16 Mehefin 2025
Mae astudiaeth yng Nghymru wedi tynnu sylw at werth sganio ysgyfaint lloi am niwed gan glefyd resbiradol, gan nad oedd dwy ran o dair o'r anifeiliaid â briwiau erioed wedi cael unrhyw symptomau clinigol.
Mae clefyd resbiradol yn un o brif achosion marwolaethau a morbidrwydd mewn lloi llaeth, ac mae'n cael effaith sylweddol ar les a chyfraddau twf, a hefyd perfformiad anifeiliaid yn y dyfodol fel gwartheg sy'n llaetha.
Cafodd 256 o loi rhwng chwech a 10 wythnos oed ar wyth fferm laeth eu sganio gan ddefnyddio uwchsain thorasig (TUS) fel rhan o brosiect a ariannwyd gan Cyswllt Ffermio.
Mae’r sganio’n defnyddio tonnau sain amledd uchel i gipio delweddau byw o organau mewnol y corff, a datgelodd sgoriau briwiau annormal yn yr ysgyfaint mewn 54 o loi; cafodd yr anifeiliaid hyn eu sganio eto bedair wythnos yn ddiweddarach.
Dangosodd cofnodion y ffermydd mai dim ond 33.3% o'r 54 o loi hynny oedd wedi dangos arwyddion o glefyd resbiradol fel peswch, rhedlif trwynol, clustiau llipa ac iselder o’r blaen, ac yna cawsant eu trin â gwrthficrobiaidd a meddyginiaeth wrthlidiol.
Nid oedd y lleill wedi cael eu trin, sy'n awgrymu bod eu symptomau'n is-glinigol, meddai Bedwyr Roberts, o Grŵp Milfeddygol Daleside, un o'r milfeddygon a oedd yn rhan o'r astudiaeth.
Ond yr hyn a oedd yn amlwg oedd sut roedd y difrod hwnnw wedi effeithio ar gyfraddau twf.
Yn sgil dadansoddi’r data datgelwyd bod cynnydd pwysau byw dyddiol cyfartalog (DLWG) yn y lloi â sgoriau annormal yn 0.17kg / dydd yn llai na'r rhai heb friwiau.
Dywed Bedwyr nad oedd digon o loi gyda sgoriau annormal yn yr astudiaeth honno a oedd hefyd wedi cael eu trin i alluogi unrhyw wahaniaeth yn eu cyfraddau twf i gael ei gymharu â'r lloi heb friwiau.
Ond dangosodd y cofnodion nad oedd unrhyw loi â briwiau ar bedair o’r ffermydd wedi cael eu trin am glefyd resbiradol buchol clinigol (BRD), ond roedd eu cyfraddau twf yn is na'r rhai â sganiau clir, ychwanega.
"Mae hyn yn awgrymu mai dim ond crafu’r wyneb y mae achosion clinigol o glefyd resbiradol buchol, a gall ei effaith ar dwf a pherfformiad lloi effeithio ar lawer mwy o loi na'r rhai sy'n dangos arwyddion clinigol," meddai.
"Mae hyn yn pwysleisio ac yn codi ymwybyddiaeth o ba mor bwysig y mae monitro iechyd a pherfformiad lloi, ynghyd â rheoli lloi yn dda i leihau BRD."
Hefyd, dangosodd yr astudiaeth fod gan hanner y lloi â sgoriau ysgyfaint annormal yn y sgan cyntaf sgoriau arferol yn yr ail sgan.
Os oes heffrod dros ben ar fferm, dywed Bedwyr y gallai uwchsain thorasig fod yn rhan o'r ‘goeden benderfynu’ ynglŷn â’r heffrod i'w cadw fel stoc cyfnewid i sicrhau mai dim ond yr anifeiliaid mwyaf cynhyrchiol sy'n ffurfio'r fuches yn y dyfodol.
Dywed Menna Williams, Rheolwr Arbenigol Cyswllt Ffermio, a oedd yn goruchwylio’r prosiect fod ymwybyddiaeth wedi'i chodi ar y ffermydd o lefel clefyd resbiradol is-glinigol mewn lloi llaeth trwy asesu lefel cydgrynhoi'r ysgyfaint, a'i effaith bosibl ar effeithlonrwydd a phroffidioldeb buches.
Mae hefyd manteision i'r diwydiant llaeth yn gyffredinol, ychwanega.
"Bydd y wybodaeth hon yn helpu i ysgogi gwelliannau wrth reoli lloi ar ffermydd llaeth yng Nghymru, gyda'r nod o leihau clefyd resbiradol a lleihau'r angen am ddefnyddio gwrthficrobiaid mewn lloi."
Bydd 100 o loi eraill ar draws ffermydd yr astudiaeth yn cael eu sganio yn 2025.
Ffermydd astudio
Llinell amser Chwefror - Medi 2024
Maint buchesi o 80 - 650 o wartheg
System lloia mewn bloc ar dair fferm
Patrwm lloia drwy gydol y flwyddyn ar bum fferm
Rhoddwyd hyfforddiant i holl staff y ffermydd sy'n ymwneud â magu lloi ar ganfod arwyddion clinigol BRD
Rheoli lloi i atal clefyd resbiradol
Gellir atal achosion o glefyd resbiradol gyda phrotocolau rheoli lloi da.
Dywed Bedwyr fod yn rhaid ystyried popeth o siediau a deunydd gorwedd i gymeriant colostrwm a dwysedd stocio.
Mae'n argymell cynnal lloi mewn cyfleusterau pwrpasol a chael y cydbwysedd cywir rhwng awyr iach yn dod i mewn i'r adeilad ond heb ddrafftiau ar uchder y lloi.
Mae'n cynghori dilyn canllawiau’r Tractor Coch ar ddwysedd stocio er mwyn osgoi gorlenwi.
Mae ansawdd colostrwm a meintiau cymeriant yn chwarae rhan hanfodol wrth roi’r gwrthgyrff sydd eu hangen ar loi ar gyfer atal clefydau.
Gall ffermwyr ddefnyddio reffractomedr i asesu ansawdd, ac i ganfod a yw trosglwyddiad goddefol imiwnedd wedi'i gyflawni, i ofyn i'w milfeddyg brofi gwaed nifer cynrychioliadol o loi.
Dylai deunydd gorwedd fod yn lân ac yn sych, "heb slwtsian pan fydd rhywun yn cerdded arno", meddai Bedwyr.
Er na fydd gan bob fferm y cyfleusterau i ynysu lloi sy'n dangos arwyddion clinigol, mae'n argymell hynny’n gryf os oes modd.
ASTUDIAETH ACHOS
Mae'r cyfuniad o loia yn y gwanwyn a sied fagu wedi'i awyru'n dda yn golygu bod achosion o niwmonia mewn lloi yn brin iawn ar Moor Farm, ger Treffynnon, ond gyda chyfradd gyfnewid uchel, mae angen i'r teulu Davies fod yn hyderus bod pob heffer sy'n dod i mewn i'w buches yn gallu cyflawni ei photensial cynnyrch llaeth.
Datgelodd sganio ysgyfaint un llo yn unig gyda sgôr annormal yn yr heffrod a anwyd yn 2024 o’r fuches Holstein Friesian bedigri.
Nid oedd y sgôr yn uchel, ac nid oedd y llo wedi dangos unrhyw symptomau clinigol o haint resbiradol.
Mae cynnal bloc lloia tynn o wyth wythnos yn rhoi cyfradd gyfnewid y fuches ar 33%, felly mae sylw i fanylion yn flaenoriaeth wrth fagu lloi.
Mae lloi newydd-anedig yn treulio eu diwrnodau cyntaf mewn corlannau bach o ddau cyn symud i grŵp o 10, a gaiff eu magu ar laeth cyflawn nes iddynt gael eu diddyfnu yn wyth wythnos oed.
Mae'r sied fagu yn cael digon o awyr gyda chrib agored, sy’n wahanol iawn i'r ysguboriau traddodiadol lle'r oedd lloi wedi cael eu cadw dan do o'r blaen, meddai Rhys Davies, sy'n ffermio gyda'i rieni, Dei a Heulwen.
"Cawson ni fwy o achosion o niwmonia pan oedden ni'n magu yn yr ysguboriau hynny," meddai.
Mae heffrod yn cael eu pwyso'n rheolaidd i'w cadw ar y targed ar gyfer paru yn 15 mis oed rhwng 350-380kg, gan ddibynnu ar eu geneteg.
Dechreuodd y lloia ganol mis Chwefror ond mae hynny bellach wedi symud i 20 Mawrth.
Mae'r tir yn Moor Farm yn eithaf trwm, ac yn sgil sawl mis Chwefror gwlyb, yn ogystal â chosbau prisiau tymhorol eu prynwr llaeth, gwthiodd y teulu Davies y cyfnod lloia yn ôl.
Oherwydd bod gan y fferm hanes da o loi nad ydynt yn dal heintiau resbiradol, dywed Rhys na fyddai'n defnyddio sganio ysgyfaint yn rheolaidd, ond ei fod yn gweld bod dadl dda o’i blaid mewn systemau eraill lle mae mwy o bwysau ar loi ar adegau o'r flwyddyn pan fydd y tywydd yn ffafriol i niwmonia.
"Pe bawn i'n lloia yn yr hydref ac nad oedd y siediau’n wych, rwy'n credu y byddai'n werth y buddsoddiad hwnnw i wirio maint unrhyw niwed i'r ysgyfaint cyn i heffrod ymuno â'r fuches," meddai.
Mae Rhys hefyd yn meddwl tybed a allai fod potensial i'w ddefnyddio i weithio allan a oes cydberthynas rhwng y cysylltiad genetig â goroesiad lloi a chanlyniadau uwchsain thorasig annormal.
"Efallai y byddai'n rhoi modd cywirach i ni nodi'r heffrod i fridio ohonynt," mae'n awgrymu.
FFEITHIAU’R FFERM
- Buches bedigri Ffrwd
- 113 o wartheg Holstein Friesian ynghyd â lloi
- Llaeth yn cael ei werthu i Arla
- Cynnyrch llaeth ar gyfartaledd: 7,500 litr gyda 4.59% o fraster a 3.65% o brotein
- 618kg o solidau llaeth y fuwch y flwyddyn