6 Mai 2020
Mae buches fagu i bîff yng Nghymru yn anelu at dynhau ei chyfnod lloea i 10 wythnos trwy ddefnyddio technoleg bolws i ddod o hyd i fuchod sy’n gofyn tarw a byrhau’r cyfnod bridio.
Byddai cyfnod lloea tynn yn gwneud y defnydd gorau o laswellt y gwanwyn ac yn gwneud bron bob elfen o reoli’r fuches o wartheg Stabiliser yn haws ar Moelogan Fawr, safle arddangos Cyswllt Ffermio ger Llanrwst, Conwy.
Mae’r ffermwyr Llion a Sian Jones, sydd wedi lloea 130 o fuchod a heffrod y tymor hwn, am leihau’r cyfnod lloea o 12 wythnos i 10 i wneud y fuches mor gynhyrchiol a phroffidiol ag sy’n bosibl.
Er mwyn cyflawni hyn, maen nhw wedi cychwyn ar brosiect ar y cyd â Cyswllt Ffermio lle mae bolysau sy’n canfod pryd y bydd y buchod yn gofyn tarw a gweithgareddau eraill wedi cael eu rhoi trwy’r geg i rwmen 40 o heffrod 12 mis oed.
Hyd at eleni maen nhw wedi bod yn cydamseru heffrod yn barod am AI yn 14 mis i fagu bythefnos cyn y brif fuches.
Roedd mewnblaniadau progesteron yn cael eu defnyddio i reoli’r cylchred oestrws ac roedd yr heffrod yn cael AI fel un grŵp yn ystod wythnos olaf Mehefin, ar nawfed diwrnod y rhaglen; yn 2019 cyrhaeddodd y teulu gyfradd beichiogrwydd AI tro cyntaf o 57%.
Ar ôl y cylch AI cyntaf, trowyd tarw Stabiliser wedi ei fagu gartref at yr heffrod, rhag ofn bod rhai’n gofyn tarw heb ddangos yr arwyddion. Trowyd y tarw oddi wrthynt ar ôl 17 diwrnod gan roi AI i unrhyw heffrod oedd yn gofyn tarw - roedd y gyfradd feichiogrwydd AI yr ail dro yn 34% a’r trydydd yn 6%. Roedd y gyfradd o heffrod gwag yn 3%.
Ar ôl rhoi’r bolws ni fydd angen y rhaglen i baratoi’r heffrod eleni ac mae manteision o ran costau ac amser yn hyn o beth.
“Gallwn ddefnyddio dull mwy naturiol ac ni fydd gennym y costau sy’n gysylltiedig â’r rhaglen baratoi, gall fod yn broses sy’n cymryd llawer o amser,” dywedodd Llion.
Dylai hefyd gael gwared ar yr angen am wiriadau gan y milfeddyg i sicrhau bod y buchod ar eu cylched.
Mae technoleg y bolws yn gweithio trwy fesur tymheredd yn y rwmen a lefel gweithgaredd yr anifail, ac mae’n trosglwyddo’r data yn fyw i orsaf ganolog.
Gall y data gael ei rannu ag eraill, fel milfeddygon a chynghorwyr porthiant. Mae gan y bolws hefyd rybudd pan fydd buwch yn lloea.
Yn ogystal â chanfod buchod sy’n gofyn tarw a statws lloea, bydd y bolws yn rhoi cyfle i Llion a Sian fonitro statws iechyd pob anifail.
Mae hyn eisoes yn werthfawr, dywed Llion. “Rydym wedi cael gwybod bod dwy heffer â thymheredd uchel. Nid oeddem wedi sylwi bod problem ond pan aethon ni i edrych yn fwy gofalus fe allem weld eu bod yn araf a’u clustiau i lawr.
“Argymhellodd y milfeddyg gwrs o wrthfiotig ac roedden nhw’n iawn ar ôl hynny. Heb y bolws ni fyddem ni wedi dod o hyd i’r broblem mor gyflym.”
Mae manteision cyfnod lloea tynnach yn deillio o reolaeth haws ar y buchod a’r lloeau, gan eu bod i gyd ar gyfnod tebyg yn y cylched cynhyrchu, a thrwy symleiddio arferion porthi a hwsmonaeth.
Ar hyn o bryd mae’r holl heffrod yn cael eu cadw fel stoc cyfnewid gan fod y busnes wedi bod yn cynyddu maint y fuches fagu.
Mae’r epil gwryw gorau yn cael eu gwerthu fel teirw bridio a’r gweddill yn cael eu pesgi ar y fferm a’u gwerthu yn uniongyrchol i’w lladd i ABP neu Dunbia neu yn arwerthiant anifeiliaid yr Wyddgrug.
Mae profi meinwe’r lloeau trwy dagio’r clustiau yn rhoi gwybodaeth bwysig am DNA a BVD i fod yn sail i’r penderfyniadau hynny.
Nid yn unig mae manteision rheoli ac ariannol o fyrhau’r cyfnod lloea ond i’r teulu Jones byddai’n rhoi mwy o amser iddynt ei dreulio gyda’u teulu ifanc ac i wneud gwaith arall ar y fferm ar ôl lloea a hefyd ŵyna eu diadell o 1,200 o famogiaid.
Credant hefyd y gall y bolws eu helpu i arbed arian ar AI.
“Gobeithio y byddwn yn arbed dipyn ar AI gan fod gan y bolws system liwiau sy’n dangos yr amser delfrydol i roi AI,” dywedodd Sian.
Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.