Ffeithiau Fferm Wern

Mae Fferm Arddangos Wern yn ddaliad cymysg 486 hectar (ha) sy’n cael ei ffermio gan Osian Williams a’i rieni, Dafydd ac Eleri, a’i bartner, Nikki

Osian yw’r bedwaredd genhedlaeth o’r teulu Williams i ffermio ar fferm Wen, fferm ucheldir sy’n ymestyn o 700 i 1400 troedfedd

Mae’r fferm yn arbenigo mewn bîff, ŵyn ac ieir maes

Sefydlwyd y fenter ddofednod yn 2011. Mae’r uned yn cadw 32,000 o ieir Bovan Brown ar system offer aml-haen. Cyflwynwyd yr wythfed haid i’r system ar y fferm yn ddiweddar, gan gadw’r haid rhwng 74 – 80 wythnos oed.

Mentrau eraill ar y fferm

Mae 1700 o famogiaid Mynydd Cymreig a 500 o famogiaid Miwl croes yn cael eu troi at yr hwrdd i ŵyna ar ddiwedd Mawrth

Mae cyfleusterau i gadw 1000 o famogiaid yn ystod y cyfnod ŵyna; mae ychydig o’r ddiadell yn ŵyna yn yr awyr agored

Defnyddir hyrddod Texel, Aberfield a Thregaron ar gyfer bridio

Mae canran sganio’r mamogiaid Mynydd Cymreig yn 125% ar gyfartaledd a chanran y mamogiaid croes yn 160%

Mae dwy ran o dair o’r fuches o 150 o wartheg sugno yn wartheg Duon Cymreig; mae’r gweddill yn wartheg Hereford croes

Mae’r fuches yn lloea mewn dau floc – yn y gwanwyn ac yn yr hydref

Mae rhai o’r fuches yn cael eu troi at darw Charolais i gynhyrchu lloi i’w pesgi, ac mae geneteg gwartheg Duon Cymreig yn cael eu defnyddio i gynhyrchu anifeiliaid cyfnewid

Mae cytundeb Glastir Uwch wedi bod mewn lle er 2012; mae 10 erw o gnwd cyfan yn cael eu tyfu fel rhan o’r cytundeb hwnnw

Mae dau doriad silwair dros gyfanswm o 250 erw yn cael eu gwneud bob blwyddyn, ar gyfer silwair clamp gan fwyaf, ond cynhyrchir rhai byrnau crwn yn ogystal.

 

Arallgyfeirio

Mae paneli solar ar y fferm yn ogystal â phwmp gwres o’r ddaear, a thyrbin gwynt 225kW sy’n gallu cynhyrchu 600,000kW o ynni bob blwyddyn. Mae’r busnes yn defnyddio 130,000kW o’r ynni hwnnw ac yn gwerthu’r gweddill i’r Grid Cenedlaethol.

 

Dangosyddion Perfformiad Allweddol

Cynyddu nifer yr wyau a gynhyrchir fesul aderyn - roedd y seithfed haid wedi cynhyrchu 342 wy ar gyfartaledd dros 74 wythnos
Cadw nifer y marwolaethau adar yn isel - 2.7% yw’r gyfran farwolaeth bresennol