Rhosgoch, Llanilar, Aberystwyth

Prosiect Safle Ffocws: Gweithredu SCOPS ac ymdrin â Cocci

Nodau’r Prosiect:

  • Mae’r dystiolaeth gynyddol am fethiant anthelmintig yn niwydiant defaid Cymru yn creu pryder mawr (prosiect WAARD yr HCC 2015) ac yn bygwth cynhyrchu ŵyn yn gynaliadwy yng Nghymru.
  • Gall heintiad nematodau yn y perfedd mewn ŵyn achosi gostyngiad yn y bwyd a gymerir, gostyngiad yn effeithlonrwydd treulio a cholli protein o’r perfedd oherwydd difrod i’r meinwe.
  • O ganlyniad, mae heintiad nematodau yn lleihau cyfraddau tyfu mewn ŵyn ifanc gan arwain at gyflwr gwael a marwolaeth weithiau. Ers dros 50 mlynedd, mae defnyddio anthelmintig eang ei gwmpas wedi bod yn elfen hanfodol wrth reoli effaith negyddol nematodau mewn defaid.
  • Ar hyn o bryd mae pum dosbarth anthelmintig ar gael i reoli heintiad nematodau mewn defaid ond mae’r ddau gynnyrch a drwyddedwyd yn fwyaf diweddar, deunydd sy’n deillio o amino-acetonitril a chynnyrch sy’n cyfuno spiroindole/macrocyclig yn feddyginiaethau ar bresgripsiwn yn unig yng Nghymru.
  • Mae angen edrych ar ffyrdd y gall ffermwyr leihau eu dibyniaeth ar driniaethau gan gynnal perfformiad da'r ŵyn
  • Yn y prosiect bydd cyswllt cryf ag egwyddorion SCOPS, gan sicrhau bod gan y fferm strategaeth reoli yn ei lle.
  • Bydd y ffermwr yn cymryd samplau wyau ysgarthol gyda chyfarwyddyd Techion a’i filfeddyg lleol.
  • Mae’r dull samplo yn cynnwys casglu llond sgŵp gwastad o 20 i 25 o ysgarthion mewn grŵp o ddefaid

Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Halghton Hall
David Lewis Halghton Hall, Bangor Is-coed, Wrecsam Meysydd
Nantglas
Iwan Francis Nantglas, Talog, Sir Gaerfyrddin Meysydd allweddol
Cae Haidd Ucha
Paul a Dwynwen Williams Cae Haidd Ucha, Nebo, Llanrwst Prif