Llion a Sian Jones

Moelogan Fawr, Llanrwst, Conwy

 

Meysydd allweddol yr hoffech chi ganolbwyntio arnyn nhw fel ffermwr arddangos?

Cofnodi perfformiad y defaid: cynyddu effeithlonrwydd ein busnes drwy ddefnyddio technoleg i benderfynu pa anifeiliaid sy’n perfformio orau yn ein system ni, a gwneud penderfyniadau ar sail y data hwnnw. 

Gwerthuso’r opsiynau ar gyfer gwahanol systemau bîff: ar hyn o bryd rydym ni’n pesgi ein gwartheg i gyd ond mi hoffen ni werthuso costau systemau eraill ac ystyried a allai unrhyw un o'r rheiny greu gwell enillion yn ariannol.

Ystyried ffyrdd i dynhau’r cyfnodau ŵyna a lloia: ar hyn o bryd mae’r fuches yn lloia dros gyfnod o 12 wythnos ond mi hoffen ni leihau hyn a chwtogi'r cyfnod ŵyna hefyd  

Ystyried gwerth TMR yn y system bîff a defaid: un flaenoriaeth at y dyfodol yw torri’n costau bwyd anifeiliaid drwy leihau faint o borthiant sy’n cael ei brynu; gallai TMR helpu i gyflawni hyn.

Ffeithiau Fferm Moelogan Fawr

 

Sian and Llion Jones with cattle 1

Dim ond 12 mis yn ôl y dechreuon ni ffermio Moelogan a rydym ni’n agored i syniadau o ran y ffordd orau i siapio’r busnes i'w wneud yn gynaliadwy yn y dyfodol. Rydym ni’n edrych ymlaen at weithio gydag arbenigwyr yn ein rôl ni fel Safle Arddangos Cyswllt Ffermio, a chael pâr newydd o lygaid yn bwrw golwg ar y pethau rydym ni’n eu gweld bob dydd, ac i ddysgu o hynny.’’

- Llion a Sian Jones

 

Farming Connect Technical Officer:
Non Williams
Technical Officer Phone
07960 261226
/
Technical Officer Email

Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Fferm Pentre
Hugh Jones Fferm Pentre, Pentrecelyn, Rhuthun, Sir Ddinbych
Glanmynys
Carine Kidd a Peredur Owen Glanmynys, LlanymddyfrI Meysydd
Aberbranddu
Irwel Jones Aberbranddu, Cwrt y Cadno, Pumsaint, Llanwrda Prif