Osian Williams

Wern, Y Foel, Y Trallwng, Powys

 

Meysydd allweddol yr hoffech chi ganolbwyntio arnyn nhw fel ffermwr arddangos?

Adeiladu ar y llwyddiant yr ydym wedi’i gael wrth reoli gwiddon coch mewn dofednod: rydym ni wedi treialu cynnyrch i reoli heintiadau fel rhan o’n gwaith fel Fferm Ffocws Cyswllt Ffermio ac rydym yn gobeithio adeiladu ar y gwaith ymchwil hwn fel rhan o’n gwaith fel Fferm Arddangos

Edrych ar ddulliau eraill o wella ansawdd dŵr yfed fel rhan o’n system ddofednod: nid ydym yn brechu ein dofednod ar ôl iddynt gyrraedd y fferm, felly mae’n hanfodol ein bod ni’n gwneud popeth sy’n bosibl er mwyn sicrhau ein bod yn darparu’r dŵr yfed o’r ansawdd gorau er mwyn diogelu a chefnogi iechyd yr haid

Adnabod meysydd gwelliant eraill i ganolbwyntio arnynt. Trwy weithio gyda Cyswllt Ffermio, mae’n bosibl y byddwn yn canfod meysydd gwelliant posibl ac rydym yn barod i edrych yn fanwl ar y rhain i helpu i wella ein busnes.

Ffeithiau Fferm Wern

 

"Fel ffermwyr, mae'n hawdd iawn i wneud popeth yn yr un ffordd drwy'r amser, nid yw llawer ohonom yn hoff o newid, ond mae newid yn hanfodol yn ein gwaith. Felly mae'n rhaid sicrhau ein bod yn cael mynediad at y wybodaeth ddiweddaraf fel sylfaen i'n penderfyniadau busnes wrth edrych at y dyfodol, boed hynny drwy dreialu cynnyrch newydd a allai ein galluogi i fod yn fwy effeithlon a chynaliadwy, neu addasu ein dulliau cynhyrchu i ddarparu'r hyn sydd ei angen ar y farchnad."

- Osian Williams

 

 

Farming Connect Technical Officer:
Catherine Price
Technical Officer Phone
07792316529
/
Technical Officer Email

Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Moelogan Fawr
Llion a Sian Jones Moelogan Fawr, Llanrwst, Conwy Meysydd
Glanmynys
Carine Kidd a Peredur Owen Glanmynys, LlanymddyfrI Meysydd
Aberbranddu
Irwel Jones Aberbranddu, Cwrt y Cadno, Pumsaint, Llanwrda Prif