Fel arfer mae’n anodd canfod heffrod ifanc yn gofyn tarw, sy’n gallu arwain at batrwm lloea estynedig ynghyd â chostau meddygol ychwanegol ar gyfer ffrwythlondeb a thriniaethau iechyd.

Ymunwch â Cyswllt Ffermio, Dr Iwan Parry o Filfeddygon Dolgellau a ffermwyr safle arddangos, Llion a Siân Jones i glywed am ganlyniad prosiect yn dilyn cyflwyno technoleg bolws i helpu ganfod heffrod yn gofyn tarw ym Moelogan Fawr, un o safleoedd arddangos cig coch Cyswllt Ffermio. Yn ystod y weminar, bydd data a gasglwyd yn weledol a gyda’r bolws yn cael ei drafod mewn perthynas â chyfraddau cyfloi, sganio a chanlyniadau lloea.

Yn ychwanegol i’r drafodaeth am y prosiect, bydd cyngor cyffredinol ac awgrymiadau yn ymwneud â ffrwythlondeb buchesi sugno yn cael eu darparu yn ogystal â chyfle i ofyn cwestiynau i’r siaradwyr.


Related Newyddion a Digwyddiadau

GWEMINAR: Adolygiad Prosiect Porfa Cymru 2022
Prosiect Porfa Cymru - Adolygiad o'r Tymor Pori 2022 {"preview
GWEMINAR am wybodaeth grantiau: Cynllun Troi’n Organig - 12/07/2022
Siaradwr: Richard Evans, Llywodraeth Cymru Mae’r Cynllun Troi’n
GWEMINAR am wybodaeth grantiau: Grantiau Bach – Gorchuddio Iardiau a Buddsoddi mewn Rheoli Maetholion - 05/07/2022
Siaradwr: Richard Evans, Llywodraeth Cymru Mae Grantiau Bach –