17 Awst 2020

 

Gall cynhyrchwyr wyau maes dderbyn cyngor ar leihau’r canran o wyau o ansawdd eilradd sy’n cael eu dodwy gan eu heidiau yn ystod darllediad byw oddi ar fferm ddofednod y mis hwn.

Mae fferm Y Wern, safle arddangos Cyswllt Ffermio yn Y Foel, ger Y Trallwng, yn mabwysiadu dulliau cynhyrchu a fydd yn ei helpu i fodloni gofynion y farchnad wyau.

Mae hyn yn cynnwys mesurau i leihau'r wyau o ansawdd eilradd a gynhyrchir gan ei haid o 32,000 o ieir Bovan Brown, a fydd hefyd yn gwella proffidioldeb.

Yn ystod digwyddiad Cyswllt Ffermio yn fyw o’r fferm arddangos ym mis Awst, bydd y ffermwr Osian Williams yn rhoi trosolwg o'r prosiect newydd ar y cyd â Cyswllt Ffermio i fynd i'r afael â'r mater hwn.

Bydd y darllediad byw o'i fferm yn cael ei gynnal ar 19 Awst am 7.30 pm.

Yn ogystal â gwella ansawdd wyau, mae Mr Williams yn ymchwilio i ffyrdd o wella ansawdd dŵr yfed yn ei system ddofednod.

"Nid ydym yn brechu ein dofednod ar ôl iddyn nhw gyrraedd y fferm ac felly mae'n hanfodol ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddarparu dŵr yfed o'r ansawdd gorau i amddiffyn a diogelu iechyd y ddiadell,” meddai.

Bydd ystod o arbenigwyr yn y meysydd hyn hefyd yn ymuno â’r drafodaeth o bell.

Ceir cyngor hefyd ynglŷn â sut y gellid addasu amgylchedd yr ieir gan ddefnyddio technoleg i wella iechyd a chynhyrchiant.

"Yn ogystal â thrafod y prosiectau, bydd ein harbenigwyr yn cynnig cyngor ac argymhellion cyffredinol, gyda'r nod o helpu ffermwyr i wella eu busnesau," meddai Catherine Price, swyddog technegol dofednod Cyswllt Ffermio.

I gofrestru ar gyfer y digwyddiad anfonwch e-bost at Catherine: cath.price@menterabusnes.co.uk neu cliciwch yma.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllidodrwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru -Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Beth am roi hwb i Berfformiad eich Fferm: Ymgeisiwch nawr am Ddosbarth Meistr Cyswllt Ffermio
13 Mawrth 2025 Mae Cyswllt Ffermio yn cynnig cyfres o
Academi Amaeth yn edrych am Arweinydd Busnes ac Arloesedd ysbrydoledig
12 Mawrth 2023 A ydych yn angerddol am ddyfodol y sectorau
Ffermwr llaeth o Sir Benfro, Stephen James, yn annog y diwydiant i achub ar gyfleoedd ar gyfer DPP
10 Mawrth 2025 Mae datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) yn