Edward Nutting
Enw
Arwyn Reed
Sefydliad
Lanyon Bowdler
Rwy'n gyfreithiwr ac yn bartner yn Lanyon Bowdler Solicitors. Rwy’n arbenigo mewn cyfraith eiddo amaethyddol a masnachol gan ganolbwyntio’n bennaf ar eiddo gwledig, busnesau gwledig a phrosiectau ynni adnewyddadwy. Rwy’n cynghori unigolion, partneriaethau, cwmnïau a sefydliadau eraill ar eu hanghenion eiddo o ddydd i ddydd a chynllunio ar gyfer y dyfodol, yn aml yn gweithio’n agos gyda’n Tîm Cleientiaid Preifat (Ewyllysiau, Profiant a Chynllunio Olyniaeth) a’n Tîm Corfforaethol (Partneriaethau, Strwythurau Cwmnïau a Mentrau ar y Cyd ac ati).
Rwyf wedi gweithio fel cyfreithiwr ers dros 10 mlynedd ac wedi treulio’r rhan fwyaf o’m hamser yn canolbwyntio ar waith yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru a Swydd Gaer. Mae gennyf angerdd dros amaethyddiaeth a’r economi wledig yn gyffredinol ac rwy’n mwynhau chwarae fy rhan i gynorthwyo’r unigolion a’r busnesau hynny a fydd yn cadw’r economi wledig i fynd am ddegawdau i ddod.
Cefais fy magu ar fferm fynydd yn Ne Eryri, fferm ddefaid a bîff a arallgyfeiriodd i dwristiaeth sawl degawd yn ôl. Rwy’n Gymrawd o Gymdeithas y Gyfraith Amaethyddol ac wedi ennill Tlws y Cadeirydd am ennill y marc uchaf. Dwi hefyd yn Gymro Cymraeg.
Ardaloedd
Gogledd Ddwyrain, Gogledd Orllewin a Chanolbarth Cymru
Ieithoedd
Cymraeg a Saesneg