Profion pellach ym Moelogan Fawr

Canlyniadau sganio 2023

 

Nifer mamogiaid

Wyna

Gwag

1

2

3

2023 yn gyffredinol

2022 yn gyffredinol

Grŵp hwrdd terfynol

212

21/3/23

3

73

123

13

169

174

Mamogiaid Cymreig

382

4/4/23

17

157

198

10

153

151

Mamogiaid dau ddant

268

4/4/23

23

168

76

1

121

136

Cyfanswm

862

 

43

398

397

24

149

 

% o’r ddiadell

 

 

5

46.2

46.1

2.8

 

 

Roedd y mamogiaid gyda’r hyrddod am ddwy gylchred oestrws llawn (5 wythnos) yn yr hydref yn 2022. Roedd sganio yn 2023 yn debyg iawn i 2022 ond roedd y gyfradd o ddefaid gwag yn uwch na’r targed o 2% ar gyfer y mamogiaid Cymreig, gan ei fod wedi cyrraedd 4.5%, a chyfradd y mamogiaid dau ddant oedd 8.6%. Gall hyn gael ei briodoli i’r haf sych iawn a’r cyfyngiad posibl ar gyfradd tyfu’r mamogiaid ifanc, ac efallai oherwydd nad oeddent wedi cyrraedd y targed o 80% o’u pwysau corff llawndwf erbyn hyrdda.

 

Profi dŵr

Casglwyd dau sampl dŵr ar y fferm, un o dap ar fuarth y fferm, wedi’i fwydo o ffynnon sydd yn cyflenwi’r siediau defaid a gwartheg (Buarth), a’r llall o lyn sydd yn cyflenwi’r caeau pori (Llyn). 

 

Unedau

Lefel derbyniol *

Buarth

Llyn

Cyfanswm calsiwm

mg/l

<1000

10.1

6.7

Cyfanswm magnesiwm

mg/l

 

2.3

1.45

Cyfanswm sodiwm

mg/l

<400

3.0

4.9

Dargludedd trydan

uS/cm

 

87

66

Bicarbonad

mg/l

 

17

<10

Clorid

mg/l

<15,000

4.8

9.3

Nitrad nitrogen

mg/l

10 - 30

4.0

0.6

Nitrad

mg/l

45 – 132 (100)

17.7

2.7

Sylffad

mg/l

<125

7.6

7.1

Cyfanswm copr

mg/l

<0.5 i ddefaid, <1.0 i wartheg

1.16

0.01

Cyfanswm haearn

mg/l

<0.3 – mwy na 0.3 yn gallu blasu’n ddrwg

0.01

0.4

Solidau toddedig

mg/l

<3000

61

46

Amonia N

mg/l

 

<0.1

<0.01

pH

 

>5.5

6.1

6.3

Caledwch fel CaCO3

mg/l

<500 (cen ar beipiau yn digwydd os yn uchel iawn). Ystyrir y dŵr hwn yn ‘feddal’.

34.7

22.6

Carbonad

mg/l

 

<10

<10

Molybdenwm toddedig

ug/l

5 (Gall Mo leihau amsugniad copr)

0.06

0.08

*Dehongliad dadansoddiad dŵr ar gyfer da byw Univ of Alberta (2007). 

Roedd y samplau yn gyffredinol o fewn y terfynau derbyniol ar gyfer dŵr addas i dda byw. Fodd bynnag, roedd dwy elfen i’w nodi:

  • y copr uchel yn y sampl Buarth (gall achosi tocsigedd mewn defaid yn benodol – er hyn, roedd y lefel yn y sampl Llyn yn isel a gan fod yr anifeiliaid ddim ond dan do am gyfnod byr, mae hyn yn annhebygol o achosi unrhyw broblemau). Mae’n bwysig ystyried holl ffynonellau copr pan yn atchwanegu i osgoi tocsigedd. 
  • y haearn uchel yn y sampl Llyn (gall hyn leihau blasusrwydd ac achosi cen)

Dadansoddiad mwynau ac elfennau hybrin chwe sampl glaswellt (24/8/21) 

 

 

Cymedr

Nodweddiadol

Anghenion defaid

 

Deunydd sych (g/kg)

175.50

   

Mwynau Macro

Ffosfforws (%)

0.42

0.39

 

Magnesiwm (%)

0.24

0.17

 

Calsiwm (%)

0.79

0.59

 

Sodiwm (%)

0.33

0.23

 

Potasiwm (%)

2.76

2.77

 

Clorid (%)

0.86

   

CAB (mEq/kg)

512.50

   

Mwynau Micro

Manganîs (mg/kg)

168.25

102.00

50

Copr (mg/kg)

8.45

9.00

6 +

Sinc (mg/kg)

34.05

51.00

40

Seleniwm (mg/kg)

0.22

0.07

0.11

Cobalt (mg/kg)

0.16

0.13

0.11

Ïodin (mg/kg)

0.35

0.23

0.15 - 0.5

Gwrthwynebwyr

Haearn (mg/kg)

242.00

 

<500

Alwminiwm (mg/kg)

102.50

 

<300

Molybdenwm (mg/kg)

1.37

1.32

<1.5

Sylffwr (%)

0.44

0.25

<0.25

Plwm (mg/kg)

0.53

   

Casglwyd samplau glaswellt ffres yn Awst 2021 ac fe’i cyflwynwyd ar gyfer dadansoddiad mwynau. 

Dangosodd y canlyniadau sinc isel (gall fod yn berthnasol i gloffni), ïodin isel yn y gaeaf a sylffwr uchel (fyddai’n gallu effeithio ar argaeledd copr).

Mae sinc yn bwysig ar gyfer gwella clwyfau, cyfanrwydd croen a chyrn a twf charnau ond mae diffygion yn anghyffredin yn y DU.

Mae ïodin yn elfen allweddol ar gyfer gweithrediad hormon thyroid a rheolaeth o raddfa metabolaidd. Mae hefyd yn hanfodol, ynghyd â selemiwm, ar gyfer symudiad braster brown mewn ŵyn newydd-anedig gan helpu i osgoi hypothermia yn yr ychydig oriau cyntaf o fywyd. Mae ganddo swyddogaeth allweddol mewn ffrwythlondeb ac iechyd. 

Mae copr, er yn ddigonol ar gyfer defaid ond yn is na’r targed ar gyfer gwartheg yn y samplau hyn, ynghlwm â nifer o systemau ensym yn y corff. Mae’n hanfodol ar gyfer ffrwythlondeb (cychwyn oestrws) a metabolaeth egni mewn da byw. Un symptom allweddol o ddiffyg copr yw cyflwr ‘tindro’ (‘swayback’) mewn ŵyn, gan fod copr hefyd ynghlwm â datblygiad nerfau. Mae ei argaeledd yn cael ei effeithio’n negyddol gan lefelau uchel o sylffwr, molybdenwm a haearn.  

Rhoddwyd bolws i’r mamogiaid i gyd (gan gynnwys copr ar ddechrau Hydref). 

 

Ffocws ar faeth mamogiaid cyn wyna

Dadansoddiad silwair 2022

 

Clamp silwair ochr dde

Clamp silwair ochr chwith

Cymedr

% Deunydd sych

44.7

43.9

44.3

% Protein crai

12.1

12.4

12.3

Amonia N (% o’r cyfanswm N)

2.5

2.5

2.5

pH

4.3

4.4

4.4

ME (MJ/kgDM)

10.4

10.4

10.4

Gwerth D

65

65

65

Dognau mamogiaid

Mae hi’n ymarfer cyffredin ar y fferm i bori’r mamogiaid ar swêj hyd at oddeutu pythefnos cyn wyna, ac yna eu symud dan do i wyna ar silwair a deiet cyfansawdd. Mae hyn wedi gweithio’n dda iawn yn y gorffennol ac mae’r mamogiaid wedi wyna gyda cholostrwm o safon a digonedd o laeth. Ar gyfer y dogn dan do, mae’r deiet yn seiliedig ar ME, FME, ERDP a DUP o 10.4 MJ/kgDM, 8.4 MJ/kgDM, 82 mg/kgDM a 18.4 mg/kgDM yn ôl eu trefn. 

Roedd cymeriant silwair wedi’i amcangyfrif ar tua 1.6% o bwysau’r corff – neu 1.1kg o bwysau sych silwair (2.5kg pwysau ffres ar gyfer mamogiaid 70kg) hyd at yr wythnos olaf cyn wyna, yna efallai byddai gostyngiad yng nghymeriant silwair i tua 1.0kg pwysau sych neu 2.2kg deunydd ffres. Mae risg wrth fwydo swêj y bydd y mamogiaid yn fyr o brotein yn y dair wythnos olaf cyn iddynt wyna. 

Gofynion egni mamog 70 kg (MJ/dydd). 

MJ/dydd

Wythnosau cyn wyna

 

5

3

1

Defaid ag un oen

11.2

12.6

14.4

Gefeilliaid

13.1

15.3

18.3

Tripledi

14

16.7

20.3

Dognau bwyd cyfansawdd gyda silwair yn ad-lib. 

Bwyd cyfansawdd kg/mamog/dydd

Wythnosau cyn wyna

 

5

3

2

Defaid ag un oen

-

0.15

0.35

Gefeilliaid

0.2

0.4

0.7

Tripledi

0.3

0.55

0.9

Yn ddelfrydol, mae angen i’r bwyd cyfansawdd fod yn cynnwys tua 19/20% o brotein crai. Unwaith y mae mwy na 0.5kg yn cael ei fwydo ar unwaith, yna dilyd rhannu i ddau sesiwn fwydo y pen fesul diwrnod. Dylid rhoi digon o borthiant i unrhyw famogiaid tenau ar gyfer un oen yn ychwanegol i’r hyn y maent yn ei gario.

 

Proffiliau metabolig

Cafodd samplau gwaed y mamogiaid eu cymryd ar 21/2/23 tua 4 wythnos cyn wyna er mwyn asesu digonolrwydd y deiet pan fo’r mamogiaid yn pori’r swêj. Roedd sgôr cyflwr corff (BCS) y defaid ag un oen yn 2.4 ar gyfartaledd (2.0 to 3.0) ac yn 2.8 ar gyfer yr efeilliaid (2.25 – 3.5). O ganlyniad, roedd y BCS cyfartalog o dan y targed ar gyfer y cyfnod hwn o’r beichiogrwydd.

Profwyd y gwaed ar gyfer:

  • BOHB – ‘beta-hydroxybutyrate’ – dangosydd statws egni  
  • Wrea – dangosydd cymeriant protein sy’n ddiraddiadwy yn y rwmen
  • Albwmin – dangosydd maeth protein hirdymor a phroblemau iechyd gwaelodol 
  • Magnesiwm – dangosydd digonedd o fagnesiwm
  • Copr – dangosydd tocsigedd neu diffyg copr posibl

Gall cymeriant annigonol hirfaith o ERDP effeithio swyddogaeth rwmen, colostrwm a chynhyrchiant llaeth, a twf y ffetws. Yn yr un modd, mae albwmin isel yn ddangosydd o gyfradd goroesi isel mewn ŵyn o ganlyniad. 

 

Canlyniadau (Prifysgol Caeredin 21/2/23) – 17 o famogiaid wedi’u profi, 10 o efeilliaid a 7 o ddefaid ag un oen. 

 

BOHB (mmol/l)

Urea (mmol/l)

Albwmin (g/l)

Magnesiwm (mmol/l)

Copr (umol/l)

 

cymedr

amrediad

cymedr

amrediad

cymedr

amrediad

cymedr

amrediad

cymedr

amrediad

Gefeilliaid

0.41

0.24-0.61

1.56

0.79-1.48

24.84

22.6-28.6

0.98

0.83-1.18

16.61

13.16-20.91

Defaid ag un oen

0.38

0.27-0.44

1.11

0.5-2.2

22.21

18.2-28.6

0.81

0.6-1.01

17.5

10.94-23.02

Trothwy

<0.9

>1.7

30

0.7-1.3

9.0 -19

Mae’n amlwg o’r canlyniadau fod y mamogiaid i gyd yn brin o brotein sy’n ddiraddiadwy yn y rwmen tra’n pori swêj, sydd ddim yn syfrdanol oherwydd cynnwys protein isel swêj o 9.5% o brotein crai yn y deunydd sych. Roedd hefyd arwydd fod cyflenwad protein hirdymor hefyd yn gyfyngol gan fod albwmin yn y gwaed o dan y targed o 30g/l. Gall Hypalbuminaemia darddu o gyflyrau amrywiol a gall llyngyr cronig fod yn un achos. Gan fod y mamogiaid wedi’u trin ar gyfer llyngyr yr iau ar 5/1/23 gyda closantel (Flukiver), cynghorwyd i gymryd samplau ysgarthol ar gyfer asesu effeithiolrwydd y driniaeth. Os gellir cadarnhau nad oes clefydau fel ‘endoparasitism’, cloffni a chlafr yn bodoli, mae’n debygol fod y lefelau isel o albwmin o ganlyniad i gymeriant protein isel ar ddechrau’r gaeaf. Cafodd y mamogiaid eu brechu yn erbyn clwy’r traed (Footvax) ar 8/2/23. 

Cafodd Sian and Llion gyngor (28/2/23) i symud y mamogiaid oddi ar y swêj i ddeiet yn seiliedig ar silwair gyda bwyd cyfansawdd neu i borfa er mwyn gwella eu cymeriant protein yn gyflym. Symudwyd y mamogiaid o dan do ar y 5ed o Fawrth.

Profwyd y mamogiaid gwag yn negyddol ar gyfer y clefydau’r Ffin a Johne’s ond roedd un o’r 8 mamogiaid yn bositif ar gyfer tocsoplasmosis. 

Kate Phillips, Mawrth 2023