Ffeithiau Fferm Moor Farm

Ffermwyr

  • Mae Fferm Arddangos Moor Farm yn cael ei ffermio gan Andrew Rees, ynghyd â’i rieni, Colin a Jean. Mae Andrew yn briod â Vicky, sy’n asiant tir, ac mae ganddynt ferch o’r enw Florence.

Tir

  • Mae Moor Farm yn ymestyn dros 370 erw.
  • 250 erw yn y bloc cartref – defnyddir 150 erw fel platfform pori ar gyfer buches laeth, ac mae’r 100 erw sy’n weddill yn cael ei ddefnyddio er mwyn pori stoc ifanc.
  • Mae bloc 120 erw oddi ar y fferm yn cael ei ddefnyddio ar gyfer silwair a phori lloeau’n hwyrach yn y tymor, ac mae’r holl dir o fewn milltir i’r prif ddaliad.
  • Mae’r holl dir silwair wedi cael ei ail hadu o fewn y saith mlynedd diwethaf. Mae tir pori’n gymysgedd o borfeydd ifanc a phorfeydd parhaol. Mae 10% o’r tir yn cael ei ail hadu’n flynyddol.

Da Byw

Llaeth

  • Mae’r fuches yn cynnwys 240 o wartheg Friesian Prydeinig a’u lloeau.
  • Mae cyfartaledd cynhyrchiad y fuwch yn 6,400 litr 4% braster menyn 3.4% protein 1.1 tunnell o ddwysfwyd. Mae Andrew yn targedu 500kg soledau llaeth o 1 tunnell crynodedig.
  • Mae’r fuches yn lloea mewn bloc yn y gwanwyn ar system bori estynedig yn seiliedig ar system a ddefnyddir yn Seland Newydd.
  • Mae prosiectau adeiladu diweddar yn cynnwys siediau gwartheg a man ymgynnull newydd, sy’n estyniad o brosiect parlwr godro blaenorol.
  • Mae’r holl stoc yn cael eu magu trwy AI. Mae Andrew wedi dechrau magu teirw i’w gwerthu gyda pheth diddordeb gan ambell fridfa AI.
  • Mae’r llaeth yn cael ei werthu i Meadow Foods.
  • Mae’r holl leoau tarw Friesian yn cael eu magu fel bustych a’u gwerthu fel anifeiliaid stôr yn 18-20 mis.

Cnydau

  • Fferm laswellt yn unig, mae gwyndonnydd yn cynnwys meillion, ond mae’n bosib mai glaswellt yn unig fydd yn y gwyndonnydd wedi’r ail-hadu yn y dyfodol, er mwyn hwyluso rheolaeth chwyn yn ogystal â thyfiant yn gynnar yn y tymor a gorchudd tir.
  • Mae’r glaswellt ar blatfform pori’r buchod llaeth yn cael ei fesur yn wythnosol. Mae ffigyrau wedi bod yn 14.7t DM/Ha ar gyfartaledd dros y pedair blynedd diwethaf (16.4t DM/Ha y llynedd), gan ddefnyddio oddeutu 300kg nitrogen i bob hectar.
  • Anelu i hadu amrywiaethau glaswellt diploid sy’n aeddfedu’n hwyrach ar gyfer pori.
  • Ystyried drilio uniongyrchol ar gyfer ail-hadu yn y dyfodol.

Gwybodaeth ychwanegol

  • Mae Andrew yn aelod gweithgar o grŵp trafod Grazing Dragons.
  • Graddiodd o Goleg Prifysgol Harper Adams yn 2009 gyda gradd BSc(Anrh) mewn Amaethyddiaeth.
  • Mae Andrew yn gyn aelod o CFFI Tiers Cross ac mae wedi cystadlu’n llwyddiannus ym maes siarad cyhoeddus, barnu stoc, datblygu busnes fferm a thynnu rhaff.