diweddariad prosiect - Mawrth 2024

Dechreuwyd casglu data yn ystod y cyfnod ŵyna, gan ganolbwyntio ar baramedrau allweddol megis cyflwr corff y famog, pwysau geni'r ŵyn ac ansawdd colostrwm.

Mae Tabl 1 isod yn dangos y canlyniadau rhagarweiniol ar gyfer ansawdd colostrwm trwy ddefnyddio mesurydd plygiant (reffractomedr) Brix, sef offeryn a ddefnyddir i fesur cynnwys siwgr hydoddiant. Mae cynyddu cynnwys siwgr yn arwain at gynnydd yn y mynegai plygiannol. Trwy basio golau trwy sampl a mesur y plygiant, gellir mesur faint y mae'r golau yn plygu, a'r cynnwys siwgr. Gall hyn ddarparu asesiad cywir o grynodiad IgG colostrwm mewn llaeth dafad.

Tabl 1. Canlyniadau rhagarweiniol