30 Medi 2021

 

Mae arbrawf ar fferm wyau maes ym Mhowys wedi dangos y gallai ychwanegu bacteria di-heintus i amgylchedd siediau dofednod er mwyn sychu sarn a lleihau lefelau amonia helpu ffermydd i fodloni sialensiau'r rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) newydd.

Mae’r teulu Williams, sy'n ffermio yn Wern, safle arddangos Cyswllt Ffermio yn Y Foel, ger Y Trallwng, wedi bod yn treialu dull newydd er mwyn sicrhau’r amgylchedd gorau yn eu dwy sied aml-haen sy'n cynnwys 16,000 o ieir.

Mae hyn wedi golygu na fu angen glanhau baw o'r beltiau tail mor aml, sef unwaith bob pythefnos yn lle unwaith bob tri diwrnod, ac mae ieir yn delio gyda sialensiau gwiddon coch mewn ffordd naturiol trwy gynnal lefelau iechyd da.

Mae'r gyfradd marwolaethau wedi gostwng, i 2.7 y cant o'r 3.7 y cant a gofnodwyd yn ystod wythnos 59 yn y cylch blaenorol, ac ni fu gofyn defnyddio gwrthfiotigau.

Yn ystod diwrnod agored Cyswllt Ffermio a gynhaliwyd ar y fferm yn ddiweddar, dywedodd Aled Davies o Pruex mai amcan y treial fu pennu pa amrywiadau oedd yn sicrhau’r amgylchedd gorau yn y siediau.

“Rydym wedi dysgu am berygl ardaloedd gwlyb yn yr adeilad gan bod y rhain yn achosi lleithder, ac mae hyn yn ffactor arwyddocaol ar gyfer cynhyrchu amonia gan sarn ieir,” dywedodd Mr Davies.

Cynhyrchir amonia wrth i facteria mewn sarn ieir droi asid wrig yn amonia.

Trwy gyflwyno bacteria di-heintus sy'n debyg i bridd, ar ffurf sefydlogydd Pruex, i'r sied, cynhyrchir anwedd dŵr a bydd y sarn yn sychu.

Yn Wern, mae'r effaith hon yn amlwg wrth weld gostyngiad sylweddol yn swm y baw ar feltiau tail.

“Gallwn ddal baw ieir ar y beltiau am bythefnos yn hytrach na thri diwrnod,” dywedodd Osian Williams, sy'n ffermio gyda'i rieni, Dafydd ac Eleri, a'i bartner, Nikki.

Cyn y treial, roedd 70% o'r baw yn lleithder ac roedd pwysau hwn ar y belt tail yn golygu bod angen ei glirio yn fwy aml.

Yn ystod y prosiect, mae Pruex wedi llwyddo i leihau'r lleithder yn y baw ar y beltiau gymaint â dros 50% o'r lefelau gwreiddiol, dywedodd Mr Williams.

“Pe byddem yn ei adael fwy na thri diwrnod, byddai'r lefelau amonia yn uchel iawn, ond gan ei fod yn rhyddhau anwedd dŵr nawr, gall fod yno am bythefnos.”

Lleihawyd y gofyniad llafur ar gyfer y dasg hon gymaint â dros dri chwarter ac mae'r lefelau amonia yn isel.

Gan bod y sarn yn llawer sychach nawr, ac nid yw'r gofyniad i'w storio mor fawr, dywedodd Mr Davies y gall helpu ffermwyr i gydymffurfio â'r rheoliadau newydd.

“Mae cryn dipyn o'r sialensiau y mae ffermwyr yn pryderu amdanynt mewn perthynas â'r rheoliadau newydd yn cael eu lleihau yma yn Wern,” dywedodd Mr Davies.

Mae'r awyrgylch yn y siediau wedi gwella hefyd – mae lefelau amonia wedi gostwng 75% yn ystod misoedd cynhesach yr haf, o 20 rhan fesul miliwn i 5.

Mae hyn oll yn beth da ar gyfer cynhyrchu wyau, ychwanegodd Mr Davies.  “Sicrheir y gweithgarwch cynhyrchu wyau gorau wrth sicrhau sarn sych, aer glân a dŵr diogel.”

Mae'r prosiect yn Wern yn parhau a bydd Cyswllt Ffermio yn rhannu rhagor o ganlyniadau a chanfyddiadau wrth i'r prosiect fynd rhagddo.  Os bydd drysau bach yn cael eu cadw ar agor yn ystod y gaeaf eleni, bydd hi'n ddiddorol gweld cymhariaeth rhwng y lefelau lleithder yn y sied eleni o'i gymharu gyda'r lefelau yn y sied y llynedd.  Am ragor o wybodaeth am y prosiect, cliciwch yma.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint
Fferm laeth yr ucheldir yn treialu cymysgedd hadau gwndwn llysieuol sydd wedi'u sefydlu gyda hau yn uniongyrchol
16 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yr ucheldir yng Nghymru yn ceisio