Ffeithiau Fferm Newton

Ffermwyr

  • Mae Fferm Arddangos Newton Farm yn cael ei ffermio gan Richard a Helen Roderick. Mae ganddynt dri o feibion, Andy, 19, sydd yn astudio economeg ym Mhrifysgol Nottingham; Tudor, 18, sydd yn astudio amaethyddiaeth yng Ngholeg Hartpury College; a Matthew, 16, sydd yn yr ysgol.
  • Ymunodd Richard â’r busnes teuluol yn 1984 ar ôl gadael Coleg Amaethyddol Cymru, Aberystwyth, pan ehangwyd y fferm i 220 erw.
  • Mae Helen yn gyfrifydd rheolaeth cymwysedig ac yn gweithio’n rhan amser i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
  • Mae Jason Grooby yn gweithio gyda ni ar y fferm yn ogystal â ffermio yn Llanymddyfri.

Tir

  • Mae Newton Farm yn ymestyn dros 650 erw, gyda 450 erw yn berchen iddynt a 200 erw yn cael ei rentu, o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
  • Mae’r fferm yn cynnwys 80 erw o goetir a thir prysg.
  • Mae’r fferm yn rhan o Glastir Uwch ers 2015.

Da Byw

 

Bîff

  • Mae’r fuches yn cynnwys 80 o fuchod sugno.
  • Yn 2012, cafodd buchod Stabiliser eu cyflwyno i’r fuches. Ar hyn o bryd, mae 41 o fuchod magu ar y fferm a dau darw Stabiliser. Mae AI wedi cael ei ddefnyddio hefyd er mwyn gwella geneteg.
  • Mae’r epilion yn cael eu gwerthu ym Marchnad Aberhonddu fel gwartheg stôr.

Defaid

  • Cedwir 1,050 o famogiaid, gyda 260 o ŵyn benyw lle cafodd 100 ohonynt eu troi at yr hwrdd hydref diwethaf.
  • Suffolk croes Miwl yw mwyafrif y ddiadell gyda 100 o ŵyn benyw Aberfield croes.
  • Defnyddir cymysgedd o eneteg Innovis, gan gynnwys Abermax ac Aberfield, a rhai hyrddod Charollais.
  • Ar ddechrau mis Medi, defnyddir hyrddod paratoadol, cyn i’r hyrddod gael eu troi yn ystod wythnos olaf y mis. Caiff mamogiaid eu sganio yn nechrau Rhagfyr, ac yna eu cadw dan doa’u cneifio cyn y Nadolig.
  • Canran sganio’r brif ddiadell yn 2016 oedd 192% a’r hesbiniod / ŵyn benyw yn 175%.
  • Ar ôl dod ar defaid i mewn, mae’r defaid yn bwydo eu hunain ar silwair clamp mewn dau ran, gyda bariau bwydo ar draws y pedwar arwyneb sy’n cael eu symud 10cm bob dydd. 
  • Dim ond silwair sy’n cael ei roi i famogiaid sy’n cario oen unigol, ond bwydir dwysfwyd i famogiaid sy’n cario tri bedair wythnos cyn ŵyna ac i famogiaid sy’n cario efeilliaid bythefnos cynt. 
  • Mae 90% o’r mamogiaid yn ŵyna rhwng Chwefror 18fed a Mawrth y 5ed.
  • Erbyn diwedd Mehefin, mae 800 o ŵyn yn cael eu gwerthu ar bwysau cyfartalog o 19.5kg.

Cnydau

  • Tyfir 55 erw o gnydau grawn ar y fferm.
  • Mae 250 erw o laswelltir wedi cael ei adnewyddu gyda meillion a glaswellt, gan arwain at well porfa, er mwyn gorffen ŵyn oddi ar laswellt yn gynt.
  • Caiff meillion coch ei gynnwys yng nghynhyrchiant silwair fel ffynhonnell o brotin o ansawdd uchel a dyfir gartref er mwyn lleihau costau gorffen ŵyn ar ôl diddyfnu.
  • Cafodd cnwd gorchudd bywyd gwyllt ei blannu llynedd ac wedi cael ei ddefnyddio gan Grŵp Modrwyo Adar Llangorse i fonitro mathau a niferoedd adar. 
  • Yn 2013, cafodd llyriad, cymysgedd llysieuol a phorfeydd glaswellt arferol eu tyfu ar y fferm fel rhan o brosiect Cronfa Arloesedd Ffermwyr Cyswllt Ffermio i orffen ŵyn. Mae perfformiad a hirhoedledd y cnydau yn parhau i gael eu monitro.

Gwybodaeth ychwanegol

  • Mae bwthyn gwyliau hunan-ddarpar yn rhan o’r busnes.
  • Caiff plant ysgolion cynradd eu croesawu i’r fferm yn flynyddol.
  • Mae cynlluniau amgylcheddol wedi gwarchod caeau gwair gweirgloddiau a darparu lleoliadau nythu i gornchwiglod.
  • Mae 15km o wrychoedd wedi eu creu a’u hadfer, ac felly’n darparu coridorau ar gyfer bywyd gwyllt.
  • Gweithiwyd gyda Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Vincent Vincent Wildlife Trust i adfer gwrychoedd oedd yn rhan o lwybrau hedfan yr ystlum pedol leiaf.
  • Ar hyn o bryd maent yn gweithio gyda CADW ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i adfer safle bryngaer o’r Oes Haearn ar y fferm. Mae deg o wartheg Highland wedi eu prynu fel porwyr cadwriaethol.