27 Ionawr 2023

 

Gallai technegau newydd sy'n lleihau lefelau amonia mewn gwasarn dofednod helpu ffermwyr da byw i gyrraedd targedau amgylcheddol newydd.

Dangosodd treial tair blynedd Cyswllt Ffermio ar Fferm Wern, ger y Trallwng, sut roedd cyflwyno bacteria di-heintus i siediau wedi sychu gwasarn, wedi’i wneud yn haws i’w storio a’i wasgaru a lleihau’r lefelau amonia ac arogleuon yn sylweddol.

Cyn y treial, bu'n rhaid i'r ffermwr Osian Williams dynnu tail o'r beltiau bron ddwywaith yr wythnos; pe na bai’n gwneud hyn, gallai amonia gyrraedd lefelau niweidiol ac ni allai'r beltiau ymdopi â phwysau'r gwasarn gwlyb trwm.

Roedd y treial yn cynnwys chwistrellu dwy sied sy’n cadw 16,000 o ieir yr un gyda sefydlogydd a gynhyrchwyd gan Pruex; mae'r cynnyrch hwn yn cynnwys bacteria nad yw'n heintus a'i nod yw dominyddu'r bacteria niweidiol yn y sied.

Roedd yn sychu’r gwasarn i’r fath raddau fel y gellid ymestyn amlder carthu tail i bob 10-14 diwrnod, gan arwain at arbedion sylweddol ar gostau llafur a pheiriannau, dywedwyd wrth ffermwyr yn ystod gweminar Cyswllt Ffermio yn ddiweddar pan gyhoeddwyd canlyniadau diwedd yr astudiaeth.

Dywedodd Uwch Gynghorydd Polisi Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) Jeremy Walters, a oedd yn un o’r siaradwyr, gyda phwysau ar y sector dofednod i leihau allyriadau, bod technolegau newydd fel system Pruex yn debygol o chwarae rhan bwysig.

Disgrifiodd ganlyniadau'r prosiect fel rhai “calonogol iawn” a chredai y byddai datblygiadau arloesol o'r fath yn helpu i leihau amonia a thrin tail a slyri yn y dyfodol.

Y cam nesaf yw meintioli canlyniadau'r astudiaeth hon, meddai Mr Walters, er mwyn sicrhau eu bod yn gallu gwrthsefyll craffu trylwyr.

Mae allyriadau amonia wedi bod yn cynyddu’n gyson yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf – mae mwy na hanner y wlad yn profi crynodiadau sy’n rhy uchel ar gyfer rhai cynefinoedd sensitif.

“Mae technegau newydd i leihau allyriadau amonia yn dod i'r amlwg ac yn cael eu croesawu gan CNC,'' meddai Mr Walters.

“Byddwn yn ymdrechu i sefydlu'r ffactor allyriadau priodol neu'r gostyngiad canrannol sy'n gysylltiedig â phob techneg i'w defnyddio wrth fodelu effaith datblygiadau.''

Mae’r dystiolaeth y byddai CNC ei hangen er mwyn iddo ystyried y gostyngiad mewn amonia drwy ddefnyddio technegau newydd yn cynnwys gweithrediad rheoli sy’n cydredeg o fewn yr un paramedrau a defnyddio methodoleg fesur briodol wedi’i hategu gan adolygiad gan gymheiriaid. Byddai angen i'r data mesur allyriadau hwnnw gael ei gofnodi'n gywir a bod modd ei olrhain.

Ar Fferm Wern, roedd effeithiolrwydd y system yn amlwg pan gafodd y siediau eu carthu.

Dywedodd Mr Williams yn flaenorol, ar ôl carthu, y gallai tomen 10-12 troedfedd o uchder ostwng o ddau draean erbyn y diwrnod canlynol oherwydd bod lefelau lleithder wedi eu gorfodi i wasgaru dros ardal fwy.

“Nawr, efallai mai dim ond un neu ddwy droedfedd y daw i lawr, os hynny,” dywedodd Mr Williams.

Mae swm y tail sydd angen ei drin yn lleihau'n sylweddol ac mae ei werth maethol yn ei wneud yn gyflyrydd pridd gwerthfawr, dywedwyd yn ystod y weminar.

Mantais fawr arall yw nad oes gan y gwasarn sydd wedi’i drin fawr o arogl, os o gwbl, meddai cyfarwyddwr Pruex, Aled Davies.

“Mae'r holl broses o sychu pethau i allu cadw am fwy o amser a llai o bydru yn rhywbeth y gwyddom amdano ers sawl blwyddyn,” meddai.

Roedd yn debyg i'r gofyniad i wair fod yn sych cyn ei storio i atal difetha a defnyddio halen i gadw cig moch.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn
Gwaith samplo Cyswllt Ffermio yn amlygu cyfleoedd i wella iechyd pridd ar ffermydd Cymru
11 Rhagfyr 2024 Mae adroddiad gan Cyswllt Ffermio ar briddoedd
Sut mae anwybyddu clefydau heintus yn gallu arwain at broblemau sylweddol mewn diadelloedd yng Nghymru
29 Tachwedd 2024 Mae ffermwyr defaid yng Nghymru yn cael eu