Dylasau uchaf Diweddariad prosiect – Terfynol
Prif ganlyniadau:
- Gwelwyd gwelliannau o ran pwysau ŵyn ar enedigaeth a dwysedd colostrwm o ganlyniad i fwydo silwair o ansawdd uwch cyn ŵyna.
- Ni nodwyd unrhyw achosion o glefydau newydd-anedig (e.e. dolur rhydd, heintiau’r bogail).
Cefndir:
Mae Dylasau Uchaf yn fferm ucheldir 300 erw sy’n cadw 800 o famogiaid a 175 o wartheg. Roedd y fferm yn anelu at wella perfformiad ŵyna, canolbwyntio ar sicrhau’r pwysau gorau posibl ar gyfer ŵyn a lleihau cyfraddau marwolaeth drwy reoli iechyd a maeth, gan wneud y defnydd gorau o borthiant wedi’i silweirio.
Diben y gwaith:
- Gwella’r defnydd o borthiant wedi’i silweirio er mwyn lleihau faint o fewnbynnau ychwanegol a brynir i mewn, gan hefyd wella pwysau ŵyn a lleihau cyfraddau marwolaeth.
- Rheoli cyflwr corff mamogiaid, parasitiaid a chlefydau heintus i sicrhau’r canlyniadau gorau wrth ŵyna.
- Gwella ansawdd colostrwm a phwysau ŵyn ar enedigaeth drwy fwydo silwair o ansawdd uwch cyn ŵyna.
Yr hyn a wnaed:
- Rheoli cyflwr corff mamogiaid cyn hyrdda i sgôr o 3.5-3.0 ac i 2.5-3.0 cyn ŵyna.
- Cynnal profion cyfrif wyau ysgarthol strategol a thriniaethau llyngyr a llyngyr yr iau wedi’u targedu.
- Brechu rhag clefydau clostridiol a phasteurellosis, a chynnal profion ar gyfer tocsoplasma gondii.
- Dadansoddi silwair a thargedu porthiant o ansawdd uwch ar gyfer mamogiaid sy’n cario gefeilliaid.
- Ychwanegu dwysfwyd masnachol yn seiliedig ar broffiliau gwaed metabolig a oedd yn nodi bylchau o ran protein.
- Monitro ansawdd colostrwm gan ddefnyddio reffractomedr Brix a phwysau ŵyn ar enedigaeth.
Canlyniadau:
- Ni welwyd unrhyw arwyddion o getosis na chlefydau newydd-anedig megis dolur rhydd, clwy’r cymalau na cheg ddyfrllyd yn 2024.
- Roedd pwysau ŵyn yn y grwpiau gyda chymhareb ME/CP uwch yn y silwair (11.5/13.7) yn uwch. Er enghraifft: Ŵyn unigol mewn cyflwr da yn pwyso 4.67kg a gefeilliaid mewn cyflwr da yn pwyso 4.28kg.
- Roedd pwysau ŵyn yn y grwpiau gyda chymhareb ME/CP is yn y silwair (10.4/11) ychydig yn is. Roedd gefeilliaid mewn cyflwr da yn pwyso 3.71kg.
- Mae cymarebau ME/CP uwch yn y silwair hefyd yn gysylltiedig ag ansawdd colostrwm uwch: Roedd darlleniad Brix colostrwm mamogiaid sy’n cario gefeilliaid mewn cyflwr da yn 41% gyda’r gymhareb silwair uwch.
- Mae cymarebau ME/CP is yn y silwair yn arwain at golostrwm o ansawdd is: Roedd darlleniad Brix colostrwm mamogiaid sy’n cario gefeilliaid mewn cyflwr da yn 32% gyda’r gymhareb is.
- Mae bwydo dwysfwyd yn agosach at ŵyna (e.e. 0/3 kg wythnos cyn ŵyna) yn cefnogi gwell pwysau ac ansawdd colostrwm: 0.3 kg o ddwysfwyd yn arwain at ŵyn 4.28 kg a cholostrwm gyda darlleniad Brix o 41%.
- Mae bwydo llai o ddwysfwyd yn gysylltiedig ag ŵyn ysgafnach ac ansawdd colostrwm: 0.15 kg o ddwysfwyd yn arwain at ŵyn 3.71 kg a cholostrwm gyda darlleniad Brix o 32%.
- Er bod bwydo dwysfwyd yn cynyddu pwysau ŵyn ac ansawdd colostrwm, mae cymarebau ME/CP uwch yn y silwair yn cael effaith fwy arwyddocaol.
Tabl 1: Hanes bwydo gwahanol grwpiau o ddefaid a’u canlyniadau brix colostrwm cymedrig cysylltiedig, a chanlyniadau pwysau ŵyn.
Grŵp | ME/CP cyfartalog silwair | Dwysfwyd 3 wythnos cyn ŵyna | Dwysfwyd 1 wythnos cyn ŵyna | % gyfartalog brix y colostrwm | Pwysau cyfartalog yr ŵyn |
Defaid sy’n cario 1 oen a gefeilliaid â chyflwr corff teneuach | 11.5/13.7 | 0.3 Kg | 0.3 Kg | 37% | 3.57 Kg |
Defaid sy’n cario gefeilliaid mewn cyflwr da | 11.5/13.7 | 0.15 Kg | 0.3 Kg | 41% | 4.28 Kg |
Defaid sy’n cario gefeilliaid mewn cyflwr da | 10.4/11 | 0.35 Kg | 0.6 Kg | 32% | 3.71 Kg |
Defaid sy’n cario un oen mewn cyflwr da | 11.5/13.7 | 0 Kg | 0.2 Kg | 35% | 4.67 Kg |
Sut i’w roi ar waith ar eich fferm:
- Monitro a rheoli cyflwr corff mamogiaid drwy ddefnyddio system sgorio cyflwr safonol.
- Dadansoddi porthiant i ganfod ansawdd a thargedu bwyd ar gyfer mamogiaid gan ddibynnu ar gyflwr y corff, mamogiaid sy’n cario mwy nag un oen a chyfnod beichiogrwydd. Ychwanegu dwysfwyd i gau bylchau egni a phrotein yn ôl yr angen.
- Profi ar gyfer heintiau parasitig (e.e. llyngyr yr iau) a brechu rhag clefydau cyffredin.
- Defnyddio offer megis reffractomedr Brix i fonitro ansawdd colostrwm a darparu ychwanegion lle bo angen.