Llantwyd, Aberteifi, Sir Benfro

Prosiect Safle Ffocws: Diogelu uned gynhyrchu bîff - Croesawu technoleg i gynyddu llwyddiant wrth gyflawni gofynion targed

Nodau’r prosiect:

  • Bydd y prosiect hwn yn talu sylw at egwyddorion ‘Mesur i Reoli’ i alluogi’r ffermwr i wneud penderfyniadau’n seiliedig ar gynnydd pwysau byw dyddiol (DLWG) y gwartheg ac i ystyried pa ymyriadau sy’n angenrheidiol er mwyn gwella effeithlonrwydd ar yr uned, gan leihau dyddiau hyd lladd.
  • Mae Geraint Evans eisiau gwella effeithlonrwydd pesgi gwartheg ar fferm Penrallt.  Bydd mewnbwn gan filfeddyg a maethegydd y fferm yn nodi lle mae’n bosibl gwneud gwelliannau i iechyd a maeth y fuches.
  • Bydd darparwyr technoleg yn ceisio gwella dulliau casglu a dehongli data er mwyn cynorthwyo gyda monitro’r fuches. 
  • Y nod yn y pen draw i Geraint yw gallu gwneud penderfyniadau ffeithiol ar gyfer y fenter yn seiliedig ar ddealltwriaeth o bwysau a chostau ei wartheg.  Bydd hyn yn ei dro yn ei alluogi i leihau faint o amser sydd ei angen i besgi’r gwartheg, gan gyrraedd gofynion delfrydol y proseswr ar yr un pryd.

Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Halghton Hall
David Lewis Halghton Hall, Bangor Is-coed, Wrecsam Meysydd
Nantglas
Iwan Francis Nantglas, Talog, Sir Gaerfyrddin Meysydd allweddol
Cae Haidd Ucha
Paul a Dwynwen Williams Cae Haidd Ucha, Nebo, Llanrwst Prif