Nebo, Llanrwst, Conwy

Digwyddiad Safle Ffocws: Rheolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol

 

Mae angen rhoi sylw a ffocws i’n hadnoddau naturiol, yn enwedig ein hafonydd a’n cyrsiau dŵr, er mwyn sicrhau ein bod ni’n rhagweithiol ac yn gweithio gyda’n gilydd i sicrhau rheolaeth gynaliadwy gan y byddai’n gymorth i ni gyda heriau fel llifogydd a llygru yn y dyfodol.

 

Rheolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol

Mae’r cyfarfod addysgiadol hwn am reolaeth gynaliadwy o’n hadnoddau naturiol yn mynd i’r afael â’r canlynol:

  • Mynediad i’r afon heb gyfyngiad ar gyfer da byw sy’n arwain at bridd wedi’i gywasgu a’i sathru sy’n golygu erydiad y glannau a dyddodion gwaddodol.
  • Bydd colled mewn cyfalaf, cadwraeth a gwerth cynefinoedd bioamrywiol yr afon a’r tir o ganlyniad i’r erydiad.
  • Ansawdd y dŵr - Llygredd gwasgaredig ac enghreifftiau o lygru trwy wastraff anifeiliaid, gwrtaith a phlaleiddiaid.
  • Goblygiadau posib ar gyfer rheoli da byw o ran materion lles e.e. cloffni, anafiadau a chlefydau a gludir gan ddŵr wrth ddelio gyda’r pwyntiau uchod.

Ymyrraeth sy’n dangos gwelliannau i lan yr afon gan gynnwys plannu coed o wahanol oedrannau er mwyn sefydlogi’r lan yn ogystal â sut atalwyd llygredd ac erydiad drwy ffensio tir yr afon er mwyn cadw stoc allan.

 

Negeseuon Allweddol

Bydd mynediad i’r afon heb gyfyngiad ar gyfer da byw yn arwain at bridd wedi’i gywasgu a’i sathru a fydd yn arwain at erydiad y glannau a dyddodion gwaddodol i’r cyrsiau dŵr.  Bydd ansawdd y dŵr yn cael ei effeithio gan erydiad, tra bod y llygredd sy’n cael ei achosi gan ysgarthion anifeiliaid a gwrtaith a phlaladdwyr mewn dŵr ffo, hefyd yn cyfrannu at ansawdd gwael y dŵr drwy gynyddu lefelau nitrad. Mae ffensio ardaloedd rhwng y tir a’r afon gan amrywio o ran lled er mwyn cadw stoc allan yn un ffordd o wella ansawdd y dŵr o erydiad a llygredd da byw. Bydd hyn, nid yn unig yn atal stoc rhag cael mynediad at y glannau a’r cyrsiau dŵr ond hefyd yn helpu creu bioamrywiaeth ar lannau’r afon.

Bydd colled mewn cyfalaf, cadwraeth a gwerth cynefinoedd bioamrywiol yr afon a’r tir yn lleihau o ganlyniad i’r erydiad sy’n cael ei achosi gan dda byw ar hyd y cwrs dŵr.  Gellid dadwneud hyn trwy reoli coed aeddfed ar hyd glan yr afon a phlannu coed newydd a llwyni buddiol er mwyn cael amrywiaeth mewn oed a strwythur. Bydd strwythur amrywiol y gwreiddiau yn helpu sefydlogi’r glannau ac yn lleihau erydiad a dŵr ffo gan greu cyfleoedd ar gyfer cadwraeth a bioamrywiaeth ar yr un pryd.

Os yw’r technegau rheoli cynaliadwy hyn yn cael eu rhoi ar waith, bydd y ffermwr yn gweld gwelliant yn ansawdd y dŵr a lles ei anifeiliaid.  Bydd lleihad yn y cloffni oherwydd cerrig yr afon, anafiadau a chlefydau a gludir gan ddŵr.

Trwy roi’r mesurau hyn ar waith i fyny’r afon, gallai perygl ac atal llifogydd fod o fudd i gymunedau i lawr yr afon.

Mae Llywodraeth Cymru yn anelu at leihau allyriadau carbon o 80% o fewn amaethyddiaeth erbyn 2050 sy’n golygu y bydd plannu coed yn uchel ar yr agenda a bydd yn fuddiol i gyrsiau dŵr Cymru.

Gwelwyd nod gyffredinol rhwng ffermwyr a grwpiau lleol yn y drafodaeth, a rhoddodd hyn blatfform iddynt ar gyfer cydweithio gan wneud penderfyniadau clir a thryloyw. 

 

Prif neges

Mae angen i ffermwyr feddwl am sut mae eu hanifeiliaid yn effeithio ar ansawdd y dŵr a bywydau’r rheiny i lawr yr afon. Bydd modd rhannu gwybodaeth a mentrau yn ogystal â gwarchod yr afon ar gyfer y dyfodol drwy weithio gyda grwpiau lleol i ffensio a phlannu coed.

Diolch i’n siaradwr gwadd, Tim Pagella, a Geraint Jones o Cyswllt Ffermio.


Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Cefnllan
Neil Davies Cefnllan, Llangamarch, Powys Meysydd allweddol yr
Pendre
Tom a Beth Evans Pendre, Llanfihangel-y-Creuddyn, Aberystwyth
Moor Farm
Andrew Rees Moor Farm, Castell Gwalchmai, Hwlffordd Prif Amcanion