Bala, Gwynedd

Prosiect(au) Safle Ffocws: Rheoli Darbodus yn y Busnes Llaeth a Prosiect Porfa Cymru

 

Rheoli Darbodus yn y Busnes Llaeth

Nodau'r prosiect: 

  • Mae Rheoli Darbodus yn fodel rheolaeth a luniwyd i gefnogi ac i gynorthwyo gyda gwelliant parhaus yn y busnes. Fe ddefnyddiwyd y model yn y lle cyntaf mewn busnesau cydweithredol a ffatrïoedd mawr a'i brif bwrpas oedd gwaredu ac i atal creu gwastraff, gan arwain at fwy o gynaliadwyedd a chynnydd mewn proffidioldeb.
  • Bydd y prosiect yn addasu Rheolaeth Ddarbodus i weithio o fewn busnes ffermio llaeth i gynyddi allbynnau trwy leihau mewnbynnau.
  • Mae’r prosiect yn anelu at amlygu manteision Rheolaeth Ddarbodus, megis cynyddu effeithlonrwydd ar fferm a gwella elw net; cyrraedd lefelau uwch o ran perfformiad gweithredol; deall cysylltiadau o fewn gwahanol brosesau ar fferm a'u heffeithiau cysylltiedig; a rhagweld digwyddiadau a rheoli  ergydion i'r system.
  • Bydd hefyd yn cynorthwyo o ran datblygu rheolaeth busnes a phroffesiynoldeb ar gyfer y tîm ffermio, a chynorthwyo ffermwyr i nodi ac i reoli nodau a thargedau'r busnes.

Prosiect Porfa Cymru

Nodau’r prosiect:

Rydym wedi dewis ffermydd traws-sector ar draws Cymru fydd yn mesur a monitro cyfraddau twf eu glaswellt yn wythnosol fel rhan o Brosiect Porfa Cymru newydd Cyswllt Ffermio.

Bydd pob fferm yn defnyddio mesurydd plât i gasglu mesuriadau a byddant hefyd yn casglu samplau misol er mwyn dadansoddi ansawdd.

Bydd y ffermydd i gyd yn mesur tyfiant a chyfaint y Deunydd Sych (DM) sydd ar gael. Rydym wedi gofyn i bob un adnabod a chymharu gwahanol ddulliau o reoli glaswellt – ond mae’r nod yn gyffredin, sef i ganfod y system fydd yn gweddu orau i ofynion cyflenwad a galw da byw. Bydd pob fferm hefyd yn mynd i’r afael â’r defnydd a wneir o ddwysfwyd o ansawdd uchel.

Bydd y prosiect hwn yn eich galluogi i gael yr wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â chynnydd o bob safle trwy glicio ar fap a data Prosiect Porfa Cymru.


Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Fferm Carreg Plas
Fferm Carreg Plas, Aberdaron, Pwllheli, Gwynedd Prosiect Safle
Genau Hafod
Genauhafod, Dolfor, Y Drenewydd, Powys Prosiect Safle Ffocws
Hendy
Hendy, Hundred House, Llandrindod Prosiect Safle Ffocws: Stori