Pen y Bont, Croesoswallt

Prosiect Safle Ffocws: Gweithredu Cynllun Rheoli Mastitis ar y fferm

Nodau'r prosiect:

  • Trwy ddilyn cynllun rheoli mastitis AHDB dros y tair blynedd ddiwethaf, mae achosion o fastisis clinigol ar fferm Nant Goch wedi gostwng o 50% ac mae’r Cyfrifiad Celloedd Somatig wedi gostwng yn sylweddol hefyd. Bydd y prosiect yn parhau i weithredu a monitro’r cynllun rheoli mastitis am flwyddyn arall a bydd yn dangos y manteision o ran costau wrth newid y dulliau rheoli.
  • Y targed yw gostwng achosion clinigol o fastitis o 50% i 30%.
  • Yr amcan yw parhau i ostwng defnydd o wrthfiotigau i reoli mastitis yn y fuches a defnyddio agwedd ddetholus tuag at therapi gwrthfiotig i wartheg sych.
  • Amcanion strategol allweddol: Gwella cynhyrchiant a rheoli costau; atgyfnerthu’r busnes; gwella cynhyrchiant hyd oes yr anifeiliaid; cynyddu’r defnydd a wneir o TGCh i wneud y busnes yn fwy effeithlon.

Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Wern
Osian Williams Wern, Y Foel, Y Trallwng, Powys Meysydd allweddol
Mountjoy
William Hannah Mountjoy, Trefgarn, Sir Benfro, Meysydd allweddol
Great Tre-rhew Farm
Jim a Kate Beavan Fferm Great Tre-rhew, Llanvetherine, Y Fenni