Ffeithiau Fferm Marian Mawr

Ffermwyr

  • Mae Marian Mawr yn cael ei ffermio gan Aled Morris a’i deulu.
  • Mae gan y fferm bump aelod o staff llawn amser a dau’n gweithio rhan amser.

 
Tir

  • Mae Aled yn ffermio 670 erw.
  • Mae tir Marian Mawr yn ymestyn dros 320 erw.
  • Mae fferm 350 erw gyfagos yn cael ei rhentu ar gyfer magu stoc ifanc a chynhyrchu silwair.
  • Mae mwyafrif y tir, yn cynnwys y prif ddaliad, 650 troedfedd uwch lefel y môr, gyda oddeutu 80 erw ar 200 troedfedd uwch lefel y môr.

Da Byw

 

Llaeth

  • Mae’r fuches yn cynnwys 700 o dda byw.
  • Caiff 400 o wartheg Holstein eu godro, sy’n cynhyrchu cyfartaledd o 9,500 litr y fuwch. Gobeithir cynyddu y fuches i 500 yn y dyfodol.
  • Caiff 220-250 o’r cynhyrchwyr uchaf yn cael eu cadw dan do drwy’r flwyddyn, gyda 70-100 o’r cynhyrchwyr isaf yn cael eu cadw allan yn yr haf.
  • Caiff y gwartheg eu bwydo ar ddogn TMR yn seiliedig ar silwair glaswellt ac india corn. Yn y gaeaf caent eu bwydo gyda cnwd cyfan a betys porthiant.
  • Mae 100 o heffrod yn dod i mewn i’r fuches bob blwyddyn fel heffrod cyfnewid. Caiff yr holl heffrod cyfnewid eu magu ar y fferm.
  • Mae’r fferm yn cyflenwi ar gyfer cytundeb Muller Wiseman, ac mae hefyd yn  ymgymryd â chofnodi llaeth, sgorio cyflwr corff a sgorio cloffni.
  • Y gyfradd stocio gyfredol ydi 1.06/erw.

Defaid

  • Mae defaid yn cael eu cadw ar y fferm dros y gaeaf.

Cnydau

  • Glaswellt yw 400 erw o’r fferm, lle mae tua 100 erw yn cael eu defnyddio ar gyfer pori a’r gweddill ar gyfer silwair. Mae tri toriad o silwair yn cael ei wneud, gyda 250 erw yn cael ei wneud yn y toriad cyntaf,ac yna toriad o 200 erw a 100 erw.
  • Tyfir 75 erw o india corn ar y fferm fel porthiant da byw.
  • Tyfir 60 erw o wenith gaeaf a 30 erw o haidd gwanwyn.
  • Mae Aled yn tyfu 25 erw o fetys porthiant ar gyfer y gaeaf.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Mae tyrbin gwynt wedi cael ei godi ar y fferm i gyflenwi ynni adnewyddadwy.
  • Mae Aled yn rhan o grŵp o gynhyrchwyr cydweithredol gyda Muller Wiseman.
  • Manteisia Aled ar bob cyfle i ddysgu trwy ddiwrnodau agored a chyfarfodydd gyda’r nos.