26 Medi 2022

 

Mae defnyddio data ar effeithlonrwydd mamogiaid i lywio penderfyniadau ynglŷn â bridio mewn diadell fynydd Gymreig wedi dangos gwerth cofnodi perfformiad mewn bridiau mynydd, gan fod y ffigurau hynny’n dangos bod y mamogiaid sy’n perfformio orau yn y ddiadell yn magu ddwywaith cymaint o gilogramau o gig oen na’r famog arferol.

Drwy gyfrwng eu gwaith prosiect fel un o Safleoedd Arddangos Cyswllt Ffermio, mae’r cynhyrchwyr cig oen Llion a Siân Jones yn cofnodi perfformiad er mwyn dewis yr ŵyn benyw cadw mwyaf effeithlon ar gyfer eu diadell gaeedig o famogiaid croesfrid a mamogiaid Cymreig wedi’u Gwella.

Mae arnynt angen mamog galed sy’n gallu cynhyrchu ŵyn mewn system sydd ond yn defnyddio ychydig o fewnbynnau ym Moelogan Fawr, ger Llanrwst, Conwy.

Mae’r cwpl yn cofnodi data gan gynnwys nifer yr ŵyn sy’n cael eu geni a’u magu, pwysau’r ŵyn, problemau iechyd (fel cloffni a mastitis), a sgôr cyflwr y corff (BCS), er mwyn dewis ŵyn benyw o famogiaid sy’n ei gwneud hi’n dda yn eu system.

Eu nod yw cynhyrchu diadell gaeedig, sy’n cael eu magu i berfformio’r tu allan oddi ar laswellt, gyda phwysau aeddfed cyfartalog o oddeutu 60-65kg.

Os caiff ŵyn benyw cadw eu magu o oddi mewn i’r ddiadell, dylid dewis y rhain pan gânt eu geni a’u magu o linach famol dda, cynghora’r arbenigwraig ddefaid annibynnol Kate Phillips, sy’n rhoi mewnbwn technegol i’r prosiect.

Caiff y mamogiaid eu pwyso adeg gofyn hwrdd, adeg sganio a phan ddônt i mewn, a phan fo’u hŵyn yn wyth wythnos oed ac yn cael eu diddyfnu.  

Mae dewis ŵyn benyw cadw sydd â chyfraddau tyfu gwell hyd at wyth wythnos oed, yn gyffredinol, yn golygu dewis oherwydd cynhyrchiant llaeth gwell – ond y perygl yw, drwy eu dewis dim ond ar sail eu cyfradd dyfu, y bydd mamogiaid aeddfed trymach yn cael eu dewis.

Caiff data sy’n cael ei gasglu’n electronig ei ddefnyddio gan Mr a Mrs Jones i weld pa famogiaid yw’r perfformwyr gorau.

O ddadansoddi’r data hwnnw o dymor wyna 2022, gwelwyd mai’r mwyaf o gig oen a fagwyd gan bob mamog oedd 62kg, o’i gymharu â’r ffigur cyfartalog o 31.6kg.

Mae’r ffigur hwnnw, mewn cyfuniad â kg/mamog sydd wedi cael hwrdd, wedi cael ei ddefnyddio i gyfrifo effeithlonrwydd y famog, ac mae hwnnw’n dangos amrediad mawr – o 20% i 107% – gyda’r ffigur cyfartalog ar gyfer mamogiaid Cymreig yn 56%.

Dywedodd Mrs Phillips fod yna wastad amrediad mawr o effeithlonrwydd mewn diadell, ond ychwanega: “Mae gweld y gwir ddata yn agoriad llygad; mae’n dweud wrthych fod rhai mamogiaid yn cael eu cario, a bod rhai eraill yn gweithio’n galed iawn inni.”

Dengys y data o’r ddiadell ym Moelogan Fawr fod y mamogiaid mwyaf effeithlon yn famogiaid sy’n magu gefeilliaid, ond rhybuddia Mrs Phillips, gyda bridiau mynydd, y gallai magu cyfran fawr o efeilliaid fel ŵyn cadw fynd â’r ddiadell i gyfeiriad sy’n rhy eithafol.

“Mae’n aml yn well cael mamog sy’n cynhyrchu oen o faint gweddus, felly mae’n rhaid rhoi ystyriaeth i hynny wrth edrych ar y ffigurau.”

Bydd monitro sgôr cyflwr corff mamogiaid yn rheolaidd ar adegau allweddol o’r flwyddyn hefyd yn helpu i lywio’r dull o reoli’r mamogiaid. Roedd rhai o’r mamogiaid yn niadell y Jonesiaid wedi colli dau bwynt BCS rhwng cymryd hwrdd a diddyfnu, tra bo cyflwr rhai eraill heb newid.

“Mae dewis ŵyn benyw sy’n gallu magu ŵyn heb golli gormod o’u cyflwr yn bwysig,” meddai Mrs Phillips.

Y gorau yw BCS y famog pan mae’n cymryd hwrdd, yr uchaf fydd ei chanran wyna adeg sganio, felly hefyd bwysau ei hoen yn wyth wythnos oed ac adeg diddyfnu. Caiff mamogiaid mynydd ym Moelogan Fawr eu cadw ar BCS gwastad o 2.5 – 3, gan osgoi cynnydd a chwympiadau yn eu cyflwr.

Mae EID hefyd yn cofnodi unrhyw broblemau adeg wyna, a thynnir sylw at yr wybodaeth hon pan gânt eu rhoi drwy’r gorlan ffrydio.

I ddiadellau sy’n chwilio am sefydlogrwydd mamol, mae cloffni, mastitis a bwrw’r llawes goch yn fflagiau coch, cynghora Mrs Phillips. Bydd dewis o blith mamogiaid nad ydynt wedi bod yn gloff nac wedi cael unrhyw broblem iechyd arall hefyd yn helpu i leihau achosion o glefydau ar draws y ddiadell.

Er bod bridio effeithlonrwydd i ddiadell yn gallu bod yn waith araf, mae’r manteision yn gynyddol, a bydd yn arwain at ddiadell fwy cynhyrchiol yn yr hirdymor, meddai Mrs Phillips.

“Gellir defnyddio effeithlonrwydd mamogiaid i werthuso perfformiad y ddiadell a dylanwadu ar newidiadau mewn systemau,” meddai.

“Fe all pwysau ŵyn, pwysau mamogiaid a niferoedd ŵyn dynnu sylw at amrywiol broblemau posibl.

Dywed Non Williams, swyddog technegol cig coch Cyswllt Ffermio, a fu’n cydlynu’r prosiect, fod defnyddio cofnodion ar y fferm yn gallu helpu i ganfod problemau penodol ynglŷn ag iechyd y ddiadell, problemau â chynhyrchiant a lles, yn ogystal â helpu i osod targedau a chynlluniau gweithredu penodol ar gyfer y fferm er mwyn rhoi sylw i’r problemau hyn i’r dyfodol.

“Mae sefydlu system reoli dda sy’n cynnwys cofnodi perfformiad yn hollbwysig i helpu i wneud penderfyniadau bridio i’r dyfodol, ac fe allai hefyd wella elw’r fferm,” meddai.

Mae Moelogan Fawr hefyd yn rhan o Gynllun Hyrddod Mynydd Hybu Cig Cymru, sef cynllun sy’n canolbwyntio ar briodweddau hyrddod a ddefnyddir i gynhyrchu ŵyn i’w lladd, ac sy’n annog ffermwyr i ddefnyddio hyrddod y mae eu perfformiad yn cael ei gofnodi i gynhyrchu ŵyn.

Mae’n helpu ffermwyr i gofnodi perfformiad gan ddefnyddio technoleg DNA a defnyddio EBVs i wella effeithlonrwydd a pherfformiad y ddiadell. 

 

FFEITHIAU AM DDIADELL MOELOGAN FAWR

Caiff y mamogiaid croesfrid eu hwyna dan do

Caiff y mamogiaid Cymreig wedi’u Gwella eu hwyna’r tu allan o fis Ebrill ymlaen

Caiff yr holl ŵyn eu pesgi oddi ar borfa

Caiff ŵyn eu gwerthu ar darged pwysau marw o 16kg- 22kg

Caiff Cyswllt Ffermio, a gyflwynir gan Menter a Busnes a Lantra Cymru, ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint