Cyflwyniad Prosiect Moelogan Fawr

Safle: Moelogan Mawr, Carmel, Llanrwst

Swyddog Technegol: Gwion Parry

Teitl y Prosiect: Treialu technoleg newydd i ganfod buchod yn gofyn tarw/lloea a monitro iechyd cyffredinol, ynghyd â chyfrifo’r enillion ar fuddsoddiad ac unrhyw arbediad/cynnydd mewn elw sy’n deillio o’u defnyddio.

 

Cyflwyniad i’r prosiect: 

Mae gwella ffrwythlondeb buches fagu a thynhau’r patrwm lloea yn effeithio’n sylweddol ar effeithlonrwydd ac yn allweddol i gael buches broffidiol. Bydd cael mynegai lloea o 365 diwrnod a phatrwm lloea tynn yn arwain at reolaeth haws ar ddogn gaeaf a bydd rheoli’r fuwch yn haws o ran lloea a rheolaeth ar y llo o hynny ymlaen. Mae sicrhau bod pob buwch yn perfformio i eithaf ei gallu yn hanfodol er mwyn cynnal cynaliadwyedd y busnes.

Prif nod y prosiect ym Moelogan Mawr yw tynhau’r patrwm lloea, gan gynyddu’r data a gesglir a gwneud y defnydd gorau o dechnoleg newydd arloesol. Trwy well casglu ar ddata bydd y ffarmwr yn gallu lleihau costau sy’n ymwneud â chanfod buchod yn gofyn tarw a thriniaethau ffrwythlondeb i fuchod. Bydd hefyd yn cynnig cyfle i wneud gwelliannau o ran effeithlonrwydd adnoddau, gan gynnwys llafur ac AI. Yn y pen draw bydd addasu arferion rheoli o ganlyniad i gasglu data yn arwain at ostwng costau cynhyrchu, yn ogystal â chreu mwy o allbwn.


Amcanion y Prosiect:

Amcan allweddol y prosiect yw defnyddio technoleg canfod buchod sy’n gofyn tarw newydd i dynhau’r patrwm lloea. 

Bydd y prosiect yn cofnodi manteision defnyddio bolysau Smaxtec o ran iechyd a ffrwythlondeb y fuches. Rhoddir bolws i bob buwch a bydd yn rhoi gwybodaeth gyson am dymheredd y corff. Mae’r data hwn yn cynnig manteision o ran trin afiechyd, gan y byddwn yn gallu dod o hyd i unrhyw dymheredd annaturiol sy’n arwydd o afiechyd neu broblemau iechyd eraill. Mae’r bolws yn gallu helpu i ddod o hyd i afiechyd hyd at 4 diwrnod cyn i symptomau clinigol ddod yn weladwy, gan arwain o bosibl at lai o ddefnydd o wrthfiotig.  

Gan bod y bolws yn bresennol yn yr anifail yn barhaus, bydd yn gallu canfod gofyn tarw cyn ac ar ôl mynd at y tarw. Bydd hyn yn rhoi cyfle i wneud gwell penderfyniadau rheoli, e.e. gwaredu swynogydd neu ymyrraeth filfeddygol i sicrhau bod anifeiliaid yn dangos y gylchred fridio fel y dylen nhw cyn mynd at y tarw. 

Bydd y bolws Smaxtec hefyd yn gallu dynodi yn union pryd wnaeth yr anifail ddechrau’r gylchred sy’n allweddol i ragweld yr amser cywir i gael tarw. Gyda dulliau traddodiadol, fel paent cynffon, nid yw hyn yn bosibl ar hyn o bryd. Bydd cael y wybodaeth hon yn lleihau’r nifer o weithiau y bydd angen AI, yn ogystal â’r llafur i wneud hynny.  

Ar y cyd, bydd gwneud penderfyniadau rheoli ar sail y data a roddir gan y dechnoleg hon yn sicrhau bod y fuches yn cael ei chadw yn gynhyrchiol ac effeithlon.  

 

Y Dangosyddion Perfformiad Allweddol a Osodwyd:

  1. Cynyddu’r ganran o heffrod sy’n cymryd tarw yn y gylchred gyntaf o 57% i >65%.
  2. Lleihau’r gwaith arsylwi ar yr heffrod yn ddyddiol o 5 awr i 1 awr. 
  3. Lleihau costau triniaethau milfeddygol ar gyfer ffrwythlondeb ac iechyd. Ar hyn o bryd yn fflyshio, cynnal archwiliad canfod beichiogrwydd ac yn defnyddio CIDR (Rhyddhau cyffuriau mewnol dan reolaeth); bydd y bolws yn lleihau’r costau hyn yn sylweddol, gan gael gwared â’r costau archwiliad canfod beichiogrwydd a fflyshio o bosibl.  

 

Llinell amser a Cherrig milltir: 

8 Ebrill 2020 – Rhoi’r bolws ar waith a’u rhoi i’r buchod, cofnodi data i ddechrau 
Ebrill – Mehefin 2020 – Canfod heffrod sydd ddim yn dangos cylchred i’w harchwilio gan y milfeddyg a’u trin
1 Gorffennaf 2020 – Dechrau rhoi AI 
Gorffennaf 2020 – Ebrill 2021 – Dynodi unrhyw heffrod sy’n dangos cylchred sy’n awgrymu nad ydyn nhw’n gyflo, a pharhau i fonitro eu hiechyd
Ebrill – Mai 2020 – Dechrau lloea