Ffeithiau Fferm Great Tre Rhew
Ffermwyr
- Mae Fferm Great Tre-rhew yn fferm gymysg draddodiadol sy’n gartref i dair cenhedlaeth o deulu Beavan.
- Mae Great Tre-rhew yn cael ei ffermio mewn partneriaeth deuluol gyda Fferm Skirrid.
- Mae’r fferm yn cael ei rhedeg gan y teulu, heb unrhyw lafur ychwanegol
- Mae Jim a Kate yn ffermio ar fferm Great Tre-rhew ac yn rhedeg busnes hyfforddiant Kate’s Country School ar y fferm. Mae’r mab, Sam, wedi gadael yr ysgol yn ddiweddar ac yn dilyn cynllun prentisiaeth amaethyddol, ac mae Celyn, y ferch, yn dal i fod yn yr ysgol. Mae Huw a Jan yn ffermio ar fferm Skirrid gyda’u meibion, Dan a Gareth, ac yn rhedeg busnes Cigydd Teuluol Beavan. Mae Trevor ac Anne (rhieni) yn bartneriaid yn y busnes fferm deuluol.
Tir
- Mae Fferm Great Tre-rhew yn ddaliad 300 erw, gyda 200 erw ychwanegol o dir rhent.
- Gyda’i gilydd, mae daliadau Great Tre-rhew a Fferm Skirrid yn cynnwys 500 erw.
- Mae’r fferm yn rhan o gynllun Glastir Uwch.
Da Byw
Bîff
- Mae’r fuches yn cynnwys gwartheg wedi’u magu â bwced, yn bennaf Friesian croes British Blue; Friesian croes Aberdeen Angus; Gwartheg Duon Cymreig croes a Charolais croes, rhwng 10 a 24 mis oed.
- Mae gwartheg yn cael eu pesgi ar Fferm Skirrid ac yn cael eu gwerthu fel buchod pwrpas deublyg ar gyfer un ai magu neu bîff. Mae gwartheg stôr yn cael eu prynu i mewn a’u pesgi ar y fferm.
Defaid
- Caiff 1,200 o famogiaid magu eu cadw dros y ddwy fferm yn ogystal â 60 o ŵyn benyw.
- Mae’r ddiadell yn cynnwys mamogiaid miwl yn bennaf wedi’u croesi gyda hyrddod Texel, Charolais a Suffolk.
Moch
- Cedwir pedair hwch ar y fferm, yn cynhyrchu porc ar gyfer busnes Cigydd Teuluol Beavan.
Cnydau
- 25 erw o ŷd gwanwyn
- 30 erw o gnydau gwyrdd
- 10 erw o india corn
- Tyfir ŷd ar gyfer bwyd i’r anifeiliaid – wedi’i falu a’i gymysgu ar y fferm.
Garddwriaeth
- Mae’r teulu wedi arallgyfeirio i wneud seidr ac wrthi’n ail-gyflwyno perllannau ar y fferm
- Plannwyd 100 o goed afalau ar y fferm y llynedd.
- Mae un o’r adeiladau hanesyddol ar y fferm yn lle cynhyrchu seidr.
Gwybodaeth ychwanegol
- Mae Kate a Jim Beavan yn rhedeg Kate’s Country School, sy’n cynnig cyrsiau hyfforddi sgiliau gwledig a hwsmonaeth anifeiliaid.
- Mae Huw a Jan Beavan, sy’n byw ar Fferm Skirrid yn rhedeg busnes Cigydd Teuluol Beavan yn Y Fenni. Mae’r ffermydd yn cynhyrchu cig moch, cig oen a chig eidion ar gyfer y siop.