Cyflwyniad Prosiect Moelogan Fawr: Cofnodi’r ddiadell yn fanwl i gynorthwyo wrth ddethol mamogiaid cyfnewid at y dyfodol a gwneud penderfyniadau deallus ynglŷn â bridio

Safle: Moelogan Fawr, Llanrwst, Conwy

Swyddog Technegol: Non Williams

Teitl y Prosiect: Cofnodi’r ddiadell yn fanwl i gynorthwyo wrth ddethol mamogiaid cyfnewid at y dyfodol a gwneud penderfyniadau deallus ynglŷn â bridio

 

Cyflwyniad i'r prosiect:

Mae dethol mamogiaid cyfnewid yn hanfodol er mwyn gwella perfformiad a phroffidioldeb y ddiadell. Mae magu mamogiaid cyfnewid o fewn system gaeedig yn galluogi’r ffermwr i ddatblygu’r ddiadell yn seiliedig ar y mamogiaid sy’n perfformio orau. Yn ogystal â dethol mamogiaid cyfnewid, mae hi’r un mor bwysig i ganfod y mamogiaid hynny sy’n tanberfformio, gyda’r nod o’u gwaredu o’r ddiadell. Mae digonedd o ddata’n ymwneud â’r ddiadell y byddai modd ei gofnodi a’i ddefnyddio er mwyn dethol anifeiliaid cyfnewid.

Fodd bynnag, mae nodi dangosyddion perfformiad allweddol penodol ar gyfer y fferm unigol yn hanfodol er mwyn gwella effeithlonrwydd y ddiadell, o safbwynt llafur yn ogystal ag o safbwynt y busnes. Mae Moelogan Fawr yn ddiadell gaeedig, ac mae mamogiaid cyfnewid yn cael eu dewis a’u cadw ar y fferm.

Mae Llion a Siân ar hyn o bryd yn gwneud defnydd effeithiol o dechnoleg er mwyn cofnodi perfformiad y fuches o wartheg Stabiliser pedigri ac yn gweithio tuag at statws iechyd uchel iawn. Fodd bynnag, maen nhw’n dymuno gwella’r system maen nhw’n ei defnyddio i reoli’r mamogiaid Cymreig, Cheviot a chroes. Gall defnyddio cofnodion ar y fferm helpu i adnabod materion iechyd, lles a chynhyrchiant penodol o fewn y ddiadell, yn ogystal â chynorthwyo i osod targedau a chamau gweithredu penodol i fynd i’r afael â’r materion hyn at y dyfodol.

Mae sefydlu system reoli dda, sy'n cynnwys cofnodi perfformiad yn bwysig iawn i gynorthwyo gyda phenderfyniadau bridio at y dyfodol, a gall hefyd wella elw’r fferm. Bydd hyn yn eu cynorthwyo i ddethol y nodweddion delfrydol o ran mamogiaid a hyrddod er mwyn cyflawni amcanion y fferm o ran bridio - magu anifeiliaid cyfnewid a chynhyrchu ŵyn. Gallai canfyddiadau'r prosiect hwn fod o werth i ffermwyr eraill sy'n gweithio tuag at feincnodi eu diadell eu hunain, a datblygu system reoli effeithiol ar gyfer bridio eu mamogiaid cyfnewid eu hunain. Dylai’r gwaith helpu i ddiffinio’r dangosyddion perfformiad allweddol mwyaf gwerthfawr i’w cofnodi a’u datblygu i wella allbynnau ac effeithlonrwydd at y dyfodol.

 

Amcanion y prosiect:

Prif nod y prosiect fydd canfod y mamogiaid sy’n perfformio orau yn y ddiadell er mwyn adnabod y rhai gorau i’w cadw fel mamogiaid cyfnewid.

Amcanion y prosiect yw:

  • Datblygu dull cyson ac effeithiol o gofnodi data’r ddiadell
  • Defnyddio technoleg i adrodd ar berfformiad mamogiaid ac ŵyn unigol
  • Dewis mamogiaid cyfnewid sy’n perfformio’n dda i’w cadw o fewn y ddiadell

Dangosyddion Perfformiad Allweddol a osodwyd:

Cytunwyd ar y dangosyddion perfformiad allweddol canlynol ar ddechrau’r prosiect. Mae’r dangosyddion perfformiad yma’n seiliedig ar ddata 2019/20 ar gyfer y ddiadell gyfan:

  • Targed o sicrhau <15% o golledion ŵyn rhwng sganio a gwerthu/cadw
  • Iechyd mamogiaid - cadw cofnodion da o achosion/diagnosis a thriniaethau a ddefnyddir i drin cloffni a mastitis ar gyfer pob mamog
  • Magu 130% o ŵyn

Llinell Amser a Cherrig Milltir:

Llinell Amser Blwyddyn 1


Tachwedd 2020

canfod 320 o famogiaid i’w monitro

 

Ionawr 2021

Pwyso a sgorio cyflwr corff y mamogiaid wrth sganio

 

Mawrth/Ebrill 2021

  • Sgorio cyflwr corff mamogiaid sydd wedi’u marcio
  • Cynnal samplau cyfrif wyau ysgarthol ar 10% o’r mamogiaid (cyfran o’r 10% yn cario ŵyn sengl a gefeilliaid) cyn ŵyna
  • Trin os oes angen neu pan fo angen

Mawrth - Gorffennaf 2021

  • Monitro perfformiad mamogiaid ac ŵyn yn ogystal ag unrhyw broblemau iechyd sy’n codi
  • Cadw cofnod electronig o unrhyw driniaethau

Mai/Mehefin 2021

  • Cynnal samplau cyfrif wyau ysgarthol ar yr un 10% o famogiaid a samplwyd ym mis Mawrth/Ebrill tua chwe wythnos cyn ŵyna
  • Casglu samplau cyfrif wyau ysgarthol fel grŵp gan gyfran o’r ŵyn pan maen nhw’n chwe wythnos oed

Gorffennaf 2021

Casglu data’r flwyddyn gyntaf ynghyd i greu adroddiad o’r canfyddiadau

 

Ceir amserlen debyg ar gyfer yr ail flwyddyn gyda phosibilrwydd o ehangu ar y data a gesglir. Mae Moelogan Fawr hefyd yn cymryd rhan yng Nghynllun Hyrddod Mynydd Hybu Cig Cymru (HCC) a phrosiect Iechyd y Ddiadell a’r Fuches Stoc+, felly bydd y data a gesglir ar gyfer y prosiect hwn a chynlluniau HCC yn cyd-fynd â’i gilydd, gan atgyfnerthu’r gronfa o ddata sydd ar gael yn ymwneud ag iechyd a chofnodi’r ddiadell.