Uwchsain Thorasig mewn lloi godro i ganfod niwmonia cynnar
Clefyd resbiradol buchol neu niwmonia yw’r rheswm mwyaf cyffredin dros farwolaeth a pherfformiad gwael mewn gwartheg ifanc. Er mwyn lleihau effaith niwmonia ar berfformiad eu buches, bydd grŵp o wyth fferm laeth yn gweithio gyda Milfeddygon Daleside i dreialu’r defnydd o sganio uwchsain Thorasig, sy’n rhagfynegydd cyflym, wedi’i ddilysu ar y fferm, o friwiau ysgyfaint mewn lloi llaeth sydd heb gael eu diddyfnu eto. Defnyddir y dechnoleg i ymchwilio i nifer yr achosion a difrifoldeb briwiau ar yr ysgyfaint a’i gysylltiad â niwmonia clinigol a’i effaith ar gyfraddau twf.
Drwy asesu lefel cydgrynhoi’r ysgyfaint, maent yn gobeithio codi ymwybyddiaeth o lefel y clefyd resbiradol isglinigol mewn lloi llaeth, a’i effaith bosibl ar effeithlonrwydd a phroffidioldeb buches. Bydd y wybodaeth hon yn ceisio lleihau achosion o glefydau resbiradol. Bydd y prosiect hefyd yn codi ymwybyddiaeth o fanteision defnyddio uwchsain thorasig ar ffermydd i asesu llwyddiant newidiadau rheoli wrth leihau achosion o glefydau resbiradol.
Dros y flwyddyn nesaf, cynhelir ymweliadau misol â’r wyth fferm sy’n cymryd rhan. Yn ystod yr ymweliadau hyn, bydd lloi 2–6 wythnos a 12–16 wythnos oed yn cael eu pwyso, yn ogystal â lloi 6–10 wythnos oed, a bydd sgan uwchsain thorasig yn cael ei gynnal.
Bydd casglu data yn hanfodol i olrhain a monitro achosion o glefydau resbiradol a bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu i bob aelod o staff fferm sy’n ymwneud â gofalu am loi ar sut i bennu achos clinigol o niwmonia.
Bydd y ffermydd sy’n cymryd rhan yn cael eu canlyniadau a fydd yn sylfaen er mwyn caniatáu i’r newidiadau angenrheidiol gael eu gwneud. Os gweithredir newidiadau rheoli megis gwell maeth, glanweithdra, dyluniad siediau, gellid cynnal rhaggor o sganio i fonitro effeithiau’r newidiadau hyn.